Awtistiaeth a’r theatr: 'Cael gweld pobl fel fi'

Published
image copyrightThe Other Room/Jonathan Dunn

Mae'r Theatr Genedlaethol wedi cyhoeddi Bwrsari Datblygu Syniad am y tro cyntaf, sydd wedi ei gynnig i chwe pherson sy'n uniaethu â nodweddion sy'n cael eu tangynrychioli yng ngwaith y cwmni theatr.

Un o'r rheiny sydd wedi cael bwrsari yw Kallum Weyman sydd yn ddramodydd a chyfarwyddwr anneuaidd (non-binary) sydd ag awtistiaeth.

Cafodd Kallum sgwrs â Chymru Fyw ynglŷn â'r cyfle a phwysigrwydd cynrychiolaeth o fewn y byd theatr iddyn nhw.

'Ddim ar dy ben dy hun'

Bwriad y bwrsari yw helpu i ddatblygu syniadau unigolion sydd â nodweddion sydd heb gael eu cynrychioli gan y Theatr yn y gorffennol. Ond fel rhywun sydd ag awtistiaeth, beth yn union mae 'cynrychiolaeth' ar lwyfan yn ei olygu i Kallum?

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig bod 'na gymeriadau allan yna sy'n cynrychioli pobl wahanol," eglura Kallum, "oherwydd mae angen y teimlad weithiau bod ti ddim ar dy ben dy hun. Mae hefyd yn codi ymwybyddiaeth o bobl wahanol, i bobl wahanol.

"Mae'n bwysig fod sut maen nhw'n delio efo fo yn cael ei wneud yn dda, gydag ymchwil, clywed gan bobl sy'n cael eu heffeithio gyda fo, a'i fod o ddim yn cael ei roi i mewn fel tokenism.

"Dwi wedi gweld rhai cynyrchiadau lle mae awtistiaeth yn cael ei ddelio ag o yn rili da, fel The Curious Incident of the Dog in the Night-Time gan y National Theatre yn Lloegr, ac yng Nghymru mae cwmni Hijinx yn dda."

image copyrightKirsten McTernan
image captionCynhyrchiad Meet Fred gan gwmni theatr Hijinx, sy'n creu perfformiadau gydag artistiaid ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth, ar lwyfan ac ar y sgrin

Clywed 'lleisiau fel fi'

Ond beth am tu ôl i'r llen? Fel dramodydd a chyfarwyddwr sydd ag awtistiaeth, pa mor bwysig yw cael cyfleoedd i greu i Kallum a phobl debyg iddyn nhw?

"Dwi ddim yn clywed am lawer o bobl fel fi yn ysgrifennu ar gyfer y theatr ar draws y DU," medd Kallum. "Dwi'n clywed mwy am bobl non-binary na phobl ag awtistiaeth. Ond mae rhywbeth fel y bwrsari yn gam da i gael mwy o leisiau gwahanol yn cael eu clywed.

"Mae clywed gan bobl sydd yn ysgrifennu drama sydd fel fi, i mi yn gadarnhad mod i'n gallu ei 'neud o. Bod yna leisiau fel fi.

"Os dwi'n clywed bod pobl fel fi yn ysgrifennu, mae o'n rhoi gobaith i mi; mae'n bosib mynd allan, siarad am dy syniadau, ysgrifennu, ac mae 'na gymorth allan yn y byd i roi dy stwff di i fyny.

Kallum Weyman yn perfformio
Kallum Weyman
Dwi ddim yn clywed am lawer o bobl fel fi yn ysgrifennu ar gyfer y theatr ar draws y DU."

"Mae hefyd oherwydd sut mae awtistiaeth yn effeithio ar dy feddwl di. Dwi'n ffeindio fod fy llais i, pan dwi'n ei gymharu o efo gwaith pobl eraill, yn hollol wahanol weithiau.

"A dwi'n meddwl fod hynny'n bwysig, nid yn unig i bobl efo awtistiaeth, ond pawb i glywed llais gwahanol a safbwynt hollol newydd ar y byd.

"Achos hyd yn oed os dwi ddim yn ysgrifennu am awtistiaeth, mae popeth dwi'n ei ysgrifennu yn dod o fy ymennydd i, felly mae sut mae hynny'n effeithio arna i yn dod allan yn fy ngwaith mewn rhyw ffordd neu'r llall."

Hyder i ysgrifennu yn Gymraeg

Yn wreiddiol o ardal Conwy, mae Kallum bellach yn byw dros y ffin yn Llanfarthin ger Croesoswallt, ond yn gobeithio dychwelyd i Gymru ar ôl i'r cyfyngiadau COVID-19 godi.

Ail iaith yw'r Gymraeg i Kallum, a chael y cyfle i ysgrifennu yn Gymraeg unwaith eto oedd un o'r prif atyniadau dros ymgeisio am y bwrsari, meddai, ynghyd â'r cyfle i arbrofi gyda syniadau a chael cyngor arbenigwyr yn y maes.

"Dwi 'di bod eisiau trio ysgrifennu rhywbeth yn Gymraeg ers oesoedd.

"Nes i ddysgu'r iaith ar ôl symud i Gymru flynyddoedd yn ôl ac es i i ysgol uwchradd Gymraeg. Ond ar ôl astudio yn y brifysgol am dair blynedd yn Saesneg, o'n i'n teimlo mod i wedi anghofio lot o Gymraeg, a doedd gen i ddim yr hyder i ysgrifennu yn Gymraeg.

Kallum Weyman
Kallum Weyman
Dwi'n gweld eu bod nhw rili eisiau ehangu'r llais maen nhw'n ei ddefnyddio tu fewn i theatr Gymraeg."

"Dwi'n gweithio ar brosiect dwi'n ei alw yn Bagiau Plastig Mutant. Mae o am ddiwedd y byd... neu mae o fwy am ddau berson sy'n byw ar ôl i'r byd ddod i ben ac yn trio darganfod ffordd neu reswm i oroesi. Mae o'n syniad eitha' syml ond dyna pam dwi'n hoffi darganfod a chwarae rownd efo fo ac arbrofi.

"Dwi ddim yn gwybod os alla i deimlo'n fwy cyfforddus, yn fy hyder nid jyst yn y Gymraeg ond yn fy syniadau fy hun. Mae'r Theatr Genedlaethol yn meddwl bod yna werth yn yr hyn dwi wedi ei roi ar bapur - mae'n gyfle anhygoel."

Ymdrech y theatr i gynrychioli

Dyma'r tro cyntaf i'r Theatr Genedlaethol gynnig bwrsari o'r fath, fel ymgais i gynyddu amrywiaeth eu hartistiaid ac er mwyn dod o hyd i enwau newydd. Pa mor flaengar mae Kallum yn teimlo yw'r byd theatr o ran cynrychioli mathau gwahanol o unigolion?

"Dwi'n meddwl ei fod o'n mixed bag, ac mae'n dibynnu ar beth wyt ti'n ei wylio. Mae beth mae'r theatr agosaf atat ti yn ei roi ymlaen yn gallu dweud lot am y stwff gwahanol ti'n ei weld.

"Dwi'n edrych ar beth mae'r Theatr Genedlaethol wedi ei wneud yn ddiweddar; maen nhw'n gwrando ar leisiau gwahanol, ac o siarad a gweithio dipyn bach efo nhw, dwi'n gweld eu bod nhw rili eisiau ehangu'r llais maen nhw'n ei ddefnyddio tu fewn i theatr Gymraeg.

image copyrightKallum Weyman

"Dwi'n teimlo bod theatr yn trio. Oherwydd fod theatr mor bersonol, mewn ffordd sy'n hollol wahanol i sut mae teledu a ffilmiau yn cael eu creu, mae 'na fwy o ofal yn cael ei roi i fewn i 'neud yn siŵr eu bod nhw'n gwneud sioe dda o gynrychiolaeth.

"Falle bod llai ohono fo, ond y rhan fwyaf o amser, dwi'n gweld lot o gariad a chymorth yn mynd i mewn i gynyrchiadau a lleisiau gwahanol."

Yr unigolion eraill sydd wedi ennill Bwrsari Datblygu Syniad y Theatr Genedlaethol yw Mared Jarman, Bev Lennon, Ifan Pleming, Emma Daman Thomas a Sara Louise Wheeler.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig