Dyn wedi ei gyhuddo o lofruddio dynes yn Rhiwabon

Published
image captionRoedd y ddynes wedi marw erbyn i blismyn gyrraedd y tŷ yn Rhiwabon

Bydd dyn 25 oed o Riwabon ger Wrecsam yn ymddangos ger bron Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun ar gyhuddiad o lofruddiaeth wedi digwyddiad yn y pentref yn ystod oriau mân fore Iau.

Cafodd Kyle Ellis ei arestio wedi i gorff dynes gael ei ganfod wedi tân mewn tŷ.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd iddyn nhw gael eu galw i'r tŷ oddeutu 00:25 fore Iau, 11 Chwefror.

Roedd y ddynes wedi marw erbyn iddyn nhw gyrraedd.

Dywed Heddlu'r Gogledd eu bod yn cydymdeimlo â'i theulu.

Pynciau Cysylltiedig