Arestio dyn ar ôl marwolaeth dynes mewn tân yn Rhiwabon

Published
image captionCafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i'r digwyddiad ym mhentref Rhiwabon am 00:25 fore Iau

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio wedi i gorff dynes gael ei ddarganfod yn dilyn tân mewn tŷ yn ardal Wrecsam dros nos.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi cael eu galw i'r digwyddiad ym mhentref Rhiwabon am 00:25 fore Iau yn dilyn adroddiadau bod corff wedi'i ddarganfod.

Yn ôl y llu cafodd y ddynes ei chyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle.

Mae dyn lleol 25 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Neil Maxwell y bydd rhagor o heddweision yn yr ardal fore Iau wrth i'r llu gynnal eu hymchwiliad i'r digwyddiad.

Mae'r heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.

Mae'r crwner wedi cael ei hysbysu am y farwolaeth.

Pynciau Cysylltiedig