Sut brofiad yw chwarae dros Gymru mewn stadiwm gwag?

Published
image copyrightBRIAN LAWLESS

Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi effeithio ar bob agwedd o'n bywydau, gan gynnwys chwaraeon.

Mae wythnosau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn gyfnod ble mae tafarndai ledled Cymru'n orlawn a'r genedl yn mwynhau'r brwydro'n erbyn y pum gwlad arall.

Yn sgil pandemig Covid-19 cafodd Pencampwriaeth Chwe Gwlad 2020 ei chwblhau yn yr hydref, ac hynny heb dorfeydd. Ond eleni mi fydd y gystadleuaeth gyfan yn cael ei chwarae mewn stadiymau gwag, gyda thîm Cymru'n dychwelyd gartref i'r Stadiwm Principality.

Sut effaith mae hyn yn ei gael ar chwaraewyr? Ac a fydd gan yr amodau yma unrhyw ddylanwad ar bwy fydd yn ennill y Chwe Gwlad?

Chwarae 'heb bwysau'r dorf'

Fe chwaraeodd Lloyd Williams, mewnwr Gleision Caerdydd, dros Gymru mewn stadiymau gwag yn yr hydref. Mae bellach wedi chwarae am rai misoedd o flaen eisteddleoedd gwag i'w ranbarth a'i wlad:

"Roedd y gemau cyntaf heb dorf yn gwneud pethau ychydig yn haws, achos doedd y pwysau ddim arno chi fel chwaraewyr.

"Ond wrth i'r gemau fynd ymlaen dechreuodd yr achlysur o chwarae deimlo mwy diflas na'r arfer. Mae hyn i gyd wedi dangos pa mor bwysig yw'r dorf, yn enwedig i dîm fel Cymru sy'n chwarae lot ar emosiwn."

image copyrightAthena Pictures
image captionLloyd yn arwain yr ymosod yn erbyn Benetton ar Barc yr Arfau. Mae Lloyd wedi bod gyda rhanbarth y brifddinas ers iddo ddechrau ei yrfa rygbi proffeisynol yn 2010, ac mae wedi ennill 31 cap dros Gymru.

"Mae e'n brofiad gwahanol iawn," meddai Lloyd. "I ddechrau ry'ch chi'n rhedeg mas o'r stafelloedd newid gyda'r gerddoriaeth ymlaen, ac yna ma'n hollol dawel - distawrwydd llethol.

"Mae e bach yn rhyfedd achos hyd yn oed pan chi'n chware rygbi dan 15 neu dan 16 mae bach o dorf, gyda rhieni a theulu yn cefnogi chi."

Dylanwadu ar benderfyniadau'r dyfarnwyr?

Mae Lloyd yn credu mai efallai'r agwedd amlycaf y gallwn weld newid yw ym mherfformiad y dyfarnwyr, a gyda phob un o gemau Cymru y llynedd yn gorffen o fewn saith pwynt i'r gwrthwynebwyr fe all penderfyniadau'r swyddogion fod yn hollbwysig.

"Ond does dim o hynny ar hyn o bryd, ac mae'n rhaid cofio nad ydy'r dorf yn gallu cael yr effaith ar y dyfarnwr nawr, felly fydd e'n ddiddorol gweld os oes mantais i'r timau cartref nawr, heb dorf, achos fel arfer os oes penderfyniad 50-50 i'r dyfarnwr wneud, mae'r dorf yn gallu troi pethau o blaid y tîm cartref."

image copyrightStu Forster
image captionYr anthemau ar gyfer gém olaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2020, y golled yn erbyn Yr Alban yn Llanelli, 31 Hydref 2020.

Er yr holl newidiadau o'u cwmpas, mae Lloyd yn credu bod rhaid i'r chwaraewyr ganolbwyntio ar yr hyn sydd o fewn eu rheolaeth nhw gan gadw agwedd broffesiynol.

"Mae'n bwysig cofio bod wastad swydd i chi ei wneud fel chwaraewr. Mae'r bechgyn yn cael eu talu i chwarae rygbi, felly pan mae'r bechgyn yn troi lan mae'n bwysig bo' chi'n gwneud eich swydd a bod yn hollol broffesiynol. Yn y byd delfrydol mi fydden ni'n hoffi cael torf yn y stadiwm, ond nid dyna'r sefyllfa ar hyn o bryd.

"Yn bersonol dwi jest yn ceisio gwella fy ngêm yn yr wythnos a chwarae mor dda ag allai ar y penwythnos. Ond dwi'n siŵr i ambell i chwaraewr, efallai yn y blaenwyr sy'n chwarae gyda lot o emosiwn ar gyfer yr agwedd gorfforol, maen nhw'n ceisio ymdopi heb dorf."

Yr ochr ymarferol

Mae'n wahanol i gefnogwyr sy'n gwylio ar y teledu, ond sut mae'r diffyg torf yn effeithio ar y gêm yn ymarferol? Oes agweddau sy'n golygu bod y chwarae'n anoddach neu haws?

"Mae'n haws cyfathrebu yn sicr," meddai Lloyd, "chi'n gallu clywed popeth - gan y ddau dîm, sydd ddim rili'n helpu llawer gan fod 'na alwadau ar gyfer popeth dyddie 'ma.

"Ond does 'na ddim esgus o ran methu clywed dim - dyna'r un o'r agweddau positif o beidio cael torf. Mae'r dyfarnwr yn gallu clywed mwy ar y cae, ac ry'n ni'n gallu clywed beth mae e'n ddweud i'r ochr arall hefyd."

image copyrightMichael Steele
image captionAsgellwr Cymru Louis Rees-Zammit yn croesi am gais yn erbyn Georgia ym Mharc y Scarlets - unwaith eto heb dorf - yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref, ar 21 Tachwedd 2020.

"Yr unig sŵn sy'n digwydd yw gan y fainc a'r hyfforddwr. Mae negeseuon i'r chwaraewyr dal yn dod drwy'r bois sy'n dod â dŵr ymlaen i'r cae, ond mae hefyd yn bosib clywed y bechgyn o'r garfan sydd ar y fainc, ble fel arfer bydden ni ddim yn eu clywed nhw."

"Falle bod yr asgellwyr yn gallu clywed pethau hyd yn oed yn well, ond fel mewnwr dwi ar bwys y bêl felly mae'n eitha' swnllyd o ran y chwaraewyr sydd o nghwmpas i."

Chwarae nôl yn y Principality

"Y peth pwysicaf ydi bod y bechgyn yn chwarae nôl yn y stadiwm (y Principality) - mae e mor bwysig i Gymru. Mae wastad yn mynd i fod yn le sy'n helpu'r tîm chwarae ar ei orau, ac mae'r ffaith y bydd y stadiwm ei hun yn wag yn cael effaith o ran y dyfarnwr, ond bydd pob chwaraewr eisiau perfformio dim ots pwy fydd yn gwylio yn y stadiwm.

"Mae'r dorf wedi bod yn enfawr i Gymru dros y blynyddoedd, felly fydd e'n ddiddorol gweld sut wneith y tîm hebddo."

image copyrightMatthew Horwood
image captionStrydoedd Caerdydd yn orlawn wrth i 75,000 o bobl ddod allan o'r stadwim cenedlaethol - golygfa ni fyddem yn ei weld yn ystod y bencampwriaeth eleni.

Mae'r siwrne i'r stadiwm hefyd yn mynd i fod yn dra wahanol i'r garfan cenedlaethol.

"Mae teithio fewn i ganol Caerdydd at y stadiwm yn achlysur enfawr i'r garfan, felly fydd e'n rhyfedd ac yn drist i weld y strydoedd yn wag. Ond yn anffodus dyna'r byd ni'n byw ynddo ar hyn o bryd ac mae'n rhaid i'r bois ymdopi â hynna."

Y cefnogwyr yn dychwelyd

Er gwaethaf y sefyllfa drist ar hyn o bryd mae Lloyd yn edrych 'mlaen at yr adeg pan fydd y cefnogwyr i gyd yn dychwelyd i'w cefnogi.

"Fydd e'n hwb enfawr i'r bechgyn, i'r rhanbarthau ac i'r cefnogwyr eu hunain hefyd - dwi'n siŵr bod pobl yn colli gweld rygbi byw a chwaraeon byw yn gyffredinol.

"Yn bersonol dwi'n edrych 'mlaen yn ofnadwy i gael y torfeydd yn ôl, ac dwi'n siŵr bod pob chwaraewr rygbi yn teimlo yr un peth."

Hefyd o ddiddordeb: