Dirwyon Covid-19 i bartïon tŷ, sledwyr a beicwyr
- Published
Cafodd cyfanswm o 240 o ddirwyon eu rhoi gan Heddlu De Cymru i bobl dorrodd rheolau coronafeirws dros y penwythnos.
Yn eu plith oedd pobl mewn partïon tŷ, grwpiau a oedd wedi ymgasglu a phobl a oedd wedi teithio heb fod angen.
Mae Cymru dan y lefel uchaf o gyfyngiadau, sy'n golygu mai ond teithiau hanfodol sy'n cael eu caniatau.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod swyddogion wedi rhoi dirwyon i bobl oedd wedi teithio i Eryri o Lundain, ac eraill yn Nyffryn Ceiriog o Lannau Mersi.
Numerous Fixed penalties given out for Covid breaches over the weekend
— NWP Denbigh Rural (@NWPDenbighRural) February 1, 2021
Some sledders from England
Quite a few coming to see the snow, including 3 from London who wanted some drone footage!
And some local people having a party
Come on people#KeepWalesSafe pic.twitter.com/h5pxwVvIuE
Rhwng 29 a 31 Ionawr, dywedodd Heddlu'r De bod y dirwyon yn cynnwys 101 o bobl mewn partïon:
- Pobl mewn partïon yn ardaloedd Cathays, Ystum Tâf, Y Tyllgoed a Threlái yng Nghaerdydd;
- Partïon ardal y Rhws a Llanbydderi ym Mro Morgannwg, Maerdy yn y Rhondda, Twynyrodyn ym Merthyr Tudful ac ym Mherthcelyn yn Aberpennar;
- Wyth o bobl yn yfed mewn gerddi cyhoeddus yn Ystum Tâf, a grŵp arall a gafodd eu dal yn yfed mewn maes parcio yn Merthyr Tudful;
- Wyth a oedd mewn grŵp o wahanol aelwydydd yng Nghaerdydd a gafodd eu stopio ym Merthyr Tudful ar eu ffordd adref o Ben y Fan;
- Pedwar o feicwyr yng Nglyn-Nedd.
Fe dderbyniodd nifer o yrwyr ddirwyon yn Rhiwbeina, Pontcanna a Porthcawl hefyd am deithiau nad oedden nhw'n rhai hanfodol.
Yn y gogledd, dywedodd yr heddlu bod nifer wedi teithio i Eryri yn yr eira.
Roedden nhw'n cynnwys sledwyr o Loegr, a thri o Lundain oedd eisiau tynnu lluniau drôn.
Cafodd saith o ddirwyon eu rhoi i bobl o Lannau Mersi oedd mewn cerbydau 4x4 yng Nglyn Ceiriog a Llanarmon Dyffryn Ceiriog.
Yw eich taith yn hanfodol?
— Llywodraeth Cymru #ArosGartref🏠 (@LlywodraethCym) January 31, 2021
Plîs arhoswch gartref a dilynwch y rheolau yma 👇
Cyhoeddwyd y dirwyon diweddaraf ychydig oriau ar ôl i'r Prif Weinidog Mark Drakeford gadarnhau y byddai cyfyngiadau yng Nghymru yn parhau ar y lefel uchaf, lefel pedwar, am dair wythnos arall.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Andy Valentine o Heddlu'r De: "Er ein bod yn llwyr werthfawrogi pa mor heriol fu'r cyfyngiadau hyn, mae'r union ffaith eu bod wedi cael eu hymestyn yn dangos nad nawr yw'r amser i fod yn hunanfodlon.
"Mae torri amodau amlwg fel y rhai a welwyd gan ein swyddogion dros y penwythnos yn peryglu'r cynnydd a gyflawnwyd gan y mwyafrif llethol sy'n dilyn y rheolau, ac yn rhoi straen ychwanegol ar ein gwasanaethau iechyd sydd eisoes dan bwysau.
"Byddwn yn parhau i ymateb i bryderon gan ein cymunedau, cynnal patrolau rhagweithiol a gweithio'n agos gyda'n partneriaid awdurdod lleol ar y Timau Gorfodi ar y Cyd i sicrhau bod y rhai sy'n torri'r rheolau yn amlwg neu'n gyson yn cael eu gorfodi i weithredu."
Pynciau Cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Published
- 17 Ionawr
- Published
- 30 Tachwedd 2020