Aled Haydn Jones: Arwain Radio 1 a'r daith i fod yn rhiant

Published
image caption"Fi ddim yn licio teimlo bod fi mewn swydd sydd yn mynd i fod yn swydd-am-byth felly nes i roi anelu at y swydd yma fel y tasg mawr."

Roedd 2020 yn flwyddyn fawr i Aled Haydn Jones - ynghanol y pandemig cafodd ei benodi yn bennaeth ar Radio1, ei nod ers dechrau ar yr orsaf 20 mlynedd yn ôl. Ond gyda'i bartner Emile mae hefyd wedi bod ar daith wahanol iawn - y daith i fod yn rhiant.

"Mae'r flwyddyn wedi bod yn un ffantastig efo Radio 1, yn amlwg ddim yn ffantastig efo'r pandemig a Covid a phopeth, a wedyn ynghanol hwnna i gyd, y daith gymhleth o fynd drwy IVF a surrogacy," meddai Aled o'i gartref yn Llundain lle mae wedi bod yn cynnal cyfarfodydd a chyfweliadau Zoom drwy'r dydd.

Wedi credu erioed nad oedd yn bosib iddo gael plentyn yn fiolegol fel dyn hoyw daeth hynny'n bosibilrwydd gyda surrogacy.

Fe gychwynnodd eu taith i gael plentyn drwy 'fam fenthyg' (term Cymraeg am surrogate nad ydi Aled yn teimlo'n hollol gyfforddus ag o) bron i dair blynedd yn ôl.

Digwyddodd y ffilmio ar gyfer rhaglen ddogfen Ti, Fi a'r Fam Fenthyg ar S4C dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae Aled yn teimlo'n nerfus wrth i'r dyddiad darlledu agosáu.

image copyrightS4c
image captionAled ac Emile gyda theulu y 'fam fenthyg' Dawn

"Pan soniodd S4C am ffilmio'r daith oni'n meddwl 'grêt, byddan nhw'n ffilmio ni'n dechrau'r IVF, cael y plentyn a wedyn, dyna ni, ta-da!'

"Ond mae wedi bod lot mwy cymhleth na hwnna, mae 'na lot o ddelio efo pethau ar y camera, felly mae'n mynd i fod yn od edrych nôl dros y flwyddyn diwetha.

"Beth bynnag chi'n meddwl mae'r doc yn mynd i fod fel pan chi'n dechrau gwylio, dyw e'n sicr ddim yn gorffen fel chi'n meddwl ... yn sicr, oni ddim yn gwybod sut mae'n mynd i orffen," meddai heb ddatgelu yn union beth yw diwedd y siwrne.

image copyrightS4c
image captionDyw Aled ddim am ddatgelu canlyniad eu siwrnai ond wnaeth pethau ddim mynd yn union fel roedd wedi ei ddisgwyl, meddai

Ond mae Aled yn awyddus i bobl siarad am y pethau sy'n cael eu codi yn y rhaglen - ac i gynulleidfa Gymraeg wybod am y cyfleoedd sydd ar gael drwy eu taith nhw: sut mae pobl hoyw yn gallu cael teulu, y menywod sy'n cynnig surrogacy a sensitifrwydd y berthynas yn ogystal â'r rheolau cyfreithiol a'r anawsterau i gyd.

Anelu'n uchel

O ddechrau'n 14 oed gyda radio ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, yna meithrin ei grefft ar Radio Ceredigion cyn cael ei swydd gyntaf gyda Radio 1 yn 1998, wnaeth o erioed ddychmygu y byddai'n eistedd yn sedd y bos rhyw ddydd?

Aled Haydn Jones yn stiwdio Radio 1
Sarah Louise Bennett
Fi'n cofio un neu ddau o jôcs, 'Un diwrnod, chi byth yn gwybod falle byddai'n rhedeg y lle!'
Aled Haydn Jones

"Na, byth!" meddai, ond mae'n amlwg ei fod wedi anelu'n uchel o'r cychwyn.

"Fi'n rhywun sy'n mwynhau teimlo fel fi'n symud ymlaen, felly fi'n cofio eisiau bod yn gweithio ar y rhaglen frecwast a fi'n cofio un neu ddau o jôcs, 'Un diwrnod, chi byth yn gwybod falle byddai'n rhedeg y lle!' ond dim tan mod i ar y rhaglen frecwast nes i benderfynu 'reit, mae angen i fi wybod lle fi'n gweithio tuag at'.

"Fi ddim yn licio teimlo bod fi mewn swydd sydd yn mynd i fod yn swydd-am-byth felly nes i roi anelu at y swydd yma fel y tasg mawr.

"Ddim mod i'n meddwl yn siŵr y bysen i'n cael y job - mae gymaint o bobl eisiau'r job - ond jyst gwneud yn siŵr bod na rhywbeth i weithio tuag ato. Felly i gael y swydd, mae jyst yn amazing."

'BB Aled!'

image captionDaeth Aled i amlygrwydd pan oedd yn cynhyrchu rhaglen Chris Moyles ar Radio 1

Mae'n chwerthin am y ffaith fod llawer yn dal i'w adnabod oddi wrth ei lysenw o ddyddiau sioe frecwast Chris Moyles yn y 2000au, BB Aled, lle roedd yn trafod y rhaglen Big Brother.

"Mae e jyst mor anodd i bobl gredu nawr bo fi'n rhedeg Radio 1 ac y byddai'n rheoli 40 o gyflwynwyr ac yn edrych dros yr orsaf - fi'n dod nôl i Gymru a mae pobl yn mynd 'BB Aled!' - mae e jyst yn teimlo fel byd gwahanol!"

"Ond eto nes i fwynhau rhaglen Chris Moyles gymaint, a nath e gymaint i fy ngyrfa fi, a nid jyst o ran mynd lan y ladder ond mwy fel dysgu fi popeth fi'n gwybod nawr."

Newidiadau i Radio 1

Ers mis Mehefin 2020 mae wedi gwneud newidiadau yn barod - gyda Huw Stephens, Dev a Phil Taggart yn gadael a chyflwynwyr newydd yn dod yn eu lle, yn eu plith y Gymraes o Gaernarfon, Sian Eleri sy'n cyflwyno'r Chillest Show ar y penwythnos.

"Fi wedi cael y sgyrsiau i gyd a fi'n teimlo'n gyfforddus efo lle mae Radio 1 mynd i fynd dros y blynyddoedd nesaf," meddai.

Mae ganddo dair rhan i'w weledigaeth: i ddechrau canolbwyntio ar y gynulleidfa sydd rhwng 15 a 24 mlwydd oed; bod yn lle i ddarganfod artistiaid newydd a dod â nhw i sylw cynulleidfa fawr y BBC; a meithrin gyrfaoedd cyflwynwyr ac artistiaid newydd.

Mae'n dipyn o her mewn cyfnod pan mae pobl ifanc yn troi at lwyfannau fel TikTok, YouTube, Spotify ac Apple i gael eu cerddoriaeth a'u hadloniant ond mae'n credu bod Radio 1 mewn lle cryf.

"Ni'n gweld Radio 1 fel man sydd yna i gynulleidfa ifanc - mae dros 80% o bobl ifanc yn gwrando ar radio ym Mhrydain, sy'n ffantastic, mwy na sydd yn defnyddio Spotify neu Apple Music i wrando ar gerddoriaeth, mwy na YouTube hyd yn oed, felly mae radio dal y lle mwyaf ym Mhrydain i gael cerddoriaeth.

"Ond rhaid deall bod radio byw yn un math ac on demand music fel playlists neu ondemand speech, sef podcast, neu socials neu YouTube, yn mynd i fod yn bwysig i bobl ifanc. Felly rydyn ni angen gwneud yn siŵr bod Radio 1 yn gryf ym mhob man lle mae pobl ifanc ym mynd i fod efo cerddoriaeth."

Symud y ffocws o Lundain

Er ei fod yn mynd nôl i Aber i weld y teulu mor aml ac y gall, cyn y clo beth bynnag, Llundain yw adre "ar y foment".

Ond wrth adlewyrchu ar ei siwrnai ei hun mae'n awyddus i wneud ei ran mewn newid y diwylliant sy'n gwneud Llundain yn ganolog i'r byd radio ac adloniant.

"Pan oni yn Aberystwyth oedd Caerdydd, i ddechrau, yn edrych mor bell. Wedyn pan oni'n methu llwyddo i gael swydd yng Ngaerdydd, trio am Llundain, ac oedd hwnna'n teimlo hyd yn oed yn bellach na Caerdydd."

image copyrightAled Haydn Jones
image captionMae Aled ac Emile gyda'i gilydd ers 16 mlynedd

Yn 2019 a 2020 fe gyflwynodd Radio 1 fenter i roi cyfle i gyflwynwyr dros Brydain gyfan anfon demo i mewn er mwyn darganfod talent newydd ar gyfer yr orsaf. O'r fenter hon y daeth Sian Eleri i'w sylw.

"Nath hi jyst rhoi demo i mewn efo dros 1,000 o bobl o dros Brydain a wnaethon ni wneud blind audio test - nes i ddim darllen y CVs neb - oni jyst yn mynd ar y llais. Felly nes i pigo 35 cyflwynydd newydd a wedyn edrych ar y proffeils a sylweddoli faint o bobl o tu allan o Lundain oni wedi pigo.

"Ni'n trio gweithio efo'r BBC i weld sut allwn ni gael y rhaglenni i ddod o yn fwy agos at lle mae pobl yn byw yn lle gorfod gofyn i bobl symud i Lundain i gael y swydd. Felly dyna lle fi'n dechrau, gobeithio. Ond mae'r BBC yn gallu bod yn lle mawr ac yn weddol anodd newid pethau, ond fi'n gobeithio gallu gwneud hyn mwy yn y dyfodol."

Oes ganddo gyngor i unrhyw un sydd eisiau gyrfa ar radio neu yn y byd cerddorol?

"Jyst cael yr airmiles i mewn. Ma nhw'n dweud os chi'n neud rhywbeth am fil o oriau bod chi'n dod yn arbenigwr mewn rywbeth. Felly os chi'n trio bod yn fand neu'n ganwr neu'n gyflwynydd jyst neud yn siŵr bod y practis gynnoch chi a bod chi'n gallu defnyddio beth sydd o'ch cwmpas chi.

"Gallith e fod yn lleol, fel Aberystwyth, fel Radio Ceredigion, ond gall hefyd fod ar y we, creu blog, neu Tik Tok a jyst cyflwyno ar-lein fe bod y skillset yn adeiladu efo chi. Wedyn pan chi yn dod i Radio 1 trwy rhywbeth fel y demo uploader wnaethon ni wneud dros y ddwy flynedd diwethaf, bod 'na skillset efo chi'n barod.

"Dim jyst bod chi moyn bod yn Radio 1, ond rhoi'r gwaith mewn, wedyn pan ni'n cwrdd â'n gilydd, bod chi'n barod efo'r skills i fod yn Radio 1."

A'r sgiliau hynny a ddysgodd wrth fwrw ei brentisiaeth ar ddechrau ei yrfa sydd wedi bod yn sylfaen gadarn i bob swydd uwch mae wedi ei chael wedyn meddai Aled - o gynhyrchu'r sioe frecwast, i fod yn olygydd y penwythnos, i raglenni dydd, i bennaeth rhaglenni ac yna pennaeth yr orsaf.

"Mae e fel bod yr un skillset dwi'n mwynhau gwneud, sef creu stwff newydd i bobl ifanc ond jyst cael mwy o'r orsaf i allu gweithio efo."

Mae'n eironig mai drwy ddod i amlygrwydd ar raglen Chris Moyles yn y 2000au y cafodd Aled gyfle i weithio ar Radio Cymru a C2 a chyflwyno ar S4C hefyd. Drwy lwyddo yn Llundain y daeth i wneud cysylltiadau yn y cyfryngau Cymraeg, sydd yn amlwg yn bwysig iddo hefyd.

Felly os ydi o'n rhywun sy'n hoffi gosod nod iddo'i hun, ydi o'n gweithio ar ei gynllun mawr nesaf?

"Na - hwn yw'r un!" meddai.

"Byddai'r cam nesaf yn mynd i fod mewn i proper BBC management a fydd dim creu unrhyw beth newydd gyda fi."

Ac eto, mae'n cyfaddef ei fod er gwaetha'i hun yn naturiol yn chwilio am nod newydd.

"Nawr problem nesa fi yw lle fi eisiau mynd eto. A fi'n trio anwybyddu y teimladau o wneud yn siŵr bo fi'n gwybod y cam nesaf a jyst mwynhau'r swydd sydd 'da fi achos mae e jyst y job fwyaf perffaith i gael."

Ond am rŵan y rhaglen ddogfen sydd ar ei feddwl a'r daith sydd wedi bod yn "llawer mwy extreme na beth oni'n disgwyl".

"Mae pawb yn anffodus yn dweud bod e'n anodd, wrth gwrs ma fe'n anodd i gael babi pryd bynnag, hyd yn oed os chi ddim yn mynd drwy IVF ond wedyn efo IVF mae'n gallu bod yn anodd ac yn anffodus ni wedi cael lot o lwc gwael .. ond gawn ni weld," meddai.

image copyrightS4c
image captionFe wnaeth Emile ac Aled gyfarfod eu mam fenthyg Dawn drwy Surrogacy UK ac mae'r holl broses yn seiliedig ar gyfeillgarwch. "Ni wedi bod yn lwcus," meddai Aled

Mae Ti, Fi a'r Fam Fenthyg yn cael ei darlledu ar S4C, nos Sul, Chwefror 7, 2021

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig