Gwasanaethau Cymraeg byrddau iechyd yn 'destun pryder'

Liam Evans
Gohebydd BBC Cymru

Published
image copyrightPhotofusion
image captionMae'n rhaid i fyrddau iechyd fod yn gallu darparu gwasanaeth Cymreg

Mae angen i fyrddau iechyd Cymru fod yn fwy rhagweithiol wrth gynnig gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.

Tra bod y sefyllfa wedi gwella ers cyflwyno'r safonau iaith 18 mis yn ôl, mae Aled Roberts yn dweud bod nifer o achosion wedi bod lle nad yw "gofynion y safonau wedi eu dilyn" mewn ysbytai.

Ychwanegodd bod hynny yn "destun pryder".

Ers i strategaeth 'Mwy na Geiriau' ddod i rym yn 2019 mae yna ddyletswydd gyfreithiol ar sefydliadau cyhoeddus i gynnig gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dan y mesur hwn mae'n rhaid i sefydliadau fel byrddau iechyd roi cynnig gweithredol, sy'n golygu bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu trwy gyfrwng y Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi comisiynu gwerthusiad fydd yn "anelu at gryfhau'r ddarpariaeth Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol".

image captionDywed Aled Roberts fod defnydd o'r Gymraeg yn dangos ansawdd y gofal sy'n cael ei roi

Yn ôl y comisiynydd roedd ymwybyddiaeth byrddau iechyd Cymru o ddarpariaeth y Gymraeg cyn cyflwyno'r safonau newydd "yn frawychus".

Dywed fod y "sefyllfa wedi gwella yn arw" ond bod yna "beth ffordd i fynd i greu cynllun cadarn".

"Be 'da ni wedi gweld ydy bod 'na broblemau wedi bod efo'r cyfathrebu yna," meddai Mr Roberts wrth raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.

"Mae 'na nifer o achosion lle dydy gofynion y safonau ar ran cyfathrebu'n ddwyieithog ddim wedi cael eu dilyn.

"Da' ni'm yn ei weld o fel hawliau ieithyddol ond yn hytrach ansawdd y gofal."

image copyrightSPL
image captionMae gwaith ymchwil wedi dangos fod cleifion bregus yn gweld hi'n haws cyfathrebu yn eu mamiaith

Yn ôl Mr Roberts fe ddangosodd ymchwil gan ei swyddfa ym mis Tachwedd fod "prin hanner cartrefi gofal Cymru yn cynnig gofal dwyieithog".

Tra bod y comisiynydd yn dweud ei bod hi'n bwysig cydnabod y pwysau sydd ar y gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd, mae'n mynnu fod y "gofyn yn un cyfreithiol".

Mae peth ymchwil wedi dangos fod cleifion bregus yn ei gweld hi'n haws cyfathrebu yn eu mamiaith - rhywbeth a arweiniodd at gyhoeddi'r safonau yn 2016.

Pryderon am gam-ddiagnosis

Yn ôl Gwilym Sion ap Gruffudd, cymrawd ymchwil gyda Phrifysgol Bangor sydd wedi gwneud ymchwil i ddwyieithrwydd y maes iechyd a gofal, mae derbyn gofal yn eich mamiaith yn allweddol.

"Mae'n hynod allweddol ac mae 'na enghreifftiau yn fy ymchwil lle mae diffyg darpariaeth Cymraeg wedi achosi cam-ddiagnosis ac wedi cael effaith ar eu gwelliant yn hir dymor," meddai.

Yn ôl Mr ap Gruffudd mae 'na bryder hefyd fod pobl yn annhebygol o gwyno am ddiffyg darpariaeth Cymraeg yn y cyfnod clo gan fod pobl yn gwerthfawrogi unrhyw ofal mewn cyfnod anodd.

"Yn sicr mae'r ymchwil fues i yn rhan o yn dangos fod cleifion yn llai tebygol o gwyno am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg oherwydd y parch at broffesiwn y gôt wen," meddai.

"Maen nhw'n wirioneddol ddiolchgar am y gofal."

'Dim cysondeb'

Un enghraifft o'r safonau iaith sydd ar waith yw nodi ar wely'r claf ai gofal trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg sy'n cael ei ffafrio.

Ond mae Mr Roberts am wybod a oes mwy yn cael ei wneud na hynny.

"Be' dwi ddim yn siŵr ohono fo ydy os oes 'na unrhyw beth yn mynd tu hwnt i hynny, a dyna pam fod 'na drafodaethau yn cael eu cynnal gyda'r byrddau iechyd," meddai.

"Be' sydd ei angen ydy lledaenu'r arfer yna. Ar hyn o bryd does dim cysondeb fod pob bwrdd iechyd mewn pob achos yn cofnodi dewis iaith.

"A heb sicrhau bod hynny'n digwydd, dydy'r pethau 'da ni am ei weld ddim am ddigwydd."

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i gefnogi byrddau iechyd a gweithio gyda'r comisiynydd.

Ychwanegodd llefarydd eu bod wedi comisiynu gwerthusiad o strategaeth 'Mwy na Geiriau' er mwyn cryfhau'r ddarpariaeth.

Straeon perthnasol