Cofio Mirain Llwyd Owen: 'Doedd neb craffach...'

Published
image copyrightS4C
image captionMirain Llwyd Owen yn chwarae rhan dylanwadol Delyth Haf yn Tydi Bywyd yn Boen

Pan fu farw'r actores a'r awdures Mirain Llwyd Owen yn 47 mlwydd oed, soniodd nifer ar y cyfryngau cymdeithasol am ddylanwad mawr ei rôl yn y gyfres am angst yr arddegau, Tydi Bywyd yn Boen.

Roedd ei phortread didwyll o Delyth Haf yn hollbwysig i ferched yn eu harddegau yn y 1990au, ac yn gwbl newydd yn y Gymraeg, meddai'r gomediwraig Esyllt Sears.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanolGweld mwy ar Twitter

Ond fe ddilynwyd y rhan gan ddegawdau o gyfraniad tawel y tu ôl i'r llen gan Mirain fel awdur ar rai o gyfresi drama mwyaf poblogaidd S4C.

Ei chyfaill Emlyn Gomer Roberts, sydd hefyd yn actor ac awdur, sy'n cofio'r sgriptwraig "dalentog, gadarn a chraff" oedd hefyd yn "wylaidd" a "di-lol".

Fel actores deledu y dechreuodd Mirain ei gyrfa, a hynny'n 16 oed.

Mae ei phortread gonest a di-lol o'r prif gymeriad Delyth Haf yn y gyfres eiconig Tydi Bywyd yn Boen (ac yn nes ymlaen yn y dilyniant Tydi Coleg yn Grêt) wedi dylanwadu ar ac ysbrydoli sawl cenhedlaeth o Gymry ifainc. Aeth ymlaen i actio mewn cyfresi a ffilmiau niferus, gan greu cymeriadau cofiadwy fel Jo yn Rownd a Rownd, Dorcas yn Y Stafell Ddirgel a Nyrs Anwen yn Pengelli, i enwi ond rhai.

Ond wedi blynyddoedd o bortreadu cymeriadau cofiadwy, synhwyrodd bod pethau'n mynd yn dynnach ar gwmnïau teledu annibynol, a phenderfynodd y byddai'n ddoeth iddi gael cymhwyster ychwanegol os am ennill bywoliaeth ddigonol.

Mirain Llwyd Owen yn actio yn Tydi Coleg yn Grêt
S4C
Mae unrhywun sy’n perfformio neu sgwennu’n effeithiol yn deall pwysigrwydd cymeriadau y gall eraill uniaethu â nhw a dyna barhaodd Mirain i’w wneud yn ei gyrfa fel awdur.
Esyllt Sears

Ar awgrym Tim ei phartner cytunodd y byddai'n gwneud synnwyr, a hithau'n hanu o deulu llengar ac yn ddarllenwr awchus, i fentro i'r byd ysgrifennu creadigol.

Ac wrth gwrs, fel y dywed yr hen ystrydeb, mae'r gweddill yn hanes.

Ar ôl cwblhau cwrs Cyfle, cafodd waith sgriptio'n syth ar y gyfres Rownd a Rownd. Cymaint oedd yr argraff a wnaeth nes iddi gael gwahoddiad i fod yn un o driawd i gyd-ysgrifennu'r gyfres olaf o Amdani.

Symudodd ymlaen wedyn i fod yn un o'r tîm sgriptio ar y gyfres Tipyn o Stad.

Mae'n siŵr, petai Mirain wedi cael ei gorfodi i ddewis, mai'r gwaith yma a roddodd y mwyaf o bleser iddi - roedd wrth ei bodd gydag iaith arw, naturiol a di-lol Cofis Caernarfon, ac roedd hynny'n cael ei adlewyrchu yn y ddeialog gofiadwy a chyhyrog yr oedd hi'n ei osod yng nghegau cymeriadau'r gyfres.

image copyrightS4c
image captionRhoddodd Mirain Llwyd Owen "ddeialog gofiadwy a chyhyrog" i actorion y gyfres ddrama Tipyn o Stad

Ond ei phrif swmp o waith dros y blynyddoedd diwethaf, gwaith eto a roddodd bleser amheuthun iddi, oedd storïo a sgriptio Pobol y Cwm.

Wedi gwasanaeth o bron i ugain mlynedd i'r gyfres yr oedd yn cael ei hystyried yn un o aelodau mwyaf profiadol y tîm ysgrifennu: amcenir iddi ysgrifennu oddeutu 200 pennod i'r gyfres, a hi oedd y go-to ar gyfer sgriptio'r bennod Nadolig yn flynyddol - arwydd o'r parch a'r ffydd oedd gan y cynhyrchwyr ynddi. Ac wrth gwrs, ni fyddai byth yn siomi.

Roedd cysondeb ei safon, ei hadnabyddiaeth drylwyr o'r cymeriadau, gwreiddioldeb ei syniadau, ei deialog fywiog a bendiliai o'r ffraeth i'r dirdynnol, a'i chynhesrwydd a'i dyngarwch cynhenid hi fel awdur yn treiddio i bob sgript a feddai ei henw.

image captionBu Mirain yn storïo a sgriptio i gyfres Pobol y Cwm am bron i 20 mlynedd

Awgrymodd sawl un ohonom yn sgil ei marwolaeth ei bod hi'n rhy wylaidd i sylweddoli pa mor dalentog oedd hi.

Wedi ystyried, efallai fod hynny'n gamgymeriad.

Doedd neb craffach na Mirain, ac anodd fyddai credu na fyddai derbyn canmoliaeth gyson o'i sgriptiau gan actorion, y parch amlwg a delid i'w geiriau mewn cyfarfodydd awduron, yn ogystal â'r ymateb cyhoeddus cadarnhaol pan fyddai ei phenodau'n cael eu darlledu, yn rhoi'r hyder tawel iddi ei bod hi'n reit agos i'w lle.

Yr oedd ei hangerdd at ei gwlad a'i hiaith bob amser yn hollbresennol. Hi oedd un o aelodau cyntaf Yes Cymru, a bu'n gwasanaethu ar y pwyllgor cenedlaethol am rai blynyddoedd. Er ei bod erbyn hynny'n sâl ac ynghanol ei thriniaeth, mynnodd fynd ar yr orymdaith fawr drwy strydoedd Caernarfon yn 2019, a'i syniad hi oedd creu'r baneri Annibyniaeth trawiadol a gawsant eu hongian o falconi'r castell.

image captionRoedd Mirain yn un o aelodau blaenllaw ymgyrch Yes Cymru

Er y sylw a'r ganmoliaeth a dderbyniodd o oedran cynnar iawn, parhaodd drwy gydol ei hoes â'i thraed yn solet ar y ddaear, gydag adnabyddiaeth dawel a chadarn o'i chymeriad ei hun.

Yr oedd yn wrandäwr arbennig o dda; dim syndod felly iddi lwyddo i'r fath raddau mewn dwy ddisgyblaeth, actio a sgriptio, sy'n dibynnu'n drwm ar y gallu i wrando'n effeithiol. Doedd hi byth eisiau bod yn ganolbwynt y sylw, ond gwae'r sawl a ddehonglai hynny fel arwydd o wendid: medrai ei deud hi mor ddi-flewyn-ar-dafod â neb pan fyddai'r angen yn codi!

Ond y darlun ohoni fydd yn aros gyda'r rhan fwyaf ohonom fydd yr un o'r ferch ddi-lol gyda'i gwên annwyl, a'i geiriau, boed lafar neu ysgrifenedig, bob amser yn gynnil ac i bwrpas.

Mae'r rhwyg o'i cholli mor ifanc yn un garw, ond bydd yr atgofion amdani yn rhai melys tu hwnt.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig