Pro14: Connacht 20-26 Gweilch

Published
image copyrightInpho
image captionGeorge North yn sgorio cais cynnar i roi'r Gweilch ar y blaen er gwaethaf her Peter Sullivan

Bu'n rhaid i'r Gweilch frwydro i guro Connacht o 26 i 20 oddi cartref yn y Prol4 ar ôl bod 12 pwynt ar ei hôl hi ar yr egwyl.

17-5 oedd y sgôr ar ddiwedd yr hanner cyntaf, er i George North sgorio cais cyntaf y gêm.

Cafodd cyfleoedd pellach i ychwanegu pwyntiau yn yr hanner cyntaf eu gwastraffu wedi sawl achos o gam-drafod y bêl cyn i Alex Wootton a Peter Boyle roi Connacht at y blaen.

Ond fe gododd yr ymwelwyr eu gêm yn yr ail hanner, gyda Mat Protheroe'n tirio a cyn i gais Rhys Webb roi'r fantais unwaith yn rhagor i'r Gweilch.

Roedd yn fuddugoliaeth haeddiannol i'r Gweilch sydd nawr wedi curo chwe gêm o'r saith diwethaf.

Pynciau Cysylltiedig