Cwpan FA Lloegr: Abertawe 5-1 Nottingham Forest

Published
image copyrightGetty Images
image captionLiam Cullen oedd un o sgorwyr Abertawe

Fe sgoriodd Liam Cullen a Matt Grimes ddwy gôl yr un wrth i Abertawe guro Nottingham Forest yn hawdd a symud ymlaen i 16 olaf Cwpan FA Lloegr.

Sgoriodd Oli Cooper bumed gôl yn hwyr yn y gêm i selio'r fuddugoliaeth.

Mae'n golygu bod yr Elyrch wedi cyrraedd y bumed rownd am y trydydd tro mewn pedwar tymor.

Manchester City neu Cheltenham Town fydd eu gwrthwynebwyr nesaf, a hynny ar eu tomen eu hunain yn Stadiwm Liberty.

Roedd saith newid i 11 cyntaf tîm Steve Cooper, oedd eisoes wedi curo'r ymwelwyr yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.

Gyda'r Elyrch yn brwydro am ddyrchafiad, roedd disgwyl iddyn nhw guro tîm sy'n ceisio osgoi safleoedd y cwymp.

Wedi i Cullen a Grimes sicrhau mantais o 2-0 ar yr egwyl, roedd yna lygedyn o obaith i'r ymwelwyr pan sgoriodd Anthony Knockaert i'r ymwelwyr.

Ond fe bylodd hynny cyn hir wrth i Abertawe daro'n ôl yn gryf, er bod y penderfyniad i roi'r gic gosb arweiniodd at ail gôl Grimes yn ddadleuol.