Chwilio am berthnasau dyn a fu farw o'r ffliw Sbaenaidd

Published
Pynciau Cysylltiedig
image copyrightNational Museum of the Royal New Zealand Navy
image captionPhilip Gannaway (chwith) ar fwrdd yr SS Demosthenes yn 1916, pan oedd yn long filwrol

Mae yna apêl i geisio canfod teulu morwr o Seland Newydd a gafodd ei gladdu yng ngogledd Cymru yn 1918 ar ôl cael ei heintio â'r ffliw Sbaenaidd.

Roedd yr Is-gapten Philip Gannaway newydd briodi â'i wraig Muriel pan ymunodd â'r lluoedd arfog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ymunodd â'r Llynges Frenhinol Wrth Gefn Wirfoddol, gan wasanaethu yn Afon Menai cyn marw yn 32 oed.

Mae ei fedd ar Ynys Tysilio, ar bwys y Fenai, ar gyrion Porthaethwy.

image copyrightGeograph / Gordon Hatton
image captionMae'n bosib cerdded o Borthaethwy ar hyd sarn i Ynys Tysilio

Dywed yr hanesydd lleol, Bridget Geoghegan ei bod wedi derbyn ymatebion i stori am yr Is-gapten Gannaway ar wefan newyddion Stuff yn Seland Newydd, ond mae'n dal yn aros i glywed gan unrhyw un sy'n perthyn iddo.

"Dwi wedi cyfarfod aelodau teuluoedd rhai o'r bobl dwi wedi ymchwilio iddyn nhw, ac mae hynny wastad yn hyfryd - yn fonws," meddai.

Cafodd angladd yr Is-Gapten Gannaway ei gynnal ar 9 Tachwedd 1918 gydag anrhydedd llawn y llynges, ddeuddydd yn unig cyn i'r cadoedad ddod â'r ymladd i ben.

Daeth Ms Geoghegan o hyd i adroddiadau papur newydd yn nodi bod dros 200 o ddynion a swyddogion wedi ymuno â'r orymdaith, a fe gafodd iard llongau ei atal o barch iddo.

"Wnes i ddarganfod ei fod wedi priodi â'i gariad ychydig cyn gwirfoddoli a dod i'r Deyrnas Unedig," meddai.

"Roedd yn teimlo'n ddiwedd chwerw i stori serch."

image copyrightBridget Geoghegan
image captionRhan o'r gofgolofn ac Enwau'r ddau a deithiodd o ben arall y byd i'r wlad ble y buon nhw farw yn ystod pandemig 1918

Sarn sy'n cysylltu Ynys Môn ag Ynys Tysilio, ac mae nifer o'r unigolion sydd wedi eu claddu ym mynwent Eglwys Sant Tysilio wedi dod i Gymru o bell.

Un arall sy'n cael ei enwi ar gofgolofn ryfel y fynwent yw William Connington, corpral 23 oed gyda Chorfflu Awyr Awstralia a fu farw o'r ffliw Sbaenaidd yn Sir Buckingham.

"Roedd gan Connington deulu yn yr ardal - mae'n rhaid bod ei dad wedi mudo i Awstralia," meddai Ms Geoghegan.

"Roedd ei fodryb a chefnder yn byw ym Mhorthaethwy. Dwi'n meddwl bod hi'n debygol ei fod wedi dod i fyny i aros gyda'r teulu, a phan farwodd fe ddaeth ei fodryb ag o'n ôl i Borthaethwyr o Aylesbury fel ei fod wedi ei gladdu ymhlith ffrindiau."

Ers rhaid blynyddoedd, mae Ms Geoghegan ac eraill wedi ymchwilio a chofnodi unigolion sydd wedi'u henwi ar feddau a chofgolofnau lleol.

Cyn y cyfnod clo diweddaraf, aeth ati i greu taith yn Ynys Tysilio ar sail yr hanesion tu ôl i'r enwau.

Mae'r hanesion hynny'n cyfeirio at "goffadwriaethau teuluol anwyliaid a gladdwyd [oddi cartref] neu a gollwyd yn y môr", ac mae "bron yn bosib i gyffwrdd yn y boen", medd Ms Geoghegan.

Mae arysgrif rhieni'r Is-Gapten Gannaway i'w "mab annwyl" yn datgan: "Bu fyw mewn hedd, bu farw mewn hedd."

Pynciau Cysylltiedig