Sain Abertawe: Cofio gorsaf fu'n 'torri tir newydd' ers 1974

Published
image copyrightSain Abertawe/Bauer Media

Yn 2020 daeth enw gorsaf annibynnol gyntaf Cymru, Sain Abertawe, i ben. Cafodd yr orsaf ei sefydlu yn 1974 gyda'r bwriad o gynnig gwasanaeth dwyieithog yn ne orllewin Cymru rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Sir Benfro.

Roedd yn gyfnod newydd cyffrous ym myd darlledu yng Nghymru a chafodd cenhedlaeth o ddarlledwyr a newyddiadurwyr eu cyfle cyntaf gyda Sain Abertawe/Swansea Sound.

Yn eu plith mae Siân Sutton, sydd newydd gofnodi peth o'r hanes yn y gyfres Mynd am Sbin ar BBC Radio Cymru.

Un o'r rhaglenni cyntaf i wneud argraff ar genhedlaeth o bobl ifanc ardal Sain Abertawe oedd Mynd am Sbin… gydag Aled Glynne. Roedd yn torri tir newydd wrth drafod y byd pop Cymraeg gan ddilyn arddull y rhaglenni poblogaidd ar Radio Luxembourg a gorsafoedd lleol newydd.

Sain Abertawe oedd y seithfed orsaf annibynnol i'w sefydlu drwy Brydain a'r gyntaf yng Nghymru i ddod â gwasanaeth dwyieithog i dde orllewin Cymru.

image copyrightSain Abertawe/Bauer Media
image captionY stiwdio newydd yn cael ei adeiladu cyn iddo agor yn 1974

"Yn y cyfnod 'na oedd traean o holl Gymry Cymraeg Cymru yn byw yn yr ardal honno," meddai un o'r cyflwynwyr cyntaf, Glynog Davies, am ardaloedd Cwmtawe, Dyffryn Aman, Cwm Gwendraeth a Chaerfyrddin.

"Y Gymraeg oedd y brif iaith, felly roedd pobl yn eiddgar i glywed rhaglenni Cymraeg."

Grŵp o bobl fusnes lleol a enillodd y drwydded gyda'r bwriad o ddarparu 13% o'r darlledu yn y Gymraeg - dwy awr a hanner bob nos rhwng 6.30-9.00 a bwletinau newyddion a gwersi Cymraeg a chaneuon Cymraeg yn ystod y dydd. Ac yn y dyddiau cynnar fe lwyddodd yr orsaf i ddenu 64% o bobl yr ardal i wrando ar y rhaglenni.

image copyrightY Cymro
image captionErthygl o'r Cymro cyn Eisteddfod Dyffryn Lliw 1980 - y cyflwynwyr (clocwedd o'r chwith) Sian Sutton, Siân Thomas, Wyn Thomas, Siân Lloyd a Lyn Morgan

Dod â cherddoriaeth Gymraeg i ffans ifanc

Wrth greu amrywiaeth o raglenni Cymraeg, roedd Sain Abertawe yn arloesol ym myd darlledu yn enwedig pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i'r ardal yn 1980.

"Mi oedd yr Eisteddfod yn un o uchafbwyntiau fy nghyfnod i yn Sain Abertawe," meddai Wyn Thomas, y Pennaeth Rhaglenni Cymraeg ar y pryd, "bod yr Eisteddfod yn dod i Ddyffryn Lliw tua chanllath o'r stiwdio."

image copyrightSain Abertawe/Bauer Media
image captionRoedd Sain Abertawe yn ceisio apelio at y criwiau ifanc oedd yn heidio i'r ardal ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Lliw

Am y tro cyntaf erioed roedd y Gymraeg i'w chlywed dros nos gyda'r rhaglen Lliw Nos gyda Siân Lloyd a Lyn Morgan yn anelu'n benodol at Eisteddfodwyr ifanc a dilynwyr y byd pop Cymraeg.

Roedd yn gyfnod "embryonig" i'r byd roc Cymraeg, yn ôl Richard Rees - y cyflwynydd radio a ddechreuodd ei yrfa gyda'r orsaf - wrth sôn am Edward H Dafis, Ac Eraill, Hergest a Sidan yn ychwanegol at recordiau Jac a Wil, Bois y Blacbord, Trebor Edwards a Hogiau'r Wyddfa.

Roedd stiwdio Sain Abertawe hefyd yn rhoi'r cyfle cyntaf i grwpiau newydd. Roedd y Trwynau Coch a'r Llygod Ffyrnig ymhlith y cyntaf i recordio yn ogystal â Meic Stevens, Heather Jones, y band roc trwm o Resolfen - Crys, Chwarter i Un, Eryr Wen a'r Diawled.

"Oedd e'n beth mawr i bobl glywed eu tafodiaith leol ar y tonfeddi."

Magu cynulleidfa mewn cyfnod o newid

Roeddwn i yn Sain Abertawe rhwng 1979 a 1982, cyfnod o newid gwleidyddol a chymdeithasol yn sgil refferendwm datganoli Dydd Gŵyl Dewi, dechrau cyfnod Margaret Thatcher yn brif weinidog a'r protestio yn erbyn polisi'r llywodraeth geidwadol a'u heffaith ar ddiwydiannau a chymunedau Cymru.

Dyma hefyd pan gyhoeddodd arweinydd Plaid Cymru, Gwynfor Evans ei fwriad i ymprydio dros sianel deledu Gymraeg.

Roedd ystafell newyddion Sain Abertawe yn dilyn yr hanes gan anfon gohebwyr i'r fan a'r lle, a gwleidyddion yn barod iawn ar y pryd i gyfrannu at raglenni.

"Mae clywed pobl yn siarad am Sain Abertawe o hyd yn yr ardal yn deyrnged i beth ga'dd ei wneud gan y lleisiau cynnar yn yr orsaf," meddai Garry Owen, fu'n darlledu gyda Sain Abertawe am wyth mlynedd cyn symud i BBC Radio Cymru, "yn ei sefydlu ac yn ennill cynulleidfa reit ar y dechrau - cynulleidfa a arhosodd yn deyrngar am flynyddoedd."

image copyrightSain Abertawe/Bauer Media
image captionGarry Owen, yn y crys coch, gyda Willie Bowen - un o leisiau mwyaf cyfarwydd a phoblogaidd yr orsaf - a Gareth Wyn Jones - a fu gyda Sain Abertawe am dros 40 mlynedd tan 2017

Ac mae'r cof yn dal yn fyw iawn yn yr ardal am raglenni poblogaidd Willie Bowen a chyfraniad Gareth Wyn Jones dros ddeugain mlynedd.

Er i orsafoedd annibynnol eraill gael eu sefydlu yng Nghymru, prin yw'r cof am orsaf Caerdydd, CBC, Radio Gwent, Sain y Gororau a hyd yn oed Radio Ceredigion, Sir Gâr erbyn hyn, a Sain Abertawe oedd yr unig orsaf i gyfrannu dros bedwar degawd.

"Allwn ni ddim â thanbrisio Sain Abertawe, papur bro Glo Man a rhaglen Heno mewn cadw'r Gymraeg yn fyw yn Nyffryn Aman," meddai'r tiwtor iaith Adrian Price. "Oedd e'n beth mawr i bobl glywed eu tafodiaith leol ar y tonfeddi."

image copyrightSain Abertawe/Bauer Media
image captionSiân yn helpu i ysbrydoli'r to ifanc i ddod yn gyflwynwyr y dyfodol

Radio lleol ddim yn 'lleol' mwyach?

Mae'n gyfnod newydd erbyn hyn a her newydd yn wynebu darlledu wrth i wefannau a ffynonellau newydd ddod â cherddoriaeth neu bodlediadau a gwasanaethau sain digidol i bawb.

Mae'r drefn reoleiddio wedi newid ers i'r Awdurdod Darlledu Annibynnol osod amod ar ddarlledu Cymraeg yn Sain Abertawe a deddfwriaeth newydd wedi agor y drws i gwmnïau mawr brynu gorsafoedd llai a rheoli natur y rhaglenni a'r gerddoriaeth.

Mae pryder nad yw radio lleol yn 'lleol' mwyach a bod diffyg cyfleoedd a swyddi ar gael yn lleol lle gynt bu'r gorsafoedd radio yn feithrinfeydd i genhedlaeth o ddarlledwyr.

image copyrightSian Sutton

Heddiw gwirfoddolwyr sy'n cynnal y gwasanaethau lleol gyda radio ysbyty yn dal yn bwysig a nifer o orsafoedd radio cymunedol, er waetha'r her ariannol, yn cynnal y brwdfrydedd ac yn cynnig dewis arall i wrandawyr yn eu cymuned.

"Mewn ffordd y gorsafoedd cymunedol sy'n chwifio'r faner nawr," meddai'r cyflwynydd Siân Lloyd ar ôl cyfrannu at raglen ar Môn FM yn ddiweddar, "o'n i'n cael yr un teimlad wrth siarad â nhw ag o'n i'n cael nôl yn y dyddiau a fu yn Sain Abertawe."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig