Cofio ennill y 'tocyn aur' i gyngerdd Dwylo Dros y Môr

Published
image copyrightGwenfair Griffith
image caption"O'dd cyfarfod Geraint Griffiths yn beth mawr!"

Mae'n 35 mlynedd ers i ferch fach o Gaerdydd gael modd i fyw pan enillodd 'docyn aur' S4C i fynd i gwrdd â'r sêr yng nghyngerdd Dwylo Dros y Môr, y gân elusennol a gafodd ei hailrecordio ar ddiwedd 2020 a chyrraedd 20 uchaf siart itunes.

Gwenfair Griffith sy'n cofio'r noson fawr yn Neuadd Dewi Sant yn 1985.

Roedd y lluniau mor werthfawr nes bod Mamgu wedi prynu albym i fi eu cadw yn ofalus, a dyna lle maen nhw wedi bod am 35 mlynedd.

Roedd y ffaith mod i wedi ennill un o wobrau S4C i fynd i gyngerdd Dwylo Dros y Môr yn bump oed yn fraint ro'n i wir wedi'i drysori.

image copyrightGwenfair Griffith
image captionGwenfair gyda Nia Ceidiog tu allan i Neuadd Dewi Sant ar y noson fawr

Mae'r llun ohona i mewn ffrog Laura Ashley ar gôl Nia Ceidiog tu fas i Neuadd Dewi Sant yn brawf mai fi oedd y ferch lwcus oedd wedi ennill un o'r gwobrau cyntaf i S4C gynnig i'w gwylwyr erioed - y tocyn aur ar y pryd - i fynd i gyngerdd Dwylo Dros y Môr.

Wrth gwrs, nid fi oedd wedi ateb y cwestiwn i ennill y wobr, ond fy chwaer fawr. Diolch byth iddi hi gael dod gyda fi i'r gyngerdd a mynd gefn llwyfan i gwrdd a'r sêr, gyda'n cyfnither hŷn.

"O'dd cyfarfod Geraint Griffiths yn beth mawr!" medd Nia Ceidiog wrth i ni hel atgofion. "O'dd o'n real seren yn y cyfnod!"

Y gwir oedd mai Geraint Griffiths a Dewi Pws - wedi'i wisgo fel Ricky Hoyw - oedd rhai o'r unig sêr oedd yn ddigon caredig i siarad â merch fach swil cyn iddyn nhw fynd i berfformio yn un o gyngherddau mwyaf uchelgeisiol y cyfnod.

image copyrightGwenfair Griffith
image captionGwenfair, ei chwaer Mererid a'i chyfnither Gwerfyl gyda 'Ricky Hoyw' (Dewi Pws)

Cyngerdd yn ystod Eisteddfod yr Urdd oedd hi. Roedd y gân wedi'i rhyddhau ym mis Ionawr, a'r cynnwrf cyfryngol wedi bod yn adeiladu fel sosban yn ffrwtian tan ferw y noson honno.

Dyna pryd y byddai holl brif gantorion a sêr y byd cerddoriaeth yng Nghymru yn neuadd gyngerdd fwyaf y wlad gyda'i gilydd yn canu nerth eu pennau i estyn Dwylo Dros y Môr.

"O'n i'n 'neud llawer o'r math yma o beth, ac o'dd o ddim yn rhwydd i ni mewn ffordd," mae Nia Ceidiog yn cyfaddef. Fel un o brif gyflwynwyr S4C, hi oedd â'r dasg o ddod i gwrdd â fi, "Doedd 'na ddim ymchwilydd na pherson PR ac o'dd gen i ofn am fy mywyd i golli rhywun yn y crowd.

"Ar yr un pryd ti'n gorfod mynd rownd yn doorstepio pobl yn gofyn 'nei di siarad efo'r plentyn yma' - a hynny pan maen nhw ar fin mynd ar y llwyfan!"

Roedd fy mam wedi gadael i fi fynd ar ben fy hun yn bump oed yng nghwmni fy chwaer fawr a fy nghyfneither hŷn i gwrdd â sêr y byd pop Cymraeg. Fyddai'r fath sefyllfa fyth yn digwydd nawr wrth gwrs.

S4C yn rhan fawr o fywyd

Yn yr wythdegau, dim ond pedair sianel deledu oedd ar gael ac roedd mwy o rôl gan S4C ym mywyd llawer o Gymry Cymraeg.

image captionRoedd Geraint Griffiths yn un o sêr y cyfnod

Dyma adeg pan fod cyfres Dinas yn dilyn drama iypis Caerdydd ar y teledu, bandiau fel Crys, Angylion Stanli a Geraint Jarman yn anferth a phobl fel Tony ac Aloma a Trebor Edwards yn diddanu ar raglenni adloniant y sianel.

Doedd y gwasanaeth plant ddim wedi datblygu'n iawn eto - ond roedd Nia Ceidiog yn un o'r rhai oedd wedi annog sefydlu Y Clwb a chynnig cystadlaethau. Ei bwriad yn rhannol oedd cael rhywbeth i'w drafod rhwng rhaglenni. Dyma'r cyfnod hefyd pan oedd hi'n rhoi genedigaeth ddychmygol i'r cymeriad byd-enwog bellach, Sam Tân.

"Dwi'n meddwl achos bod 'na lai o atyniadau falle o ran sianeli eraill ar gael nôl yn yr wythdegau, roedd rhywbeth fel 'na yn reit fawr," medd Nia Ceidiog wrth siarad am y wobr i'r gyngerdd.

"Wrth gwrs roedd o'n unigryw gan bo' fo'n Gymraeg."

I'r cerddorion hefyd, roedd hi'n noson arbennig.

'Cyfle Cymru i wneud ei rhan'

Syniad Dafydd Roberts o Ar Log oedd bod cerddorion Cymru yn ymateb i argyfwng y newyn yn Ethiopia fel roedd Bob Geldof wedi'i 'neud gyda cherddorion yn Lloegr.

Roedd cân Band Aid, Do They Know It's Christmas, wedi ysbrydoli pobl Prydain i gyfrannu tuag at helpu'r miloedd oedd mewn angen yn Affrica. Nawr dyma oedd cyfle Cymru i wneud ei rhan.

Huw Chiswell oedd wedi cyfansoddi'r gân, a hynny ar hast un p'nawn gwlyb tra bod y glaw yn curo'r to yn ei gartref yn Ystum Taf, gan ysbrydoli'r geiriau agoriadol.

Nid yn unig bod unawdwyr fel Geraint Jarman, Geraint Griffiths, Emyr Wyn, Dafydd Iwan, Neil 'Maffia', Rhiannon Tomos a Linda Griffiths yn canu - roedd llwyth o aelodau bandiau yn ymuno yn y gytgan. Roedd y cyfan yn rysait am y supergroup mwyaf anhygoel yn dod at ei gilydd ar gyfer noson y gyngerdd.

I Caryl Parry Jones yn ei gwisg lledr coch, y menig lês a'r gwallt mawr, roedd hi'n noson na fyddai fyth yn ei anghofio,

"O'dd o jyst yn un o'r pethau mwyaf sbeshal 'na!" meddai. "Odd y noson mor fythgofiadwy, mor wefreiddiol, mor gyffrous, do'n i methu canolbwyntio y diwrnod wedyn. O'n i jyst yn ail-fyw y noson gynt."

image captionRoedd hi'n noson 'fythgofiadwy' meddai Caryl Parry Jones

Yn ôl trefnydd y noson Dafydd Roberts, dim ond ail hanner y gyngerdd oedd Dwylo Dros y Môr. Mae e'n cofio torf o blant a phobl ifanc a'u teuluoedd oedd heb ddiddordeb yn y dechrau clasurol yn aros tu fas tan i'r ail hanner ddechrau. Yna, fe lifodd ieuenctid yr Urdd mewn.

"O'dd cael neuadd fel Dewi Sant yn llawn dop - a phawb yn cyd-ganu hefo lot o'r bandiau yn anhygoel," medd Caryl. "Erbyn y climax, a phawb wedi dod ar y llwyfan i ganu Dwylo Dros y Môr, o'dd o fel cymanfa ganu hen ffasiwn yn y twenties lle oedd 'na filoedd o bobl yn canu yr un pryd!"

Mae 'na fideo o'r gyngerdd i'w gweld ar YouTube, yn dangos y gynulleidfa i gyd ar eu traed ar ddiwedd y noson - a Neuadd Dewi Sant yn siglo.

35 mlynedd ymlaen, ac mae'r gân dal yn ysbrydoli. Wedi fersiwn arall yn y nawdegau, y tro hwn mae dros 30 o artistiaid newydd wedi'i hail-recordio - ac Elin Fflur yn llywio'r cyfan y tro hwn.

image copyrightffotoNant
image captionBu'n rhaid i'r cantorion ddilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol wrth recordio

Nôl yn 1985, fe lwyddwyd i godi £25,000 tuag at newyn Ethiopia. Eleni, helpu pobl yng Nghymru sy'n dioddef oherwydd y pandemig yw'r nod.

Mae Elin Fflur yn sicr bod gan gerddorion fel hi rôl bwysig wrth helpu achosion da. A phan fydd modd gwneud hynny mae hi'n gobeithio bydd mwy o gyfleon i godi arian: "Dwi'n meddwl base bob cerddor yng Nghymru a thu hwnt yn dweud y base nhw wrth eu boddau yn perfformio mewn cyngerdd, ond mae'n anodd gwybod pryd fydd hynny yn digwydd!

"Baswn i wrth fy modd yn cael yr artistiaid at ei gilydd ar gyfer un cyngerdd a chodi mwy o arian!"

Falle bydd modd ail-greu cynnwrf y gyngerdd ym 1985 - a phwy a ŵyr na fyddwn ni gyd ar ein traed eto bryd hynny, mor ddiolchgar i gael estyn dwylo gyda'n gilydd unwaith eto.

image copyrightGwenfair Griffith
image captionAr ôl cyfnod yn byw yn Awstralia, mae Gwenfair bellach nôl yn byw yng Nghaerdydd gyda'i theulu ac yn gweithio fel newyddiadurwr llawrydd

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig