Gweledigaeth 'radical' ar gyfer dyfodol amaeth

Steffan Messenger
Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru

Published

Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu cynllun newydd "radical" ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru, gan gadarnhau cynlluniau i dalu ffermwyr yn y dyfodol am waith sy'n helpu'r frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Dyma'r ad-drefnu mwyaf ar bolisi ffermio yma mewn cenhedlaeth.

Yn ôl yr undebau amaeth, mae angen rhagor o fanylion ac mae'n bwysig nad yw'r newidiadau'n cael eu rhuthro.

Bydd cymorthdaliadau sy'n seiliedig ar faint o dir sydd gan ffermwr yn cael eu diddymu.

Yn ôl Gweinidog yr Amgylchedd, Lesley Griffiths, bydd y newid yn helpu busnesau amaethyddol i fod yn "fwy cystadleuol a gwydn".

Dywedodd hefyd nad oedd y taliadau presennol o dan Bolisi Amaethyddol Cyffredin (CAP) yr Undeb Ewropeaidd wedi cefnogi ymdrechion yn ddigonol i ddiogelu a gwella cefn gwlad Cymru.

Bydd Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd yn rhoi "gwir werth i'r canlyniadau amgylcheddol bydd ffermwyr yn eu darparu" - gan gynnwys gwell priddoedd, aer a dŵr glân, gwell bioamrywiaeth a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Bydd cefnogaeth hefyd i greu a chynnal coetiroedd a rheoli iechyd a lles anifeiliaid yn well.

image captionMae Gethin Owen yn croesawu'r newidiadau i'r drefn

Mae Gethin Owen yn ffermio 110 hectar ger Betws yn Rhos yng Nghonwy. Mae'n gweithio'r tir mewn modd cynaliadwy trwy blannu gwahanol gnydau ar wahanol adegau.

Mae hefyd yn ailblannu a thyfu gwrychoedd ar y tir, sy'n "creu coridorau ar gyfer bywyd gwyllt ac yn cynnal cysgod i stoc".

"Y math o bethau 'da ni'n trio gneud yma ydy dilyn egwyddorion hunangynhaliol. Trio tyfu gwahanol gnydau - law yn llaw, ochr yn ochr efo'i gilydd, trio cael amrywiaeth mewn amser ac mewn gofod," meddai.

"Wrth wneud hynny, dy'n ni'n llai agored i'r risks o dywydd gwael a da ni'n medru amddiffyn ein hunain rhag effeithiau newid hinsawdd."

Mae Mr Owen yn "croesawu newid" i'r drefn ac yn credu bod yr hen drefn o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin wedi bod "y prif reswm mewn dirywiad mewn bywyd gwyllt ar dir amaethol trwy'r wlad".

"Mae wedi creu system amaethyddol lle 'da ni'n defnyddio dulliau sydd ddim yn gynhaliol. 'Da ni wedi symud i ffwrdd o'r hen egwyddorion o edrych ar ôl y tir a chael amrywiaeth yn be da ni'n 'neud," meddai.

Newidiadau gweladwy

Yn ôl y Papur Gwyn, bydd y dull newydd yn arwain at newidiadau gweladwy i'r tirlun, gan gynnwys rhagor o goedwigoedd, cynefinoedd i fywyd gwyllt, yn ogystal â mathau gwahanol o ffermio.

Bydd cadwyni cyflenwi ffermydd yn fyrrach a bydd mwy o bwyslais ar brynu a gwerthu lleol - fydd yn lleihau eu hôl troed carbon yn sylweddol tra'n cyfrannu at iechyd cyhoeddus trwy wella safon aer a dŵr.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd y cynlluniau'n "galluogi ffermwyr i ymateb i argyfwng yr hinsawdd a gwyrdroi'r dirywiad yn ein bioamrywiaeth".

"Rydyn ni'n gwybod nad yw'r argyfwng hinsawdd yn rhywbeth sy'n dod i lawr y trac - rydyn ni'n byw ynddo," meddai Lesley Griffiths.

"Rydym angen i'n ffermwyr fod yn rhan o'r ymdrech i fynd i'r afael â newid hinsawdd ac ar hyn o bryd nid ydynt yn cael eu gwobrwyo am hynny yn y ffordd y dylent fod."

I lawer o ffermwyr bydd y newidiadau'n golygu llawer iawn o newid tra bod pryder wedi'i fynegi hefyd ynghylch colli taliadau uniongyrchol - a roddir ar sail faint o dir sy'n cael ei ffermio - o ystyried bod Llywodraeth Yr Alban yn bwriadu eu cadw ar ryw ffurf.

I'r mwyafrif o ffermwyr yng Nghymru, taliadau uniongyrchol PAC yw'r rhan fwyaf o'u hincwm.

Mae ffermwyr yn gofalu am 80% o arwynebedd tir Cymru - 1.84 miliwn hectar - felly mae'r cynigion yn bwysig iawn i natur a'r economi wledig.

Dywedodd Ms Griffiths ei bod am i ffermwyr weld y newidiadau fel "cyfle yn hytrach na dull sy'n cyfyngu ar eu 'rhyddid i ffermio'".

Diffyg manylion

Mae Aled Jones, dirprwy lywydd NFU Cymru wedi galw am ragor o fanylion.

"Mewn realiti, does dim llawer sy'n newydd yn yr ymgynghoriad yma o gymharu'r â'r ddau ddiwethaf," meddai.

Ond dywedodd bod yr undeb wastad wedi annog y llywodraeth i beidio â rhuthro 'mlaen gyda newidiadau.

Yn ôl Glyn Roberts, llywydd Undeb Amaethwyr Cymru (FUW), mae'r ddogfen yn cynnwys "gormod o ddyheadau" a diffyg manylion.

"Mae'n bwysig bod yna gyfnod trosglwyddo ar ôl 2024. Mae angen hefyd asesiad economaidd cyn i hyn ddigwydd ac mi ydyn ni'n aros yn eiddgar i weld yr effeithiau ar yr economi wledig," meddai.

Mae'r papur gwyn heddiw yn paratoi'r ffordd ar gyfer Bil Amaethyddiaeth Cymru newydd - y darn mawr cyntaf o ddeddfwriaeth ffermio yn hanes Senedd Cymru.

Ond does dim amser i'w basio cyn etholiadau'r Senedd ym mis Mai felly mater i'r llywodraeth nesaf fydd beth fydd yn digwydd nesaf.

Gydag union fanylion am sut y bydd y taliadau newydd yn cael eu cyfrifo a'u darparu yn dal i gael eu datblygu, dywedodd Ms Griffiths mai ei gobaith fyddai eu cyflwyno fesul cam o 2024.

Yn y cyfamser, dywedodd mai ei bwriad oedd parhau â chynllun presennol y Taliad Sylfaenol yn 2021 a 2022.

Mae papur gwyn y llywodraeth hefyd yn cynnwys cynigion i ddatblygu cyfres o safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer amaethyddiaeth yn ogystal â threfn orfodi newydd.

Mae hefyd yn addo symleiddio'r broses o gasglu a monitro data.

Cynhelir ymgynghoriad ar y cynigion newydd tan 25 Mawrth 2021.

Straeon perthnasol