Adran Dau: Salford City 1-1 Casnewydd

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Sgoriodd Josh Sheehan ym munudau ychwanegol yr ornest

Roedd yna ddiweddglo dramatig yn Salford nos Fawrth wrth i Gasnewydd sicrhau pwynt gyda chic o'r smotyn.

Daeth yr Alltudion yn gyfartal ym munudau ychwanegol y gêm wedi i Josh Sheehan ergydio o'r smotyn i dop cornel chwith y rhwyd.

Roedd hynny wedi trosedd gan Di'Shon Bernard yn erbyn ymosodwr Casnewydd, Kevin Ellison.

1-0 oedd y sgôr ar yr egwyl, diolch i beniad Tom Clarke o gic gornel gyda munud yn unig yn weddill o'r hanner cyntaf.

Roedd y tîm cartref hefyd wedi cael cic o'r smotyn yn gynnar yn yr ail hanner ond fe lwyddodd golwr Casnewydd, Nick Townsend i arbed ymgais Ian Henderson.

Mae Casnewydd yn parhau ar frig yr adran gyda 37 o bwyntiau - dau bwynt o fantais dros Carlisle yn yr ail safle.