Cynllun 1,500 o dai fforddiadwy i daclo 'argyfwng'

  • Cyhoeddwyd
Bangor
Disgrifiad o’r llun,
Yn ogystal â phentrefi sy'n denu ymwelwyr, mae diffyg tai fforddiadwy mewn trefi a dinasoedd fel Bangor, Caernarfon a Phorthmadog, meddai'r adroddiad

Mae cynghorwyr wedi cymeradwyo cynllun gwerth £77m er mwyn ceisio darparu 1,500 o dai fforddiadwy mewn ardal lle mae nifer yn honni fod y farchnad dai yn wynebu argyfwng.

Bydd cynllun Cyngor Gwynedd yn ariannu 30 o brosiectau dros gyfnod o saith mlynedd, gan gynnwys codi 100 o dai newydd fydd yn cael eu gwerthu neu eu rhentu i bobl leol.

Ddydd Mawrth, fe wnaeth cabinet y sir drafod rhoi 250 o fenthyciadau i bobl sydd am brynu eu tai cyntaf, a chynllun grant i alluogi 250 o dai gwag gael eu hychwanegu at y stoc dai.

Daw yn sgil adroddiad i'r cyngor yn dangos bod 11% o stoc dai Gwynedd - 6,849 o dai - bellach yn ail gartrefi neu'n dai gwyliau.

Hefyd ddydd Mawrth, bydd deiseb yn galw am fwy o rymoedd i awdurdodau lleol er mwyn rheoli'r farchnad dai yn cael ei thrafod yn y Senedd.

Fe wnaeth arolwg diweddar gan y sir ganfod fod 59% o drigolion Gwynedd yn methu cystadlu yn y farchnad dai leol.

Dywedodd yr adroddiad i gynghorwyr Gwynedd bod diffyg tai un a dwy lofft yn y sir a dros 2,000 o bobl wedi cofrestru ar gyfer tŷ cyngor.

Yr ardaloedd gyda'r angen mwyaf yw Bangor, Caernarfon, Dolgellau, Llŷn, Porthmadog a Thywyn, gyda'r cyfnod sydd rhaid aros dros 400 diwrnod ar gyfartaledd.

Disgrifiad o’r llun,
Ymgyrchwyr wnaeth gerdded o Ben Llŷn i bencadlys Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon i gwyno am y diffyg tai yn eu hardal

Hefyd mae bwriad i ddarparu 150 o unedau ar gyfer pobl ddigartref, a 130 o unedau ar gyfer rhai o bobl mwyaf bregus y sir.

Mae'n dweud fod y sir yn derbyn rhwng 80 a 90 o geisiadau gan bobl ddigartref bob mis - gyda'r ffigwr yn cynyddu o ganlyniad i effeithiau'r pandemig.

Yn ôl yr adroddiad mae tua 160 o bobl wedi eu cartrefu mewn llety dros dro anaddas.

Treth tai haf i ariannu

Er mwyn cyllido'r cynllun newydd, byddai'r cynllun yn defnyddio £22.9m o'r arian sydd wedi ei godi drwy godi treth cyngor uwch ar berchnogion tai gwyliau.

Mae'r premiwm ar dreth y cyngor - ddaeth i rym yn 2018 - yn golygu fod perchnogion ail gartrefi yn y sir yn wynebu lefi o 50% yn ychwanegol.

Mae disgwyl i aelodau'r cabinet hefyd drafod y posibilrwydd o godi'r premiwm i gymaint â 100%.

Ddydd Llun penderfynodd Cyngor Môn ystyried codi lefel eu premiwm presennol o 35% i 50%.

Disgrifiad o’r llun,
Mae cynghorwyr Môn hefyd yn ystyried cynyddu premiwm treth y cyngor ar ail gartrefi

Dywedodd y cynghorydd Craig ab Iago, deilydd portffolio tai ar Gyngor Gwynedd, fod y cynllun yn un uchelgeisiol ond yn un oedd am wireddu "gwir newid".

"Rydym yn gwybod fod ein pobl ifanc yn wynebu her mwy nag erioed i ddod o hyd i gartref addas yn lleol, ac mae hyn yn sefyllfa annheg ac anghyfiawn.

"I'w roi yn syml, mae hyn yn argyfwng, ac rwyf yn benderfynol o weld ni'n cynnig newid go iawn.

"Gyda help yr incwm o bremiwm treth y cyngor ar ail gartrefi, fe fyddwn yn dechrau codi tai ein hunain a'u gwerthu nhw ar fodel rhan berchnogaeth i drigolion lleol."

Yn ddiweddar bu ymgyrchwyr yn cwyno am y diffyg tai fforddiadwy yn y sir.

Fe wnaeth cynghorwyr tref Nefyn gwrdd â'r prif weinidog i drafod effaith cartrefi gwyliau ar y gogledd orllewin.

Roedden nhw'n dweud fod angen gweithredu gan fod pobl leol yn cael eu gorfodi o'u hardaloedd oherwydd prisiau uchel.

Galw am fwy o rymoedd

Cafodd deiseb gan Gymdeithas yr Iaith yn galw am fwy o rymoedd i awdurdodau lleol er mwyn rheoli'r farchnad dai ei thrafod yn y Senedd ddydd Mawrth hefyd.

Fe wnaeth 5,380 o bobl lofnodi o fewn mis, a dywedodd Osian Jones, llefarydd ar ran ymgyrch 'Nid yw Cymru ar werth' Cymdeithas yr Iaith, bod angen dadl frys "ar y ddeiseb a'r argyfwng tai yn ein cymunedau Cymraeg".

"Ers cenhedlaeth rydyn ni wedi colli mwy a mwy o'n stoc tai ar y farchnad agored wrth fod unigolion cyfoethocach yn eu prynu fel tai haf, ail gartrefi a buddsoddiadau masnachol, ac mae argyfwng Covid wedi gwaethygu'r sefyllfa.

"O ganlyniad i hyn, mae'n amhosibl i fwyafrif o drigolion mewn cymunedau fel Abersoch, Nefyn a nifer gynyddol o lefydd eraill ymgartrefu yn eu cymunedau eu hunain, ac mae hyn yn cael effaith ddinistriol ar yr iaith Gymraeg."

Mewn ymateb i'r Pwyllgor Deisebau, fe wnaeth y Gweinidog Tai Julie James addo gwneud datganiad i'r Senedd ym mis Ionawr am sut bydd y Llywodraeth yn gweithredu ynghylch y mater.