Y Bencampwriaeth: Abertawe 0-0 Bournemouth

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Y Cymro David Brooks gafodd gyfle gorau'r gêm i Bournemouth

Mae Abertawe yn aros yn safleoedd y gemau ail gyfle yn dilyn gêm gyfartal gyda'r tîm sydd ar frig y Bencampwriaeth.

Y Cymro David Brooks gafodd gyfle gorau'r gêm i'r ymwelwyr, ond llwyddodd y golwr Freddie Woodman i'w atal gydag arbediad gwych.

Dydy Abertawe ddim wedi cael eu trechu gartref yn eu chwe gêm ddiwethaf bellach.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Abertawe yn disgyn un safle i bedwerydd yn y tabl, tra bo' Bournemouth yn codi i'r brig.