Adran Dau: Grimsby 0-2 Casnewydd

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Casnewydd wedi ymestyn eu mantais ar frig Adran Dau ar ôl trechu Grimsby yn gyfforddus nos Fawrth.

Aeth yr Alltudion ar y blaen ar ôl 25 munud, wrth i gic rydd Scott Twine wyro oddi ar chwaraewr Grimsby i gefn y rhwyd.

Dyblwyd eu mantais yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf wedi i Padraig Amond sgorio o'r smotyn yn dilyn trosedd ar Twine yn y cwrt cosbi.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn ymestyn eu mantais ar frig Adran Dau i bedwar pwynt.