Cwpan y Byd: Dechrau'r daith yng Ngwlad Belg

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, FIFA/Getty

Fe fydd Cymru yn dechrau eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2022 oddi cartref yn erbyn Gwlad Belg

Fe fydd y gêm honno ar nos Fercher, 24 Mawrth.

Mae Cymru yng Ngrŵp E, ynghyd â'r Weriniaeth Siec, Belarws ac Estonia.

Bydd yr ail gêm, gartref yn erbyn y Weriniaeth Siec ar nos Fawrth, 30 Mawrth.

Bydd y gêm olaf yn grŵp, gartref yn erbyn Gwlad Belg, ar ddydd Mawrth, 16 Tachwedd.

Disgrifiad,
Ian Gwyn Hughes yn ymateb i grŵp Cymru yng Nghwpan y Byd 2022

Trefn y gemau:

Gwlad Belg v Cymru - dydd Mercher, 24 Mawrth 19:45

Cymru v Y Weriniaeth Siec - dydd Mawrth, 30 Mawrth 19:45

Belarws v Cymru - dydd Sul, 5 Medi 15:00

Cymru v Estonia - dydd Mercher, 8 Medi 19:45

Y Weriniaeth Siec v Cymru - dydd Gwener, 8 Hydref 19:45

Estonia v Cymru - dydd Llun, 11 Hydref 19:45

Cymru v Belarws - dydd Sadwrn, 13 Tachwedd 19:45

Cymru v Gwlad Belg - dydd Mawrth, 16 Tachwedd 19:45.