Diwedd cyfnod i Seren Cymru a'r Goleuad

Sara Down-Roberts
BBC Cymru Fyw

Published
image copyrightAled Davies
image captionSeren Cymru yn cael ei argraffu am y tro diwethaf

Mae Seren Cymru, wythnosolyn y Bedyddwyr yng Nghymru, wedi cael ei argraffu am y tro olaf ac ym mis Mawrth bydd Y Goleuad, papur y Presbyteriaid, yn dod i ben wrth i'r ddau bapur uno i fod yn bapur wythnosol digidol yn unig.

Fe fydd Y Tyst, wythnosolyn yr Annibynwyr, yn parhau i gael ei argraffu ac mae enwad yr Annibynwyr wedi dewis peidio bod yn rhan o'r fenter newydd.

"Fe fuon ni'n trafod y cynllun newydd yn ddwys a dod i'r penderfyniad nad oedd ychydig dudalennau yn ddigon i adlewyrchu bywyd y 400 o eglwysi sydd yn Undeb yr Annibynwyr," medd Alun Tudur, golygydd Y Tyst.

"Rydan ni yn derbyn digonedd o ddeunydd ar gyfer y papur yn wythnosol ar hyn o bryd, ac mae hyn yn gyfle i'r Tyst yntau i ailwampio ac ail-lansio - mae na gynlluniau eisoes yn eu lle ar gyfer cyfranwyr a cholofnwyr newydd. Mi fyddwn ni yn parhau i gynnwys tudalennau rhyngenwadol," ychwanegodd Mr Tudur.

Apelio at gynulleidfa ehangach

Does yna ddim enw hyd yma i'r papur digidol newydd ac fe fydd yn cael ei olygu gan Watcyn James, Huw Powell-Davies ac Aled Davies.

image copyrightAled Davies
image caption"Bydd y cyhoeddiad digidol newydd yn gyffrous," medd Aled Davies

Dywed Aled Davies, sydd hefyd yn olygydd presennol Seren Cymru: "Yr hyn sydd wedi fy nghalonogi i ydi awydd pobl i weld wythnosolyn Cristnogol Cymraeg yn hytrach na bod pwyslais enwadol a bod ni yn medru agor y peth i fyny i gynulleidfa llawer iawn ehangach.

"Yn naturiol efallai y byddwn ni yn colli rhai darllenwyr oherwydd bod ni yn colli'r elfen brint ond drwy dynnu sylw ato ar y cyfryngau cymdeithasol, dwi'n hyderus y byddwn ni yn denu pobl na fydden nhw fyth yn breuddwydio tanysgrifio i bapur enwadol.

'Gyda newyddion mwy cyfoes a dylunwaith newydd, mi fydd yn tynnu pobl i mewn i straeon a thrafodaethau gobeithio," ychwanegodd Mr Davies.

image copyrightUndeb Annibynwyr Cymru
image captionBydd Y Tyst yn parhau i gael ei argraffu

Gweledigaeth ddigon tebyg sydd gan Alun Tudur ar gyfer Y Tyst gan ddweud "nad yw'n gweld Y Tyst fel rhywbeth cul nac yn wir yn rhywbeth enwadol ond cyfrwng i adlewyrchu bywyd ein heglwysi".

Ond y mae'n gweld gwerth mewn mwy nag un cyhoeddiad.

"Dwi'n credu mwyaf yn y byd o gyfryngau a gwefannau Cristnogol sydd gennym ni, mwyaf yn y byd o gyfle sydd yna i rannu neges yr efengyl yn y Gymraeg," ychwanegodd.

'Dylanwad y papurau enwadol yn enfawr'

Yn ôl y newyddiadurwr Dylan Iorwerth mae parhad y papurau yn destun balchder ac mae'n dweud bod eu bodolaeth ar hyd y blynyddoedd wedi cael cryn ddylanwad.

"Mae'n rhyfeddol fod y papurau yma yn parhau, fod yr enwadau yn cynhyrchu papur wythnosol gan ei fod yn gymaint o waith," meddai.

image copyrightBedyddwyr Cymru
image captionMae dylanwad wythnosolyn fel Seren Cymru wedi bod yn fawr, medd y newyddiadurwr Dylan Iorwerth

"Mae'r papurau hynaf i gyd yn mynd yn ôl ddwy ganrif ac roedden nhw ymhlith y papurau cyntaf i'w cyhoeddi yn y Gymraeg. Yng nghanol y bedwaredd-ganrif-ar-bymtheg y daethon nhw i'w bri tua'r un pryd ag yr oedd y papurau newydd poblogaidd yn datblygu. Mentrau preifat oedden nhw i gyd i ddechrau ac yn ystod y ganrif ddiwethaf y daethon nhw yn eiddo i'r enwadau.

"Buont yn allweddol yn trawsnewid nifer fawr o bethau yn eu dydd. Roedden nhw yn rhan o frwydrau mawr y bedwaredd-ganrif-ar-bymtheg, y frwydr dros ddemocratiaeth, rhyfel y degwm, datgysylltiad Eglwys Loegr yng Nghymru ac wrth gwrs dirwest.

"Arwydd o'u llwyddiant yn brwydro oedd fod y Western Mail wedi ei sefydlu yn 1869 gan eglwyswyr a thirfeddianwyr er mwyn ceisio lleihau dylanwad yr Anghydffurfwyr."

'Y Tyst yn debyg i'r Tatler'

"Roedden nhw hefyd yn gyfryngau i rannu gwybodaeth ymhlith aelodau'r enwad," ychwanegodd Dylan Iorwerth, "cymaint felly fel bod y Tyst bron fel y Tatler yn dweud pa weinidogion oedd wedi cael eu gweld yn treulio peth o'u gwyliau haf yn Aberaeron yn 1892! Mae'r cyfan yn dangos pa mor gyflawn oedd byd yr enwad a chymaint oedd y diddordeb yn sêr yr enwad."

Mae disgwyl y bydd uno Seren Cymru â'r Goleuad a pheidio cyhoeddi mewn print yn lleihau costau yn sylweddol.

Wrth gael ei holi a ydi tri dyn canol oed yn debygol o ddod â newid i'r papur newydd dywed Aled Davies: "Rôl cyd-lynol fydd gan y golygyddion mewn gwirionedd ac felly dydi'r ffaith ein bod ni yn dri dyn canol oed ddim yn rhwystr gan byddwn ni yn cael golygyddion gwadd wythnosol yn cynrychioli yr ystod o amrywiaeth sydd ganddo ni o bob safbwynt, rhyw ac oedran."

Ychwanegodd ei fod yn ddatblygiad cyffrous ac y bydd y papur newydd yn un "deinamig a fydd yn cychwyn pennod newydd o gyhoeddi digidol yn hanes enwadol Cymru".

Straeon perthnasol