Apêl ar Facebook am roddwr aren i achub bywyd
- Published
Mae menyw 27 oed o Gaerdydd wedi troi at y cyfryngau cymdeithasol er mwyn ceisio darganfod rhoddwr aren.
Mae arennau Diana Isajeva o Lecwydd wedi methu yn ystod y cyfnod clo.
Mae hi'n apelio ar Facebook a'r ap Nextdoor i ddod o hyd i roddwr gan ddweud ei bod yn wynebu byw gan wybod y gallai ei chalon stopio ac na fydd yn deffro.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod angen i feddygon gydbwyso yr angen am drawsblaniad gyda "heriau lledaenu Covid yn y gymuned".
Poen gwddf
Yn wreiddiol o Lithwania mae Diana wedi byw yng Nghaerdydd ers yn 15 oed.
Roedd hi yn ei blwyddyn gyntaf yn astudio'r gyfraith pan ddeffrodd un bore gyda phoen yn ei gwddf.
"Roeddwn i yn credu fy mod wedi cysgu yn od, ond wedyn fe ddechreuodd fy nghymalau chwyddo a doeddwn ni ddim yn gallu bwyta, cysgu na cherdded, a mewn poen llwyr."
Wedi sawl prawf a biopsi fe gafodd Diana ddiagnosis Lupus, salwch sy'n effeithio ar y system imiwnedd, ac fe wnaeth ei horganau ddirywio.
"Yn 19 oed fe wnaeth y meddygon achub fy mywyd, ac fe fu'n rhaid i mi gael cemotherapi er mwyn byw, mae hyn wedi effeithio ar fy arennau," meddai.
Fe gafodd ei phrofion gwaed misol eu gohirio am bedwar mis oherwydd y pandemig, ac roedd y driniaeth cemotherapi wedi oedi am 10 wythnos.
"Rwy'n deall pam bod y ward wedi troi mewn i ward Covid a bod angen i'r meddygon helpu y rhai sydd gyda'r feirws, ond mae'r pandemig wedi golygu bod fy nghyflwr i wedi dirywio yn gynt."
Trawsblaniad
Mae meddygon wedi dweud mai cael trawsblaniad aren yw ei chyfle gorau i fyw bywyd iach.
"Roedd derbyn y newyddion yna yn ofnadwy, roedd yn galed iawn, iawn cael gwybod eich bod yn marw a wedyn ddim yn cael rhoi cwtsh i unrhyw un na gweld unrhyw berson allai eich cefnogi," meddai.
Mae teulu Diana i gyd yn byw dramor ac yn methu cyfrannu, a dyw ei dyweddi chwaith ddim yn gallu bod yn rhoddwr, felly fe benderfynodd droi at apêl i'r cyhoedd.
Mae ganddi waed math O, sy'n gallu cael ei roi i bobl sydd â math A, B ac AB. Ond gall hi ond cael trawsblaniad gan rywun arall sydd â gwaed math O.
"Fe ddarllenais erthygl ble roedd dieithryn wedyn rhoi aren ac fe wnaeth hynny fy ysbrydoli, fe ofynnais i fy meddyg os fedra i ddechrau ymgyrch a dywedodd y byddai yn fy nghefnogi, felly fe wnes i bostio ar Facebook ac mae'n dechrau cael ymateb," meddai.
"Rwy wedi cael ymatebion ar draws y byd, ymateb cymysg ond y mwyafrif yn bositif. Mae rhai wedi bod yn amheus, a dwi wedi cael ambell gynnig yn gwerthu aren, ond rwy hefyd wedi cael negeseuon caredig a chefnogol."
Oherwydd nifer y bobl sy'n aros am lawdriniaethau trawsblaniad aren wedi y pandemig, mae Diana yn dweud na all hi gael ei rhoi 'nôl ar y rhestr aros.
73% yn llai o drawsblaniadau
Roedd yr unig ganolfan trawsblaniad yng Nghymru wedi cau dros dro yn gynharach eleni yn ystod y pandemig.
Yn ôl Fiona Loud, cyfarwyddwr polisi Kidney Care UK, mae gostyngiad o 73% wedi bod yn nifer y trawsblaniadau.
Ychwanegodd: "Mae angen i ysbytai flaenoriaethu llawdriniaethau aren a sicrhau eu bod yn gwneud popeth i gefnogi pobl sydd ag arennau sydd yn methu."
Mae Diana yn cael cemotherapi eto ym mis Ionawr, ond mae'n dweud y bydd hynny dim ond yn ymestyn ei bywyd tan iddi gael trawsblaniad.
Ymateb y llywodraeth
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Nid ydym yn gallu gwneud sylw ar amgylchiadau unigol pobl, ond rydym yn flin iawn i glywed am sefyllfa y fenyw hon, ac yn dymuno y gorau iddi wrth iddi gael triniaeth a gofal.
"Fe gafodd llawdriniaethau trawsblannu aren eu hatal ar ddechrau y pandemig ond mae nhw wedi ail-ddechrau dros yr haf.
"Mae staff y gwasanaethau aren hefyd wedi gweithio yn galed i sicrhau bod y gwaith o fonitro pobl o dan eu gofal yn mynd yn ei flaen yn ystod y pandemig.
"Fodd bynnag mae'n rhaid i dimau trawsblaniad gydbwyso anghenion y claf yn erbyn yr heriau ychwanegol o ledaenu cymunedol eang Covid a diffyg imiwnedd ar yr adeg hon."
Pynciau Cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Published
- 28 Hydref 2020
- Published
- 5 Mehefin 2020