Y Bencampwriaeth: Abertawe 2-0 Luton

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionConnor Roberts yn cael ei longyfarch am roi ei roi ei dîm ar y blaen

Roedd hi'n ddechrau ardderchog i Abertawe yn y Liberty wrth i Connor Roberts roi ei dîm ar y blaen yn erbyn Luton o fewn dau funud yn unig gyda chymorth Andre Ayew.

Chwarae cryf gan yr Elyrch wedyn am ryw chwarter awr ac yna Luton oedd yn ymosod, ond er cael sawl cyfle da doedd na ddim gôl.

Gydag ugain munud yn weddill o'r ail hanner roedd yna ail gerdyn melyn i Roberto Martinez am drosedd ac felly roedd Luton i lawr i ddeg dyn.

Daeth ail gôl i Abertawe wedi hynny wrth i Ayew rwydo o du allan i'r blwch cosbi.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod cyfnod da Abertawe yn parhau wrth iddyn nhw aros yn chwech safle uchaf y Bencampwriaeth.

Straeon perthnasol