Y Bencampwriaeth: Watford 0-1 Caerdydd

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionKieffer Moore yn sgorio ei bumed gôl mewn pum gêm

Tasg anodd oedd yn wynebu Caerdydd yn Watford gan fod y tîm o Lundain ymhlith y chwech uchaf yn y Bencampwriaeth.

Roedd hi'n hanner cyntaf agos iawn ond yna Caerdydd oedd yn chwarae gryfaf.

Wedi nifer o giciau cornel fe gafodd Caerdydd eu gwobr wrth i Kieffer Moore sgorio gyda'i droed chwith.

Gêm gystadleuol oedd hi gydol yr ail hanner gyda'r ddau dîm yn agos ond fe lwyddodd yr Adar Gleision i ddal gafael ar eu tri phwynt er i Watford gael cic gornel yn y munudau olaf.

Tri phwynt gwerthfawr yn erbyn tîm cryf Watford i Gaerdydd a thair buddugoliaeth yn olynol wedi perfformiad cryf.

Straeon perthnasol