Brechiad: Galw am roi blaenoriaeth i ofalwyr di-dâl

Published
Pynciau Cysylltiedig
image copyrightGetty Images

Dylai gofalwyr di-dâl dderbyn brechlyn Covid-19 yr un pryd â gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, yn ôl yr elusen Gofalwyr Cymru.

Mae yna 680,000 o ofalwyr o'r fath yng Nghymru, a dywed yr elusen eu bod yn siomedig iawn nad ydynt ymhlith y rhai cyntaf fydd yn derbyn brechiad.

Mae'n dweud y dylai Cymru ddilyn Yr Alban trwy roi blaenoriaeth i ofalwyr di-dâl ar gyfer y brechlyn.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y Cyd-bwyllgor Brechu ac Imiwneiddio (JCVI) yn debygol o gyhoeddi y bydd brechu gofalwyr yn cael ei gyflymu.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi awgrymu y bydd gofalwyr pobl hŷn a phobl fregus yn derbyn blaenoriaeth.

Aberthu dros anwyliaid

Dywedodd Beth Evans, rheolwr polisi Gofalwyr Cymru, fod gofalwyr di-dâl wedi aberthu cymaint i ddiogelu eu hanwyliaid, a'u bod yn teimlo nad ydynt yn cael yr hyn maen nhw'n ei haeddu.

Roedd eu hymchwil yn dangos fod pobl sy'n gofalu am eu hanwyliaid yn arbed £33m y dydd i'r GIG a gwasanaethau statudol eraill.

"Ym mhob un o bolisïau Llywodraeth Cymru a phopeth arall [mae'n dweud] y dylai gofalwyr gael eu trin ar sail gyfartal, ac yn wir yn cael eu parchu," meddai.

"Fel mudiad rydym yn wirioneddol siomedig nad ydy gofalwyr ar frig y rhai cyntaf i dderbyn y brechlyn."

image captionDywedodd Beth Evans bod gofalwyr di-dâl yn haeddu "cydnabyddiaeth ddyledus gan y llywodraeth"

Byddai derbyn brechiad yn cael effaith anferth ar fywydau gofalwyr, ac yn caniatáu iddyn nhw gael seibiant o'u gwaith fel gofalwyr heb boeni ynglŷn â throsglwyddo'r haint, meddai.

Mae'r elusen o'r farn y dylai gofalwyr di-dâl fod yn gyfartal â gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.

"Dydyn ni ddim yn bychanu'r holl waith y mae gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol wedi bod yn ei wneud drwy gydol y pandemig ac yn rhoi eu hunain dan fygythiad, ond rydym hefyd eisiau gweld y cyfraniad y mae gofalwyr di-dâl wedi'i wneud yn cael cydnabyddiaeth ddyledus gan y llywodraeth yma," meddai Ms Evans.

'Colli allan yn llwyr'

Mae Matthew a Lisa Williams, o Abertawe yn gofalu'n llawn amser am eu mab Macsen, sy'n naw oed ac yn dioddef o gyflwr prin sy'n achosi nifer o drawiadau (seizures) yn ddyddiol.

Er bod gan Matthew, 39, gyflwr ar ei galon y mae'n credu fydd yn cwrdd â'r gofynion i dderbyn brechiad buan fel person bregus, mae'n poeni na fydd Lisa, sy'n 40, yn derbyn y brechlyn pan gaiff ei gyflwyno yr wythnos nesaf.

"Rydym yn teimlo ein bod mewn grŵp sy'n colli allan yn llwyr o'r cynlluniau sy'n dweud pwy fydd yn cael y brechiad a phryd," meddai Mr Williams.

"Dydyn nhw ddim yn rhoi'r brechiad i blant, sy'n ddealladwy, ond i gadw Macsen yn ddiogel mae angen i bawb sydd o'i gwmpas gael eu brechu - ni, y gofalwyr, pawb yn yr ysgol - a byddai hynny'n caniatáu iddo fynd yn ôl i'r ysgol ac i ryw fath o fywyd normal.

"Ond nid ydym yn gwybod os oes unrhyw gynlluniau i frechu gofalwyr cartref fel ni ar y funud.

"Rydym yn ofni mai achos o 'computer says no, you don't fit the criteria.' fydd hi."

image copyrightLlun teulu
image caption"I gadw Macsen yn ddiogel mae angen i bawb sydd o'i gwmpas gael eu brechu," meddai Matthew Williams

Mae gan Macsen gyflwr o'r enw GRIN2A, sy'n achosi epilepsi a symptomau tebyg i barlys yr ymennydd.

Mae'n mynd i ysgol anghenion arbennig Crug Glas yn Abertawe, ond nid yw wedi bod yno ers Chwefror am ei fod mewn categori mor fregus.

"Mae Macs wrth ei fodd efo'r ysgol ond mae o wedi colli cymaint," meddai Mr Williams.

"Mae popeth am ofalwyr wastad i weld yn cael ei gysylltu gyda gofalwyr oedolion - dydyn nhw ddim yn ystyried y rheiny sy'n gofalu am blant a pha effaith mae'n ei gael arnom ni.

"Beth yw'r cynlluniau ar gyfer rhieni plant bregus fydd ddim yn cael brechiad eu hunain?

"Dwi ddim yn dweud y dylem fod yn cael y flaenoriaeth gyntaf - mae'n iawn i edrych ar bobl hŷn a chartrefi gofal yn gyntaf - ond dydyn ni ddim yn credu y dylen ni fod yn olaf."

Dywedodd Dr Gill Richardson, cadeirydd bwrdd brechu Covid-19 Llywodraeth Cymru, fod gofalwyr di-dâl yn hynod bwysig nid yn unig i'r rhai y maen nhw'n gofalu amdanynt, ond i'r gymdeithas gyfan.

"Dwi'n meddwl fod hwn yn rhywbeth y mae'r JCVI yn ymwybodol iawn ohono, ac mae'n debyg y byddan nhw'n gwneud cyhoeddiad am ofalwyr ac am gyflymu'r broses fel nad ydynt yn gorfod aros i'w grŵp oedran gael ei alw.

"Felly gallwn ddisgwyl cyhoeddiad pellach ar hyn."

Awgrymodd Dr Richard Roberts o Iechyd Cyhoeddus Cymru ar raglen Wales Live nos Fercher y byddai gofalwyr pobl hŷn a phobl fregus yn derbyn blaenoriaeth.

"Yn y canllawiau JCVI sydd wedi'i gyhoeddi mae gofalwyr pobl hŷn neu fregus wedi'u cynnwys," meddai.

Straeon perthnasol