Y Bencampwriaeth: Middlesbrough 2-1 Abertawe

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,
Duncan Watmore (dde) a sgoriodd ddwy gôl Middlesbrough nos Fercher

Cafodd cyn-reolwr Caerdydd, Neil Warnock, anrheg pen blwydd hwyr wrth i'w dîm diweddaraf, Middlesbrough, guro Abertawe o 2-1 ar gae'r Riverside.

Ond mae'r Elyrch yn parhau un safle uwchben Middlesbrough yn y frwydr am y safleoedd ail-gyfle yn y Bencampwriaeth.

Dathlodd Warnock ei ben blwydd yn 72 ar drothwy'r gêm, sy'n golygu mai ef yw rheolwr hynaf Cynghrair Bêl-droed Lloegr.

Er i Abertawe fwynhau dipyn o feddiant ar y dechrau, y tîm cartref oedd ar y blaen ar yr hanner, diolch i gôl Duncan Watmore ar ôl 26 munud.

Sgoriodd Watmore ail gôl wedi 67 munud, ond tarodd Abertawe'n ôl gydag ychydig dros 10 munud i fynd, diolch i Yan Dhanda.

Ond methodd yr Elyrch a chanfod y rhwyd eilwaith gan syrthio i'w trydydd colled y tymor hwn.

Pynciau Cysylltiedig