Dim hawl gan dafarndai a bwytai i werthu alcohol

Published
Pynciau Cysylltiedig
image copyrightLlywodraeth Cymru

Bydd cyfyngiadau newydd ar fusnesau lletygarwch yn dod i rym ar draws Cymru nos Wener.

Mae'r cyfyngiadau newydd yn effeithio'n bennaf ar atyniadau dan do, a bydd tafarndai, bwytai a chaffis yn gorfod cau erbyn 18:00 bob nos, ac ni fyddant yn cael gweini alcohol.

Ar ôl 18:00 bydd y busnesau ond yn cael darparu gwasanaethau tec-a-wê.

Yn ei gynhadledd i'r wasg ddydd Llun dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod cynnydd "trawiadol" yn nifer yr achosion coronafeirws yng Nghymru.

Roedd y ffeithiau'n rhai "llwm" meddai, gyda'r wybodaeth gyfredol yn awgrymu y gallai 1,600 o bobl ychwanegol golli eu bywydau dros gyfnod y gaeaf.

image copyrightGetty Images

Daeth ei sylwadau cyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi bod 802 o achosion newydd o Covid-19 wedi eu cadarnhau yng Nghymru yn y 24 awr diwethaf, a bod tair yn rhagor o farwolaethau wedi eu cofnodi yn y cyfnod yna.

Roedd 93 o'r achosion newydd yng Nghaerdydd, 87 yn Abertawe a 72 yn Rhondda Cynon Taf.

Torfaen (442.7) a Blaenau Gwent (428) sydd gyda'r nifer uchaf o achosion am bob 100,000 o boblogaeth dros y saith diwrnod diwethaf.

Mae'r ffigyrau'n mynd â chyfanswm yr achosion yng Nghymru dros 80,000 ers dechrau'r pandemig gyda 80,342 bellach wedi'u cadarnhau.

Llefydd sy'n cael eu heffeithio

Mae'r cyfyngiadau hefyd yn effeithio ar sinemâu, neuaddau bingo, casinos, arcedau, aleau bowlio, canolfannau chwarae meddal, canolfannau sglefrio, amgueddfeydd, orielau a safleoedd treftadaeth.

Bydd atyniadau awyr agored yn cael aros ar agor a bydd y mesurau cenedlaethol eraill sydd mewn grym yn aros yr un fath.

Mae Llywodraeth Cymru'n darparu £340m i gefnogi busnesau sydd wedi'u heffeithio gan y cyfyngiadau newydd - "y pecyn cymorth mwyaf hael yn unrhyw le yn y DU," yn ôl Mr Drakeford.

Byddai hyn yn ychwanegol at y gwahanol gynlluniau cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU, meddai.

Wrth gyhoeddi'r cyfyngiadau newydd, dywedodd Mr Drakeford na fyddai unrhyw newidiadau i swigod cartrefi, faint o bobl sy'n gallu cwrdd mewn llefydd cyhoeddus dan do neu yn yr awyr agored, na chyfyngiadau ar fusnesau eraill.

Gyda chyfnod clo Lloegr yn dod i ben ddydd Mercher, dywedodd y byddai cyhoeddiad ar gyfyngiadau teithio i mewn ac allan o Gymru yn ddiweddarach yr wythnos hon.

"Yn anffodus, mae'r feirws yn symud yn hynod o gyflym ar draws Cymru ac mae'n erydu'r cynnydd roedden ni wedi'i wneud yn ystod y cyfnod atal byr," meddai.

"Mae angen inni nawr gymryd camau gyda'n gilydd fel cenedl i ddiogelu iechyd pobl ac arafu lledaeniad y coronafeirws.

"Mae'r feirws hwn - a'r pandemig - yn dal i'n synnu ni mewn ffyrdd annymunol. Mae'n ffynnu ar ymddygiad arferol pobl o ddydd i ddydd ac yn yr holl fannau hynny lle rydyn ni'n dod at ein gilydd.

"Mae hyn yn pwysleisio pam mae angen inni gymryd y camau pellach, wedi'u targedu hyn yn awr.

"Byddwn yn canolbwyntio ar y mannau hynny lle rydyn ni'n cyfarfod a lle mae'r coronafeirws yn ffynnu, gan dynnu oddi ar y dystiolaeth gan grwpiau o arbenigwyr SAGE am ba gyfyngiadau sydd wedi cael yr effaith fwyaf ar y feirws."

'Ble mae'r dystiolaeth?'

image copyrightGetty Images

Dywedodd prif weithredwr un o fragdai mwyaf Cymru ei bod am i Lywodraeth Cymru brofi bod Covid yn cael ei ledaenu mewn tafarndai a bwytai.

"Ble mae'r dystiolaeth wyddonol eich bod mewn mwy o berygl mewn tafarn nag yr ydych gartref neu mewn archfarchnad?" meddai Connie Parry o fragdy Tomos Watkin yn Abertawe.

Dywedodd cyd-berchennog bwyty Thomas yng Nghaerdydd y byddai'r busnes yn colli cwsmeriaid sy'n methu cael diod alcoholig gyda'u prydau.

"Dwi ddim yn gweld unrhyw reswm am hyn", meddai.

"Yr unig beth fydd yn ei wneud ydy arwain at bobl yn cyfarfod adref ac yn yfed yno yn lle - byddai rheolaeth mewn bwytai a thafarndai, ond ddim mewn cartrefi."

Cyfeiriodd y llywodraeth at ddogfen SAGE sy'n dweud bod y risg o fewn bariau a bwytai yn uwch na lleoliadau eraill oherwydd tueddiad pobl i agosáu at ei gilydd, treulio cyfnodau hir ynddynt, peidio gwisgo mygydau a siarad yn uchel all olygu mwy o drosglwyddo drwy boer.

Mae diffyg awyr iach mewn rhai tafarndai ac effaith alcohol ar ymddygiad hefyd yn ffactorau.

image captionDywedodd rheolwr sinema'r Maxime yn y Coed Duon nad oedd yn gweld y diwydiant fel perygl i'r cyhoedd

Dywedodd Steve Reynolds o Picturedome Cinemas ei bod yn "siomedig iawn" bod rhaid i sinemâu gau tra bod busnesau eraill yn cael agor.

"Mae gan y diwydiant record wych - does neb wedi eu holrhain yn ôl i ymweliad gyda sinema drwy'r DU, nid ond yng Nghymru," meddai.

"Doedden ni ddim yn meddwl y byddai'n rhaid i sinemâu gau eto, doedden ni ddim yn gweld ein bod yn berygl i'r cyhoedd."

Dywedodd Ben Francis, cadeirydd polisi Ffederasiwn Busnesau Bychain Cymru y byddai'r cyhoeddiad yn ergyd drom iawn i'r diwydiant adloniant a lletygarwch.

"Byddai cyfnod llwyddiannus yn arwain at y Nadolig wedi bod yn hanfodol i alluogi rhai busnesau barhau dros y gaeaf," meddai.

"Bydd croeso mawr i'r pecyn cefnogaeth ariannol. Ond mae'n rhaid cofio y bydd nifer o fusnesau sy'n cyflenwi'r sector yn teimlo ergydion difrifol y mesurau newydd, ac mae'n hanfodol eu bod hwythau'n gallu cael cefnogaeth."

image copyrightGeograph/Gareth James
image captionDywedodd perchnogion sw Fferm Folly yn Sir Benfro y byddai'n cau oherwydd ei fod yn "ddibynnol iawn" ar y rhan o'r safle sydd dan do

Roedd ffigyrau coronafeirws dros yr wythnos ddiwethaf yn dangos bod 187 achos i bob 100,000 o bobl, ond erbyn dydd Llun roedd hynny wedi codi i bron i 210 o achosion fesul 100,000 o bobl.

Bu cynnydd pellach ymhlith y grŵp oedran dan 25 oed yn 17 o 22 ardal y cynghorau yng Nghymru ond "yn fwy pryderus" dywedodd Mr Drakeford fod achosion o coronafeirws yn dechrau codi yn y grŵp dros 60 oed yn y rhan fwyaf o'r wlad.

Eglurodd y Prif Weinidog y byddai'r llywodraeth yn darparu amryw o wahanol becynnau ariannol, ac yn ceisio sicrhau y gall busnesau lletygarwch gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt "mor awtomatig ag y gallwn ei wneud".

Ymateb i'r cyfyngiadau

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Paul Davies, fod y cyfyngiadau newydd yn annheg ar ardaloedd sydd â chyfraddau isel o'r haint.

Roedd y cam yn un "anghymesur", meddai, ac roedd yn well ganddo weld "dull llawer mwy rhanbarthol".

Roedd Mr Davies hefyd yn pryderu y byddai mwy o yfed alcohol yn y cartref yn dilyn y cyhoeddiad am gyfyngiadau ar dafarndai: "Gyda thafarndai a bariau ddim yn gwerthu alcohol, mae perygl y bydd pobl wedyn yn yfed gartref ac yna efallai'n cymysgu hyd yn oed yn fwy nag yr ydym yn ei weld ar hyn o bryd."

Rhaid i Lywodraeth Cymru roi cefnogaeth fel bod busnesau lletygarwch a thwristiaeth yn gallu "gaeaf-gysgu", medd Plaid Cymru.

"Mae busnesau angen cynllunio o flaen llaw," meddai llefarydd iechyd y blaid, Rhun ap Iorwerth AS.

"I lawer o fusnesau, y peth synhwyrol iddyn nhw wneud rŵan, yn y wybodaeth bod y gefnogaeth gyda nhw, fyddai dweud 'gadewch i ni roi popeth o'r naill ochr am y tro, gwneud yr hyn sydd angen i ofalu am ein staff, sicrhau bod ein busnesau dal yna am flwyddyn arall a gaeaf-gysgu'".

Ychwanegodd nad yw'n fuddiol i fusnesau orfod "bownsio o un cyfnod clo i un arall".

Straeon perthnasol