BBC Cymru Fyw

Rufus Mufasa: Iaith yn lloches ac yn grefydd

Published
image copyrightRufus Mufasa

"Mae 'na linell yn un o fy ngherddi i - s'dim lot o wahaniaeth rhwng treftadaeth a chrefydd. A dyna fel dw i'n teimlo am yr iaith Gymraeg.

"Fi wedi ffeindio crefydd yn yr iaith ac mae'r iaith wedi helpu fi i brosesu popeth."

Mae'r cyfnod clo wedi bod yn gyfnod anodd i lawer ond mae'r rapiwr a'r bardd Rufus Mufasa o Bontypridd wedi darganfod lloches yn yr iaith Gymraeg: "Mae ysgrifennu yn y Gymraeg yn rhoi rhyddid i fi i ddweud beth dw i ishe dweud.

"Mae'n teimlo fod y Gymraeg yn neud fi deimlo'n gryfach ac yn ddiogel. Pan fi'n ysgrifennu dw i'n ysgrifennu er mwyn iachau."

Dianc

Mae'r cyfnod o ddianc o'r byd 'normal' wedi rhoi cyfle i'r bardd, sy'n fam i ddwy o ferched, i brosesu blwyddyn anodd ar ôl i'w pherthynas gyda'i phartner dorri i lawr: "Fi rili yn gwerthfawrogi'r flwyddyn yma achos o'n i'n trio gwahanu o fy mhartner am amser hir.

"Ym mis Hydref llynedd nes i lwyddo i dorri'n rhydd ond rhwng Hydref a Chwefror eleni 'oedd pen fi dros y lle.

"Doedd neb yn gwybod achos nes i job mor dda o guddio fe. Nes i jest trio cael trwy pob dim.

"Ym mis Mawrth aethon ni gyd i locdown. Heb locdown bydden i wedi parhau i fod fel performing monkey, yn rhoi fy enaid bob dydd heb unrhyw ofod i brosesu pob dim.

"Dw i ddim erioed wedi cael y fraint o gael amser off er mwyn adlewyrchu a chymryd stoc.

Trawma

"Mae locdown wedi newid bywyd fi mewn ffordd anhygoel achos nes i eistedd gyda trawma fi, trawma mam fi, mamgu fi a hen famgu fi.

"Nes i eistedd gyda hwnna'i gyd a dw i'n teimlo mod i wedi torri'r cycle. Mae'n gorffen gyda fi.

"Bydd plant fi ddim yn mynd trwy'r un gwersi bywyd dw i wedi bod trwy achos dw i wedi gorffen y cycle yna i bawb - y berthynas gyda dynion, perthynas gwaith ac adref, perthynas gyda phrynu mewn i consumerism.

"Os na fydde locdown wedi digwydd fydden i'n vulnerable iawn. Mae'n anodd pan ti'n fardd ac yn fam."

Addasu

Mae Rufus wedi ysgrifennu a pherfformio cerdd newydd o'r enw Addasu, sy'n sôn am addysgu yn ystod y cyfnod clo ac addasu i'r normal newydd, ar gyfer gŵyl Trwy Brism Iaith sy' wedi digwydd rhwng 23 a 25 Tachwedd.

Mae'r gerdd yn cael ei chyflwyno drwy gyfuniad o'r ddwy iaith: "Mae'r gair addasu - 'oedd pawb wedi mynd mewn i locdown ac yn meddwl 'ni'n mynd i goginio ac ati' ond lot o hynny yw avoidance.

"Ambell waith mae rhaid i ni eistedd gyda'n galar a'n trawma a 'na'r unig ffordd ni'n mynd i dorri trwyddo ac i fod yn rhydd.

"Dw i'n dod o gefndir anodd gyda rhieni sy' wedi gwahanu. Cefais fy magu yn mynd i'r eglwys oherwydd fy mam ac 'oedd Dad yn eitha' spiritual, yn Buddhist.

"Doedd fy rhieni ddim yn cytuno gyda ffordd o feddwl y llall ond nes i gymryd popeth arno."

image copyrightRufus Mufasa
image captionRufus gyda'i mam

Cyfnod clo gyda'r plant

Mae'r gerdd hefyd yn sôn am beth yw iaith i Rufus a sut mae wedi ailddarganfod yr iaith Gymraeg eleni: "'M'ond fi a'r merched sy' wedi bod so maen nhw'n dysgu ti stwff a ti'n gallu gweld y byd trwyddo beth maen nhw'n dangos i ti bob dydd.

"Mae'r gerdd yn dechrau yn y Saesneg, wedyn mynd i'r Gymraeg. Wedyn mae'n sôn am merch fi'n anghofio ei Chymraeg.

"Yn y locdown roedd hi'n teimlo fod hi'n colli ei iaith. Ond ro'wn i'n ailgydio yn fy iaith Gymraeg i ar lefel arall.

"Achos dw i wedi bod trwy sefyllfa rili caled ers blwyddyn diwethaf, fi'n teimlo'n saffach yn y Gymraeg ar y funud.

"Mae perthynas a hyder ac mae crefydd fi at yr iaith Gymraeg yn tyfu."

image copyrightRufus Mufasa
image captionRufus gyda'i merched

'I'm both stranger and of this place'

Mae Rufus wedi bod ar daith i Indonesia llynedd i astudio ieithoedd brodorol ac wedi cyhoeddi ei gwaith mewn casgliad o'r enw I'm both stranger and of this place, gan gynnwys cerdd o'r enw Operation Rescue wnaeth hi gyflwyno yn yr Eisteddfod llynedd.

Dywedodd y bardd: "O'n i ddim ishe mynd i'r Eisteddfod llynedd - fi wedi bod yn gweithio yn yr iaith Gymraeg, dechreuais i grefft fi gyda'r iaith Gymraeg gan ddechre rapio yn y Gymraeg.

"Ond roedd y fframwaith iaith Gymraeg yn gweld fi fel rhywbeth gwahanol achos mod i'n wahanol i bawb arall - er fod gwaith fi'n farddonol.

"Yn Operation Rescue mae'r darn yn sôn am fi'n tyfu lan - oedd teulu Dad yn siarad Cymraeg ond o'n nhw'n meddwl fod Cymraeg nhw ddim digon addas. Knockon effect o'r Welsh Not oedd fod nhw'n meddwl 'fydd e'n detrimental i Rufus i siarad Cymraeg'.

"Yn y darn fi'n sôn am gymryd yr iaith nôl a siarad yr iaith i fy mhlant yn y groth, ar y fron.

"Y realisation o'r ffaith mai fi yw'r linc olaf so os fi ddim yn pasio'r iaith mlaen i'r plant, mae'r iaith yn gorffen gyda fi."

Lleisiau menywod

Ar ôl ei phrofiadau gyda'r torberthynas a'r cyfnod clo, mae Rufus yn benderfynol o roi llais i brofiadau menywod ac wedi ysgrifennu'n onest am ei phrofiadau hi fel menyw yn ei llyfr newydd, Flashbacks and Flowers.

Dywedodd: "Mae'n rhaid i ni ddechrau dweud straeon menywod ac mae lleisiau menywod a lleisiau mamau wedi cael eu colli yn y pandemig yma. Ni'n sôn am weithwyr frontline o hyd ond sym neb wedi bod mwy frontline na mamau."

Gwrandewch ar Rufus Mufasa yn perfformio'i cherdd Addasu fel rhan o ŵyl Trwy Brism Iaith.

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau Cysylltiedig

  • Diwylliant Cymru
  • Yr iaith Gymraeg