BBC Cymru Fyw

Arestio ail lanc wedi i fachgen gael ei drywanu

Published
image captionCafodd y bachgen ei drywanu yn ardal Broad Street yn Nhreganna

Mae ail berson wedi cael ei arestio ar ôl i fachgen 17 oed gael ei drywanu yng Nghaerdydd.

Cafodd y bachgen ei drywanu yn ardal Broad Street yn Nhreganna am tua 10:00 ddydd Mercher.

Fe gafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru gydag anafiadau sydd ddim yn peryglu ei fywyd.

Cafodd bachgen 15 oed o ardal Glan-yr-afon ei arestio ddydd Mercher ar amheuaeth o anhrefn treisgar a bod ag arf yn ei feddiant.

Dywedodd Heddlu De Cymru ddydd Iau bod llanc 17 oed o ardal Grangetown hefyd wedi'i arestio, a hynny ar amheuaeth o anhrefn treisgar ac ymosod.

Yn ôl y llu mae'r digwyddiad, ac ymosodiadau eraill yn y ddinas dros y penwythnos, yn "ymwneud â grwpiau o fechgyn yn eu harddegau yn targedu ei gilydd".

Pynciau Cysylltiedig

  • Heddlu De Cymru
  • Caerdydd

Straeon perthnasol

  • Llanc wedi ei drywanu yn Nhreganna, Caerdydd