Cyhuddo dyn wedi gwrthdrawiad bws yn Abertawe

Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus yn dilyn digwyddiad yn Rhagfyr 2019.

Mae Eric Vice, 64 oed o Ddyfnant, Abertawe, hefyd wedi ei gyhuddo o achosi anafiadau difrifol drwy yrru'n beryglus.

Cafodd ei gyhuddo yn dilyn ymchwiliad yr heddlu wedi i fws fod mewn gwrthdrawiad gyda phont yn Abertawe ar 12 Rhagfyr y llynedd.

Bu farw Jessica Jing Ren, a oedd yn teithio ar y bws deulawr, yn y digwyddiad ac fe gafodd wyth o deithwyr eu hanafu wedi'r gwrthdrawiad ar Ffordd Castell-nedd.

Bydd Mr Vice yn ymddangos gerbron ynadon Abertawe ar 23 Rhagfyr.

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,
Roedd yr academydd Jessica Jing Ren yn briod ac yn fam i fachgen pump oed