BBC Cymru Fyw

'Fi'n ddiolchgar i fod yma'

Published
image copyrightLara Thomas

O fewn 48 awr i gwympo ar y grisiau yn y brifysgol a chael briw bach ar waelod ei choes, roedd Lara Thomas yn yr ysbyty mewn coma gyda haint difrifol yn ymladd am ei bywyd.

Roedd y toriad di-nod i'r croen wedi heintio coes Lara gyda necrotising fasciiti, bacteria sy'n bwyta'r cnawd, sydd yn brin, ond yn farwol mewn bron i ddau o bob pump achos i'r rhai sy'n ei gael.

"O fewn diwrnod oedd e'n rili poenus, o'n i'n teimlo'n rili sâl, o'n i ffaelu sefyll, o'n i'n bod yn sick, o'n i'n cadw pasio mas," meddai'r ferch o Ddinbych-y-Pysgod wrth ail-fyw'r profiad a thrafod pa mor ddiolchgar ydi hi i fod yn fyw gyda Hanna Hopwood Griffiths ar Radio Cymru.

Pan ddigwyddodd y peth doedd hi ddim yn gallu deall sut roedd briw bach yn gallu achosi cymaint o boen.

A hithau yn fyfyrwraig yn Rhydychen ar y pryd, ffoniodd ei mam a rhuthrodd hithau draw o dde Cymru a mynd â hi i'r ysbyty lle gafodd lawdriniaeth frys.

"O'n i mewn septic shock a dyna pam o'n i mor sâl. Ges i'r operation cynta' a ges i'n rhoi mewn i induced coma ac roedd rhaid torri bant rhannau o nghroen i a nghoes i i stopio'r infection rhag lledaenu mwy," eglurodd.

Dywedodd y meddygon wrth ei theulu ei bod yn bosib mai oriau oedd ganddi i fyw ac mai'r canlyniad gorau posib fyddai ei bod yn colli ei choes.

Lara Thomas gyda'r môr y tu ôl iddi
Lara Thomas
Nawr bo' fi wedi prosesu beth oedd wedi digwydd i fi, fi'n credu nawr fi'n gallu edrych arno fe, a bod yn ddiolchgar i fod yma.
Lara Thomas

Ond llwyddodd y meddyg i atal yr haint a bu Lara yn ffodus i allu cadw ei bywyd a'i choes hefyd.

Collodd 70% o'i chnawd ar ran isaf ei choes a heddiw mae ganddi graith fawr o dan ei phen-glin.

Roedd yn yr ysbyty am fisoedd yn cael llawdriniaethau i grafftio croen ac ailffurfio ei choes; roedd rhaid iddi ailddysgu sut i gerdded hefyd.

'Euogrwydd'

Bum mlynedd yn ddiweddarach mae ei chraith yn ei hatgoffa o ba mor lwcus mae hi wedi bod, er bod yna rai dyddiau anodd.

image copyrightLara Thomas

"Fi'n teimlo'n lwcus mai dim ond hwnna sydd 'da fi; fi dal yn gallu cerdded, fi'n gallu gwneud popeth, o fewn rheswm, o'n i'n gallu gwneud cyn iddo fe ddigwydd. So, mae gen i mixed feelings.

"Pan o'n i yn yr ysbyty o'n i heb brosesu beth oedd wedi digwydd, ond yn y misoedd ar ôl hynny, pan oedd y recovery yn digwydd... roedd y sefyllfa mor ddifrifol o'n i ffaelu rili casáu y scar a casáu be' oedd wedi digwydd achos o'n i'n teimlo fy mod i mor lwcus bo' fi still ma a bo' fi still yn fyw."

media captionSiaradodd Lara Thomas am ei phrofiad gyda Hanna Hopwood Griffiths ar raglen Gwneud Bywyd yn Haws, BBC Radio Cymru

Roedd hi yn cael cyfnodau o feddwl 'pam fi?' ac mae hefyd wedi profi'r euogrwydd mae rhai pobl yn ei deimlo ar ôl byw drwy brofiadau tebyg gan gwestiynu weithiau pam ei bod hi wedi cadw ei bywyd a phobl eraill yn yr un sefyllfa ddim?

Sgrifennu wedi helpu

Trobwynt yn y broses o symud ymlaen i Lara oedd cymryd rhan mewn ymgyrch i ddathlu pobl a'u creithiau o'r enw Behind The Scars gan y ffotograffydd Sophie Mayanne.

Ysgrifennodd yn onest am ei theimladau am ei chraith a'r ffaith ei fod yn dangos iddi pa mor gryf yw hi er bod dyddiau lle mae'n cael ei brifo gan y syllu gan ddieithriaid, yn cael trafferth mynd allan o'r tŷ ac yn ofni na all neb ei charu oherwydd ei hanafiadau.

"Fi'n rili balch bo' fi wedi neud hwnna, oedd hwnna fel diwedd y recovery i fi," meddai.

"Oedd cael y lluniau wedi eu gwneud yn amazing ond roedd gorfod ysgrifennu am beth oedd actually wedi digwydd, a shwd fi'n teimlo, oedd hwnna'n rili bwerus i fi ei wneud."

image copyrightSophie Mayanne @ Kayte Ellis Agency

Mae yna ddyddiau lle mae wedi gorfod mynd nôl adref ac wedi crio, yn enwedig pan ddechreuodd hi ddangos ei chraith yn gyhoeddus.

Ond ers dweud ei stori yn Behind The Scars mae hi'n teimlo'n gryfach.

"Ma' fe'n symboleiddo popeth es i trwyddo yn ystod yr adeg 'na... mae hwnna'n symbol o resilience fi a'r anhawsterau oedd 'da fi yn ystod y cyfnod 'na.

"Fi'n rili falch ohono fe nawr," meddai.

Caru ein cyrff

Mae ganddi deimladau cymysg a chymhleth yn dal i fod ond mae hi'n mwynhau gallu gwisgo sgert neu shorts heb boeni beth mae pobl yn ei feddwl am ei chraith ac yn gobeithio bod hynny'n rhoi hyder i bobl eraill sy'n teimlo'n negyddol mewn unrhyw ffordd am eu cyrff.

"Oedd e'n anodd delio ag e ond eto o'n i'n ffaelu teimlo'n drist amdano fe achos fi'n lwcus," meddai.

"Ar ôl i hwn ddigwydd fi'n credu fi wedi dod yn fwy accepting o fy nghorff. Oedd y sefyllfa mor ddifrifol, fi ffaelu casáu beth sydd wedi digwydd i fi."

image copyrightLara Thomas
image caption'Oedd e'n anodd delio ag e ond eto o'n i'n ffaelu teimlo'n drist amdano fe achos fi'n lwcus,' meddai Lara Thomas am ei phrofiad brawychus gyda necrotising fasciitis

Mae wedi bod yn daith meddai ac mae wedi dysgu derbyn ei chorff.

A phan mae rhywbeth yn effeithio arni, fel pobl yn syllu ar ei hanafiadau, mae ganddi ffyrdd o ddelio gyda'r sefyllfa:

"Jyst stopio i feddwl beth fi wedi bod trwyddo... a bod yn ddiolchgar i fy nghorff i am be' mae wedi bod trwyddo gyda fi... a dyw ryw random person ar y stryd a beth maen nhw'n meddwl [ddim yn bwysig]."

Mae wedi cael ei gorfodi i feddwl mwy na'r rhan fwyaf o bobl am bwysigrwydd dysgu caru ein hunain a'n cyrff, a "bod yn ddiolchgar" am beth mae'n cyrff yn ei wneud inni yw'r peth pwysicaf iddi bellach.

"Fi'n gwybod fy mod i wedi cael unique experience gyda corff fi, ond os ni'n cael annwyd neu rhywbeth, mae'n corff ni yna, yn bacio ni lan, yn safio bywydau ni; literally mae'n cyrff ni'n cadw ni'n fyw. Fi'n credu bod rhaid inni feddwl am hwnna a bod yn ddiolchgar.

"Nawr bo' fi wedi prosesu beth oedd wedi digwydd i fi, fi'n credu nawr fi'n gallu edrych arno fe, a bod yn ddiolchgar i fod yma."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig

  • BBC Radio Cymru
  • Iechyd