Beth yw'r effaith a gafodd Margaret Thatcher ar Gymru?

Published
image copyrightBettmann

Mae 28 Tachwedd yn nodi 30 mlynedd ers diwedd cyfnod Margaret Thatcher fel Prif Weinidog y Deyrnas Unedig. Ar y dyddiad hwn yn 1990 fe adawodd Mrs Thatcher Downing Street am y tro olaf wedi 11 mlynedd a hanner wrth y llyw.

Er bod Llywodraeth Thatcher wedi mynd ers tri degawd, mae hi dal yn gymeriad sy'n ennyn cryn dipyn o emosiwn yng Nghymru. Beth yw ei dylanwad hi yma heddiw? Sut y dylid cofio amdani?

Vaughan Roderick yw Golygydd Materion Cymreig y BBC, ac yma mae'n rhannu ei farn am gyfnod Thatcher.

Os ydych chi'n archebu fideo o'r Farwnes Thatcher yng Nghymru o archif y BBC, y clip sydd ar frig y rhestr yw ymweliad y Prif Weinidog â Chwm Clydach yn y Rhondda.

Yno i agor datblygiad o swyddfeydd parod oedd Mrs Thatcher, fel oedd hi ar y pryd. Roedd y syniad yn un diddorol. Y gobaith oedd y byddai swyddfeydd parod yn fodd i ddenu swyddi coler wen i'r cymoedd yn yr un modd ac oedd ffatrïoedd parod wedi denu cwmnïau cynhyrchu.

Yr adwaith i Thatcher

Mae'r swyddfeydd dal yna ond nid bancwyr ac alltudion o ddinas Llundain sy'n eu defnyddio ond gweithwyr cyngor Rhondda Cynon Taf. O'r sector gyhoeddus nid y sector breifat y daeth yr achubiaeth i Gwm Clydach.

Heb os, mae'r Pavilions yn enghraifft berffaith o etifeddiaeth Mrs Thatcher yng Nghymru. Do, fe adawodd hi ei marc ond nid yn y modd yr oedd hi'n disgwyl!

Yr enghraifft orau o hynny yw'r ffaith bod gan Gymru ei Senedd a'i Llywodraeth ei hun. Methiant cynlluniau datganoli'r 1970au wnaeth arwain at ddyrchafu Margaret Thatcher yn Brif Weinidog yn y lle cyntaf. Adwaith i'w chyfnod hi wrth y llyw oedd llwyddiant cynlluniau'r 1990au i raddau helaeth iawn.

image copyrightMirrorpix
image captionDathlu canlyniad refferendwm 1997, ble enillodd yr ymgyrch 'Ie' yn rhannol oherwydd 'adwaith i Thatcher a Thatcheriaeth' yn ôl Vaughan Roderick

Dyw hi ddim yn gyd-ddigwyddiad mai yn ystod Streic y Glowyr yr ail-sefydlwyd yr ymgyrch Senedd i Gymru gan ddau Aelod Seneddol Llafur nac ychwaith mai ym Merthyr y cynhaliwyd y cyfarfod i'w ail-lansio.

Y newid yn y farn gyhoeddus tuag at ddatganoli yn y Gymru ddiwydiannol oedd yn bennaf gyfrifol am lwyddiant yr ochr 'Ie' yn refferendwm 1997. Adwaith i Thatcher a Thatcheriaeth wnaeth yrru'r newid hwnnw.

Mae eironi felly bod Senedd Cymru yn sefyll yng nghanol y gofeb fwyaf i Thatcheriaeth yng Nghymru sef Bae Caerdydd, datblygiad sy'n crisialu holl gryfderau a gwendidau'r athroniaeth.

Roedd y cynllun i adfywio ardal y dociau yn un uchelgeisiol a mentrus ac fe lwyddwyd i ddenu gwerth cannoedd o filiynau o fuddsoddiad preifat i greu delwedd sgleiniog newydd i'r brifddinas. Dros gyfnod o ddegawd fe drowyd cannoedd o erwau o dir gwastraff yn fagned i ddenu datblygwyr.

'Cymdeithas ddim yn bodoli'

Ond dyw rhannau o'r datblygiad ddim wedi dyddio'n dda ac mae eraill yn cwympo'n ddarnau'n barod. Does' na fawr o deimlad o gymuned yn perthyn i'r lle ond wedi'r cyfan roedd Mrs Thatcher o'r farn nad oedd sut beth â chymdeithas yn bodoli.

Yn y cyfamser mae'r gymuned wreiddiol aml-ethnig sy'n byw yng nghanol tyrau gwydr y Bae yr un mor dlawd a difreintiedig ag erioed.

image copyrightJacob SUTTON
image captionGlowyr o Gymru yn protestio yn ystod streic ar 1 Awst 1984. Aeth Streic y Glowyr ymlaen am bron i flwyddyn gyfan, o 6 Mawrth, 1984 hyd at 3 Mawrth,1985.

Ond mae Bae Caerdydd yn llwyddiant o fath. Methiant pur fu'r ymdrech i ddod â ffyniant economaidd i'r ardaloedd ôl-ddiwydiannol yn enwedig cymoedd glo'r de.

Roedd dyddiau'r diwydiant hwnnw wedi ei rhifo ymhell cyn i Margaret Thatcher gyrraedd rhif deg ond doedd dim rheswm i'r broses fod yn un mor sydyn a phoenus.

'Etifeddiaeth o anghyfartaledd'

Os oedd pwll y Tower a gwaith y Betws yn gallu goroesi'n broffidiol am flynyddoedd ar ôl i bob man arall gau doedd 'na ddim rheswm yn y byd na fyddai pwll y Marine ac ambell un arall wedi gallu gwneud yr un peth.

Rhaid dod i'r casgliad hefyd bod "Cynllun y Cymoedd", fersiwn y maes glo o Fae Caerdydd a chynllun yr oedd Mrs Thatcher yn canu ei glodydd yn gyson, wedi gwneud fawr o wahaniaeth.

Heb os, anghyfartaledd yw ein prif etifeddiaeth o Thatcheriaeth. Yn ystod ei chyfnod hi y dechreuodd y gagendor rhwng y mwyaf cyfoethog a'r gweddill agor. Mae hi wedi parhau i dyfu yn y degawdau ers ei chwymp.

image copyrightMirrorPix
image captionMargaret Thatcher yn gadael Downing Street am y tro olaf.

Mae'r anghyfartaledd hwnnw'n amlwg iawn yng Nghymru ond nid ffenomen Gymreig yw hi. Mae'n un byd-eang. Fe ledodd craidd athroniaeth Thatcher i wledydd eraill ac, er da neu er drwg, rydym yn byw gyda'r canlyniadau hyd heddiw.

Mae cofeb yn enwog Syr Christopher Wren yn Saint Paul's yn dweud hyn.

"Reader, if you seek his memorial - look around you"

Gellid codi cofeb debyg i Margaret Thatcher ar stryd fawr Glyn Ebwy neu unrhyw un arall o drefi'r cymoedd.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig