Helpu eraill mewn pandemig waeth beth yw eu barn

Published
Pynciau Cysylltiedig
image copyrightS4C

Yn ei gwaith dros y misoedd diwethaf, y cyfnod anoddaf i Elen Lewis oedd gwrando ar glaf yn gwadu bod ffasiwn beth â Covid-19 tra'i bod hithau yn galaru ar ôl colli modryb i'r feirws.

Brathu ei thafod a phydru ymlaen i'w nyrsio wnaeth hi, ac mae hi a'i chydweithwyr yng ngorllewin Cymru wedi parhau i wneud ymweliadau cartref yn ystod yr argyfwng iechyd.

Ar ddechrau'r pandemig mae Elen Lewis yn dweud nad oedd nifer yn y gymuned, yn cynnwys hi ei hun, wedi sylweddoli pa mor beryglus oedd y sefyllfa gan fod lefelau'r haint mor isel yng nghefn gwlad gorllewin Cymru. Ond fe newidiodd hynny iddi hi ym mis Ebrill pan ddaliodd ei modryb y feirws.

Ymhen bythefnos roedd Undeg Lewis wedi marw a hithau ond yn 59 ac fel person gweithgar yn ei chymuned roedd yn sioc i'w theulu a'i chymdeithas yn ardal Crymych.

image copyrightLlun teulu
image captionBu farw Undeg Lewis, ar y dde, fis Ebrill. Roedd hi'n briod gyda tri o blant.

"Fi'n credu oedden ni i gyd bach yn naïf ynglŷn â pha mor ddifrifol oedd y feirws a meddwl daiff e ddim yma," meddai Elen Lewis wrth Cymru Fyw. "Fi'n credu bod pob un wedi cael sioc wedyn - fi'n hun hefyd, doeddwn i ddim yn disgwyl hynny. Mae e'n cymryd rhywbeth fel hynny i atgoffa ni pa mor ddifrifol oedd e. Roedd e'n ofnadw."

Cuddio teimladau

Roedd gorfod parhau i fynd i'w gwaith gan wybod bod y feirws ar led a chan wybod yn iawn beth oedd yr effaith yn brofiad anodd, meddai, ond roedd yn rhaid iddi guddio ei theimladau personol tra yn y gwaith.

"Y peth mwya' anodd i fi, fi'n cofio mynd mewn at un claf a nhw'n dweud bod y feirws ddim yn bodoli a beth oedd y ffỳs i gyd a wnaeth hynny wneud fi'n grac," meddai. "Ond achos roeddwn i'n nyrs oeddwn i ffili dweud dim byd - roeddwn i'n gorfod bod yn broffesiynol, dim ond trio dweud bod e yn real ac yn bodoli a bod rhaid bod yn ofalus a chadw pellter.

Elen Lewis wrth ei gwaith yn trin claf
S4C
Roedd e digon gwael colli aelod o'r teulu, doeddwn i ddim eisiau clywed am unrhyw un arall yn colli bywyd."
Elen Lewis

"Roedd e mor anodd. Ac amser roeddwn i'n gweld Facebook a Twitter pobl yn gwneud mas bod e ddim mor wael â hynny, ac roedd pobl yn gweud bod mwy yn marw o'r ffliw a suicide... a fi'n deall hynny, ond mae hwn yn rhywbeth hollol wahanol. Chi ffili cymharu hwn efo rhywbeth fel cancr. Roedd yn hala fi mor grac.

"Ar ôl colli Undeg ro'n i yn trio dweud wrth bob un i fod yn ofalus a chadw pellter a ro'n i'n rîal ofnus bydde rhywbeth yn digwydd. Roedd e ddigon gwael colli aelod o'r teulu, doeddwn i ddim eisiau clywed am unrhyw un arall yn colli bywyd."

Mae Elen Lewis yn un o'r gweithwyr iechyd sydd i'w gweld yn Nyrsys, cyfres S4C sy'n dilyn gwaith tîm nyrsys cymunedol Bwrdd Iechyd Hywel Dda yng ngorllewin Cymru dros y misoedd diwethaf.

image copyrightS4C
image captionMae Elen Lewis, sy'n byw a gweithio yn ardal Crymych, yn gobeithio bydd pobl yn dod i ddeall gwaith nyrsys cymunedol wrth wylio'r gyfres ar S4C

Mae hi yn ei swydd ers 2016, ac yn dweud bod pawb wedi gorfod addasu yn ystod y cyfnod diweddaraf. Er bod y cyfnod yn anodd, mae hi'n falch ei bod yn y swydd.

"Roedd lot o bobl sy'n yn agos ata i yn gallu gweithio gartref a ro'n i'n ddiolchgar am hynny ond ro'n i dal yn gorfod gadael y tŷ i weithio a rhoi'n hunan at risk hefyd," meddai. "Ar yr un pryd dwi'n meddwl am rheiny sy'n gweithio yn yr ysbyty, a ni'n lwcus.

"Sawl amser fi wedi meddwl 'pam fi'n 'neud y job, pam alla i ddim cael job yn y swyddfa?', ond ar yr un pryd alla i ddim meddwl am wneud unrhyw jobyn arall.

"Mae bob dydd mor wahanol. Un dydd chi'n dod allan o dŷ rhywun yn chwerthin a chi wedi cael sbort efo'r claf, a chi'n gadael cartref y claf nesaf yn llefen gan bod eu sefyllfa nhw mor drist."

Un o'r nyrsys eraill yn y gyfres ydi Teleri Gwyther, sy'n gweithio yn y maes ers bron i 40 mlynedd ac yn arbenigo erbyn hyn ar y galon.

image copyrightS4C
image captionTeleri Gwyther gyda un o'i chleifion, Trevor Peregrine

Mae hi'n dweud bod natur y gwaith yn golygu bod yn rhaid mynd i gartrefi pobl, er enghraifft i dynnu gwaed.

"Mae rhai pethau ni'n gallu gwneud dros y ffôn, ond yn aml ni'n gorfod mynd yn agos i'r cleifion," meddai wrth Cymru Fyw.

"Roedd rhai yn nerfus a doeddwn i ddim yn gallu mynd oni bai eu bod nhw eisiau fi yno."

Dyfodol ansicr

Er bod siroedd Ceredigion a Penfro wedi osgoi'r gwaetha o'r pandemig hyd yma, ac wedi bod yn un o'r ardaloedd gyda'r niferoedd isaf o'r clwy' ym Mhrydain, mae'r sefyllfa wedi gwaethygu dros yr wythnosau diwethaf - a gyda hynny mae agweddau wedi newid hefyd.

Meddai Teleri: "Dros yr wythnosau diwetha' mae pobl wedi dechrau adnabod pobl gyda'r cyflwr.

Teleri Gwyther
S4C
Maen nhw wedi cau ysgolion nawr yn Aberteifi a ni'n gweld pobl a siarad gyda nhw, ac maen nhw'n dechrau mynd yn nerfus.
Teleri Gwyther

"Nôl ym mis Awst roedd pobl yn meddwl 'dyw e heb fod yma a ni ddim yn mynd i gael e yma', ac yn dweud 'ni ddim yn mynd i aros mewn nawr, ni eisiau quality of life'.

"Ond maen nhw wedi cau ysgolion nawr yn Aberteifi a ni'n gweld pobl a siarad gyda nhw, ac maen nhw'n dechrau mynd yn nerfus.

"Byddwn ni'n gwybod dros yr wythnosau nesaf sut mae petha' - ond dy'n ni ddim yn gwybod sut mae am fynd."

Hefyd o ddiddordeb: