Y Bencampwriaeth: Abertawe 1-1 Sheffield Wednesday

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Liam Palmer dan bwysau gan Liam Cullen a Yan Dhanda

Roedd yn rhaid i'r Elyrch fodloni ar gêm gyfartal gartref yn erbyn Sheffield Wednesday yn y Bencampwriaeth nos Fercher.

Roedd yr ymwelwyr ar y blaen ar yr egwyl ar ôl i Adam Reach sgorio o gic gornel, gyda thîm Tony Pulis yn rheoli'r chwarae am gyfnodau yn yr hanner cyntaf.

Ond fe frwydrodd Abertawe, sydd wedi colli dim ond ddwywaith yn y Bencampwriaeth y tymor hwn, yn ôl yn yr ail hanner - ac unioni'r sgôr gyda gôl gelfydd gan Andre Ayew wedi awr o chwarae.

Roedd perfformiad disgybledig a gweithgar Sheffield Wednesday yn ddigon i atal Abertawe rhag hawlio eu pedwerydd buddugoliaeth gartref o'r bron.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Abertawe'n aros yn bedwerydd yn y Bencampwriaeth, tra bod Sheffield Wednesday yn aros yn 23ain.