Y Bencampwriaeth: Coventry City 1-0 Caerdydd

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Tyler Walker yn dathlu sgorio unig gôl y gêm

Fe wnaeth buddugoliaeth Coventry City ychwanegu at y pwysau sydd ar ysgwyddau rheolwr yr Adar Gleision, Neil Harris.

Roedd hon yn fuddugoliaeth haeddiannol i Coventry City yn St Andrew's, gyda pherfformiad siomedig arall gan Gaerdydd ar y noson.

Sgoriodd Tyler Walker unig gôl y gêm wedi 54 o funudau, yn dilyn camgymeriad gan Joe Ralls.

Methodd yr ymwelwyr ag ymateb er iddyn nhw newid i 4-4-2 a chyflwyno Robert Glatzel i'r cae.

Prin iawn oedd y cyfleoedd i unioni'r sgôr, ac fe wnaeth peniad Kieffer Moore yn syth at Marosi gyda chwarter awr yn weddill.

Nid yw'r Adar Gleision wedi curo ers 18 Hydref, ac yn dilyn y canlyniad nos Fercher maen nhw'n llithro i'r 18fed safle yn y Bencampwriaeth.