Cyfraith fasnachu wedi Brexit yn 'bygwth datganoli'

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r adroddiad yn dweud y gallai Bil y Farchnad Fewnol gyfyngu'n sylweddol ar rymoedd Senedd Cymru

Mae llywodraeth y DU yn bygwth "tanseilio datganoli, gorfodi ei hewyllys ar Gymru" a "chyfyngu'n sylweddol" ar bwerau'r Senedd ar ôl Brexit, yn ôl pwyllgorau yn Senedd Cymru.

Mae tri phwyllgor seneddol wedi cyhoeddi casgliadau hynod feirniadol ar gynigion Llywodraeth y DU i ddisodli rheolau'r Undeb Ewropeaidd ar gyfer busnesau.

Mae Bil Marchnad Fewnol y DU i fod i sicrhau bod masnach yn parhau i fod yn esmwyth rhwng gwledydd ar ôl 1 Ionawr.

Mae BBC Cymru wedi gwneud cais i Lywodraeth y DU am ymateb.

Dywed beirniaid y gallai Llywodraeth Cymru golli rheolaeth ar safonau ar gyfer nwyddau a gwasanaethau o ganlyniad i'r bil.

Dywed llywodraeth Boris Johnson ei bod am osgoi gwahanol reolau yn ymddangos ym mhedair gwlad y DU ar ôl i'r cyfnod pontio Brexit ddod i ben ar 31 Rhagfyr.

Os daw'r bil yn gyfraith, dim ond yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon y bydd angen i gynnyrch a gwasanaethau fodloni rheolau er mwyn eu gwerthu ledled y DU.

Dywed gwrthwynebwyr fod hyn yn tanseilio pwerau deddfu yn y cenhedloedd datganoledig, gyda Llywodraeth Cymru yn ei ddisgrifio fel "ymosodiad sylfaenol ar ddatganoli".

Efallai na fydd angen i gwmnïau o Loegr sy'n gweithredu yng Nghymru, er enghraifft, ddilyn rheolau newydd a osodwyd gan y Senedd.

Cyn belled â'u bod yn cydymffurfio â rheoliadau Lloegr byddent yn dal i allu gwerthu eu cynnyrch mewn siopau Cymreig.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,
Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru yn honni y gallai'r bil arwain at weinidogion y DU yn ariannu ysgolion gramadeg yng Nghymru

Yn ei ganfyddiadau, dywedodd y Pwyllgor Deddfwriaeth y byddai'r bil yn creu "rhwystr diangen i allu'r Senedd i wneud ei deddfau ei hun" gan greu "rhwystr diangen... ar gyfer haen o gymhlethdod i ddefnyddwyr a busnesau".

Dywedodd na ddylai'r Senedd gydsynio i'r mesur - symudiad symbolaidd na fyddai'n ei atal rhag dod yn gyfraith pe bai'n cael ei gymeradwyo yn San Steffan.

Ond yn yr achos yma dywedodd y pwyllgor y dylai San Steffan wrando ar y Senedd oherwydd "effaith ddwys y ddeddfwriaeth ar y setliad datganoli".

Mae'r bil hefyd yn rhoi pwerau i weinidogion y DU wario arian ar bolisïau sydd wedi'u datganoli er 1999, megis datblygu economaidd a thrafnidiaeth.

Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi honni y gallai ganiatáu i lywodraeth y DU ariannu ysgolion gramadeg yng Nghymru.

Dywedodd mwyafrif aelodau'r Pwyllgor Cyllid y byddai'r mesur yn "tanseilio'r setliad datganoli", er bod un aelod - Mark Reckless - o Blaid Diddymu Cynulliad Cymru - yn anghytuno.

Yn ei adroddiad, dywedodd y Pwyllgor Materion Allanol fod y mesur "yn ceisio gorfodi ewyllys llywodraeth y DU ar Gymru, mewn ffordd sy'n ffafrio buddiannau Lloegr yn anghymesur".

Dywedodd ffynonellau yn y Senedd fod ymateb y pwyllgorau yn dangos lefel y pryder ym Mae Caerdydd ynglŷn â'r bil.

Yn Nhŷ'r Arglwyddi nos Fercher fe gafodd y llywodraeth ei threchu mewn pleidlais am y Mesur Marchnad Fewnol oherwydd cynigion i wneud penderfyniadau gwario i Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Fe wnaeth yr Arglwyddi bleidleisio o 323 yn erbyn 241 o blaid gwelliant fyddai'r dileu'r mesur yn llwyr.

Fe wnaeth yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd ddisgrifio'r mesur fel un "San Steffan sy'n gwybod orau" a fyddai'n caniatáu i weinidogion wneud penderfyniad dros ben y deddfwriaethau datganoledig.