'Gwnaeth colli babi fy newid i fel person'

Published
image copyrightCarys McKenzie

Yn 2018, collodd Carys McKenzie ei babi yn y groth, ac wedi hynny, cafodd drafferthion beichiogi eto. Cwympodd yn feichiog eto yn 2020, dim ond i golli ei hail blentyn ychydig o wythnosau yn ddiweddarach.

Mae hi wedi dechrau cyfrif Instagram o'r enw Cylchoedd, lle mae hi'n rhannu ei siwrne hi a'i phartner Gareth wrth geisio dechrau teulu, a'i gobaith yw i ddechrau sgwrs agored am drafferthion beichiogi gydag eraill sydd wedi bod drwy brofiadau tebyg, a hynny drwy'r Gymraeg.

Y golled gyntaf

"Dwi'n teimlo mod i bach yn naïf cyn mynd ati i drio - o'n i jyst yn meddwl fyddai pob dim yn iawn - a ti'n cael dy luchio mewn i'r byd 'ma oedd gen ti ddim syniad o gwbl amdano," meddai Carys, sy'n 35 oed.

"Roedd fy ffrindiau a'n nheulu yn gwybod [mod i'n feichiog] - ond doedd y rhan fwyaf o bobl ddim, ac yn amlwg wedyn doedd pawb ddim yn gwybod beth o'dd yn digwydd efo fi yn dilyn hynny.

"Ti'n gwella'n gorfforol ella, ond nes i ddim gwella yn feddyliol am yn hir. 'Swn i'n deud bo' fi 'di crio bron iawn bob diwrnod am ddwy flynedd ar ei ôl o, am rywbeth i 'neud efo colli'r babi neu fethu beichiogi.

"O'dd o 'di cael gymaint o effaith arna i, dwi'n meddwl ei fod o 'di'n newid i fel person. Cyn i hynny ddigwydd i mi, dwi'n teimlo mod i'n hogan ifanc, ac ar ôl iddo fo ddigwydd, o'n i'n oedolyn."

image copyrightCarys McKenzie
image captionMae Carys a'i phartner Gareth yn byw ar Ynys Môn

Amcangyfrifir fod camesgor (miscarriage) yn digwydd mewn un o bob wyth beichogrwydd, ond nid yw'n cael ei drafod yn agored iawn, yn enwedig os yw'n digwydd yn gynnar yn ystod y beichiogrwydd. Yn ôl Carys, dim ond wedi iddi golli babi y sylweddolodd pa mor gyffredin oedd hyn mewn gwirionedd.

Cafodd sioc, meddai, gymaint o bobl oedd yn rhannu eu straeon gyda hi am golli babi, cael trafferthion anffrwythlondeb neu fynd drwy driniaethau IVF, a hithau ddim wedi sylweddoli eu bod nhw'n mynd drwy sefyllfa debyg iddi hi.

Rhannu profiadau

Siarad a bod yn agored am ei cholled sydd wedi bod o gymorth i Carys, meddai, a hynny yn bennaf, i ddechrau, ar y cyfryngau cymdeithasol.

"O'n i'n dilyn rhai cyfrifon Saesneg [am drafferthion beichiogi] ar fy mhroffil fy hun, a nes i feddwl 'sa pobl yn gallu gweld mod i'n eu dilyn nhw, felly nes i agor un di-enw.

"Ond beth ddigwyddodd oedd wrth i mi ddilyn a gweld beth oedd pobl yn ei rannu, o'n i'n magu hyder i rannu hefyd.

Carys McKenzie
Proses oedd o, dwi'n meddwl, o ddim allu siarad amdano fo o gwbl i allu rhannu efo rhywun dwi ddim yn ei 'nabod.

"O'dd o'n teimlo reit liberating i allu siarad efo rhywun a ddim teimlo mod i'n siarad am rywbeth hollol stiwpid. O'dd y bobl 'ma'n dallt yn union beth o'n i'n ei deimlo, achos bo' nhw yn neu wedi mynd drwy'r union 'run peth.

"Erbyn i mi agor yr un Cymraeg, sydd ddim yn ddi-enw, o'n i wedi magu digon o hyder yn fy nheimladau ac yn y wybodaeth o'dd gen i am beth oedd wedi digwydd i mi, ac yn teimlo'n barod. Proses oedd o, dwi'n meddwl, o ddim allu siarad amdano fo o gwbl i allu rhannu efo rhywun dwi ddim yn ei 'nabod.

"Mae pobl yn dweud o hyd fod sgwennu yn helpu, ond nes i erioed feddwl am 'neud. Ond y munud nes i ddechrau sgwennu y post cynta 'na, o'n i jyst yn teimlo 'wow, mae hyn yn fy helpu i' - mae o'n gneud i mi feddwl am fy nheimladau, a meddwl yn union be' o'n i'n ei deimlo ar y pryd."

'O'n i'n flin efo'r byd'

Mae hi wedi bod yn broses hir a phoenus i Carys ddod i delerau gyda'i cholled, ac er ei bod hi'n fwy agored am y peth y dyddiau yma, roedd hi'n siwrne i gyrraedd ble mae hi heddiw, ac mae hi'n deall pam nad yw nifer o ferched yn teimlo eu bod nhw'n medru siarad am y peth.

Roedd nifer o emosiynau croes yn llifo drwyddi, meddai, ac roedd hi hefyd yn rhoi disgwyliadau ar ei hun o sut 'ddylai' hi deimlo ac ymddwyn.

"Pan o'n i'n stryglo i ddelio efo'r cynta, o'dd hanner ohona i yn flin - o'n i'n flin efo'r byd ac o'n i isho sgrechian a deud wrth bawb be' o'dd 'di digwydd i fi. Ond yr hanner arall... o'n i'n embarassed ac o'n i ddim isho i neb w'bod.

Dillad i'r babi
Carys McKenzie
"O'n i methu siarad amdano fo, hyd yn oed dwy flynedd wedyn. O'n i'n ypsetio yn meddwl, heb sôn am siarad am y babi.

"Mae 'na ddiwylliant hefyd o ganmol pobl am fod yn gryf. Ond be' ydi cryf?

"Mae pobl wedi deud bo' nhw ddim yn gwybod fod rhywbeth yn mynd ymlaen efo fi, achos o'n i jyst yn cario 'mlaen; o'n i'n mynd i ngwaith, hyd yn oed yng nghanol y miscarriage. O'n i'n meddwl bod rhaid i mi jyst rhygnu 'mlaen a dyna fo.

"Pan dwi'n edrych yn ôl, dwi'n meddwl; 'be' nes i elwa o hynna?' Dwi'n meddwl bod pobl yn teimlo weithia' mai'r peth iawn i'w wneud ydi cario 'mlaen, peidio dangos emosiwn - ond dwi rili ddim yn credu mai dyna'r ffordd ora' 'mlaen.

"Dwi'n meddwl bod crio yn iach, bod dangos gwendid wrth bobl ti'n drystio yn iach, a gadael i dy hun deimlo. Mae dy gorff yn dy 'nabod yn well na ti'n 'nabod dy hun, ac os wyt ti isho crio, os ti isho sgrechian, aros yn gwely... gad o 'neud.

"Prosesu a siarad sy'n bwysig, dwi'n meddwl, dim ei gadw o mewn. Diwrnod wrth ddiwrnod a trio gwella cam wrth gam, yn lle lluchio dy hun nôl mewn i'r gwaith a cogio bod popeth yn iawn.

"Anwybyddu'r peth o'n i; doedd 'na ddim elfen o ddelio efo fo o gwbl. Nes i ddiodda' wedyn am hynna, yn lle delio efo fo ar y pryd. Mae o'n gorfod dod allan rhywbryd, alli di ddim cario 'mlaen fel'na.

image copyrightCarys McKenzie

Dygymod

Pan gollodd Carys ei hail blentyn ym mis Awst eleni, roedd yn sefyllfa gwahanol i'w cholled cyntaf, meddai. Roedd yr ysbyty wedi amau fod ganddi feichiogrwydd ectopig, felly roedd Carys a Gareth wedi gallu dechrau dod i delerau â'r peth yn gynt.

Ac yn ogystal â derbyn cefnogaeth a chymorth gwych yn yr ysbyty, roedd Carys wedi bod yn fwy agored am ei beichiogrwydd gyda theulu a ffrindiau y tro yma, ac felly roedd ganddi fwy o bobl i droi atyn nhw wedi'r golled.

Mewn ffordd, meddai, er mor dorcalonnus oedd colli'r ail fabi, mae'r ail golled wedi ei helpu hi i ddygymod â'r golled gyntaf nôl yn 2018.

"O'n i methu siarad amdano fo, hyd yn oed dwy flynedd wedyn. O'n i'n ypsetio yn meddwl, heb sôn am siarad am y babi.

"Dwi dal yn teimlo'n drist, a'r teimlad mwya' ydi bechod dros y babi sydd wedi colli'r cyfle am fywyd a be' 'sa ni 'di gallu ei gynnig iddo fo fatha rhieni. Ond dwi 'di dderbyn o, a does 'na'm byd alla i 'neud amdano fo ond mae 'na bethau eraill alla i neud i helpu'n hun ac ella helpu pobl eraill hefyd.

"Dyna sut dwi'n sbïo arno fo rŵan, ond fersiwn newydd ohona i ydi hwnna - 'sa chi 'di siarad efo fi ym mis Ebrill, dim dyna o'dd y Carys 'sa chi 'di siarad efo hi bryd hynny. Mae'n drist ond dwi'n falch mod i'n teimlo lot fwy normal a lot fwy fel fy hun.

"Dwi 'di ffeindio mod i'n licio darllen am y pwnc - dwi 'di darllen lot am miscarriages a fertility, a dwi'n meddwl fod hynny wedi cario fi. Mae o 'di'n helpu fi achos dwi'n teimlo fod gen i fwy o reolaeth o'r sefyllfa.

"Mae o'n cadw fi'n brysur. Os tisho plant, a ti 'di colli babis, a sgen ti ddim plant, mae gen ti lot o amser i feddwl am y pethau 'ma. Ac mae'n rhaid i ti gadw dy hun yn brysur, neu ti jyst yn ista mewn tŷ gwag, yn gweld teuluoedd ar Facebook...

"Ella bod 'na wbath yn digwydd weithiau, a dwi'n teimlo'n isel, ond dwi'n gallu cael fy hun allan ohono fo. O'r blaen o'dd y teimladau yma'n cydio yndda fi gymaint, doedd 'na ddim cael fy hun yn rhydd.

"Ella mai jyst lwc 'di o, ond dwi'n teimlo lot iachach fy meddwl na dwi 'di bod ers blynyddoedd."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig