Cymro'n gobeithio am lwyddiant yn ras Cwpan America
- Cyhoeddwyd
Mae ras hwylio Cwpan America ymysg y cystadlaethau uchaf eu parch yn y byd, ac mae Cymro yn gobeithio chwarae rhan flaenllaw yn y gystadleuaeth ddechrau'r flwyddyn nesaf.
Cwpan America ydy'r tlws chwaraeon hynaf yn y byd, ac mae Bleddyn Môn o Amlwch, syn rhan o dîm Ineos, yn gobeithio bod y tîm cyntaf o Brydain i ennill y ras.
Roedd Bleddyn yn rhan o dîm Ineos y tro diwethaf i'r ras gael ei chynnal yn 2017, gyda'r tîm bryd hynny'n defnyddio'r enw Land Rover BAR.
Ond ni lwyddodd y tîm o Brydain i wneud y rownd derfynol yn Bermuda, ble cafodd yr Unol Daleithiau eu trechu gan Seland Newydd.
Wedi hynny bu'n rasio o amgylch y byd fel rhan o'r Volvo Ocean Race yn 2018, cyn dychwelyd i dîm Ineos er mwyn paratoi ar gyfer y gystadleuaeth yn 2021.
'Hwylio oddi ar y traeth ym Môn'
"Dwi 'di bod yn hwylio ers o'n i'n chwech neu saith oed, oddi ar y traeth yn Ynys Môn," meddai Bleddyn wrth BBC Cymru.
"Ers hynny mae llawer iawn wedi digwydd - nes i ddatblygu trwy hwylio o gwmpas Cymru a Phrydain, ac wedyn o gwmpas y byd i gyd, mewn pob math o wahanol gychod.
"Yn ogystal â hynny o'n i wedi mynd i'r brifysgol yn Southampton ac wedi astudio peirianneg lawn yn fan'na."
Wedi hynny cafodd Bleddyn gyfle i ymuno â thîm hwylio newydd Ben Ainslie - yr hwyliwr mwyaf llwyddiannus yn hanes y Gemau Olympaidd.
Mae Ainslie wedi ennill Cwpan America 'nôl yn 2013, ond gyda thîm Oracle o'r Unol Daleithiau, ac wedi hynny bu'n rhan o sefydlu tîm ym Mhrydain - tîm sy'n defnyddio enw Ineos erbyn heddiw.
Rôl ddwbl o fewn y tîm
"Ar ôl gorffen yn Southampton o'n i'n ffodus iawn o allu mynd i Porthsmouth efo Ben a'r tîm i gystadlu yn y Cwpan diwethaf," meddai Bleddyn.
"O'dd hynny i ddechrau ar yr ochr peirianneg yn benodol, ac wedyn fe wnaeth hynny ddatblygu i fod yn fwy o hwylio llawn amser, ac wedyn gallu rasio yn y Cwpan yn Bermuda [yn 2017].
"Ers hynny dwi wedi cystadlu yn y ras o gwmpas y byd, cyn ailymuno efo Ben a'r tîm ym mis Medi 2018, ac ers hynny 'da ni wedi bod yn paratoi ar gyfer y gystadleuaeth yma."
Oherwydd ei radd a'i gefndir mewn hwylio, mae Bleddyn yn chwarae dwy rôl allweddol gyda thîm Ineos.
"Mae gen i ddwy rôl o fewn y tîm - dwi'n rhan o'r tîm dylunio a hefyd yn hwylio ar y cwch allan ar y dŵr," meddai.
"I fi mae hynny'n gyfuniad perffaith - gallu gwneud rhywbeth o'n i wedi'i wneud ers o'n i'n fachgen bach yn hwylio, a hefyd cael proffesiwn o wneud gradd mewn peirianneg.
"O fewn hwylio dyma'r pinacl o'r ddwy ochr, felly dwi'n teimlo'n ffodus iawn."
'Hedfan uwchben y dŵr'
Ar hyn o bryd mae Bleddyn yn Seland Newydd yn paratoi ar gyfer y cystadlu ddechrau'r flwyddyn nesaf, ac mae'r criw hefyd yn y broses o orffen dylunio ac adeiladu'r cwch ar gyfer y gystadleuaeth.
"Y peth fwyaf anhygoel am y cwch yma ydy'r ffaith ei fod y cwch ei hun ddim yn y dŵr - mae'r cwch yn hedfan mewn ffordd uwchben y dŵr, yn eistedd ar ddwy adain sydd o dan y dŵr," meddai.
"Mae'r cwch yn 75 troedfedd o hyd, felly pan 'da chi'n ei weld o yn eistedd yn y dŵr, dydych chi byth yn meddwl y gallai o ddechrau hwylio uwchben y dŵr."
Does yr un tîm o Brydain erioed wedi ennill Cwpan America, ond mae Bleddyn yn ffyddiog bod y gallu o fewn tîm Ineos i hawlio eu lle yn y rownd derfynol a threchu'r deiliaid o Seland Newydd.
"I ddechrau 'da ni'n gorfod curo timau America a'r Eidal, ac wedyn byddai gennym ni siawns o rasio yn erbyn tîm Seland Newydd.
"Os 'da ni'n cael y cyfle yna ac yn gallu eu curo nhw, bysa hynny'n anhygoel - yn enwedig ar ôl bod yn rhan o'r tîm ers y cychwyn."
Bydd Cwpan America 2021 yn cael ei gynnal yn Auckland, Seland Newydd rhwng 6 a 21 Mawrth, gyda'r rowndiau rhagbrofol ym mis Ionawr a Chwefror.
Straeon perthnasol
- 29 Mai 2018
- 29 Mai 2018