BBC Cymru Fyw

Ffrae am arian amaeth wedi'r adolygiad gwariant

Published
Pynciau Cysylltiedig
  • Haint coronafeirws
image copyrightGetty Images
image captionDywedodd Rishi Sunak y bydd Llywodraeth y DU yn gwario £280bn eleni "i gael ein gwlad trwy coronafeirws"

Mae ffrae yn corddi am ddyfodol cymorthdaliadau amaethyddol yn dilyn yr Adolygiad Gwariant gan y Canghellor Rishi Sunak ddydd Mercher.

Bydd amaeth yng Nghymru yn derbyn £242m y flwyddyn nesaf o weinidogion y DU, gan arwain at un undeb amaethyddol i honni bod hynny'n doriad o £95m o gymharu gyda chyllid blaenorol o Ewrop.

Mae gweinidogion llywodraeth y DU yn mynnu eu bod yn anrhydeddu addewid i gynnal incwm ffermydd.

Dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid Cymru, bod y Canghellor wedi "torri addewidion" ac ychwanegodd bod rhewi cyflogau'r mwyafrif yn y sector cyhoeddus yn "annheg".

Mae disgwyl i nifer y bobl ddi-waith yn y DU godi i 2.6 miliwn erbyn ail chwarter y flwyddyn nesaf, yn ôl y Canghellor, Rishi Sunak.

Yn ei adolygiad gwariant ddydd Mercher, dywedodd fod "argyfwng economaidd" y DU "newydd ddechrau".

Bydd y difrod a achoswyd gan y pandemig coronafeirws yn "barhaus", rhybuddiodd yn Nhŷ'r Cyffredin.

Dywed y Canghellor y bydd cyfanswm gwariant adrannol ar draws Whitehall yn £540bn yn 2021.

Bydd gwariant adrannol o ddydd i ddydd yn codi, 3.8% mewn termau real - "y gyfradd twf gyflymaf mewn 15 mlynedd".

Dywedodd y bydd cynnydd i gyllid Llywodraeth Cymru o £1.3bn, i Lywodraeth yr Alban o £2.4bn, a chynnydd o £900,000 i Ogledd Iwerddon.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 1.62 miliwn o bobl yn ddi-waith yn y DU.

Dywedodd Mr Sunak y byddai'r llywodraeth yn gwario £280bn eleni "i gael ein gwlad trwy coronafeirws".

Cyhoeddodd hefyd y byddai cyflog y sector cyhoeddus yn cael ei rewi, heblaw am nyrsys, meddygon a staff eraill y GIG a fydd yn cael codiad cyflog.

image copyrightGetty Images
image captionMae'r Canghellor yn cael ei gyhuddo o fradychu ffermwyr drwy beidio parhau gyda'r lefel o gyllid arferol, ond gwadu hynny mae llywodraeth y DU

'Bradychu ffermwyr'

Roedd cyllid amaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn werth £337m i Gymru yn flynyddol ac yn cael ei ddosbarthu gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru bod y llywodraeth Geidwadol yn San Steffan wedi addo yn eu maniffesto i "warantu'r gyllideb flynyddol i ffermwyr ym mhob blwyddyn o'r senedd nesaf".

Ond dywedodd eu llywydd Glyn Roberts ddydd Mercher: "Mae'r penderfyniad i dorri'r gyllideb yna felly yn bradychu ffermwyr yn llwyr... ffermwyr sydd wedi parhau i gynhyrchu bwyd i fwydo'r genedl trwy gydol y pandemig coronafeirws."

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth y DU: "Nid ydym wedi torri yr un addewid. Mae'r cyhoeddiad o £240m heddiw yn anrhydeddu ein hymrwymiad i barhau gyda'r fframwaith gyllido a dderbyniodd ffermwyr a rheolwyr tir yng Nghymru yn 2019."

Dim arian llifogydd wedi 'colli cyfle'

Dywedodd Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans bod y Canghellor wedi "colli cyfle" trwy beidio â chyhoeddi arian i fynd i'r afael â difrod sydd wedi'i achosi gan lifogydd yng Nghymru.

Yn ôl Rebecca Evans, roedd hi wedi ysgrifennu at Mr Sunak yn galw arno i gyhoeddi y byddai cyllid ar gael.

Yn gynharach eleni fe wnaeth Boris Johnson addo arian i helpu rhannau o Gymru sydd wedi'u taro gan lifogydd.

image captionFe wnaeth Rebecca Evans gytuno bod yr adroddiad gwariant yn "bradychu" ffermwyr Cymru

"Dydyn ni ddim wedi derbyn yr arian oedd wedi'i addo gan y Prif Weinidog," meddai Ms Evans yn y Senedd ddydd Mercher.

Dywedodd Ms Evans ei bod i fod i gael cyfarfod gyda'r Trysorlys ar y mater fis nesaf.

Roedd y gweinidog hefyd yn feirniadol o benderfyniad y Canghellor i beidio â rhoi codiad cyflog i weithwyr sector cyhoeddus am y flwyddyn ariannol nesaf.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol

  • Adolygiad gwariant: 'Arbed, nid gwario yw'r nod tebygol'