BBC Cymru Fyw

Pro14: Ulster 26-24 Scarlets

Published
image copyrightInpho
image captionEr gwaethaf pob ymdrech y Scarlets yn colli o ddau bwynt oddi cartref

Colli wnaeth y Scarlets yn erbyn Ulster yn y Pro14 nos Sul.

Aeth Ulster ar y blaen wedi chwe munud wedi cais gan Rob Lyttle ond yna cais i'r Scarlets gan Paul Asquith ac roedd y trosiad yn gywir.

Ond yng nghanol ymosodiad y Scarlets rhyng-gipiodd Moore bas lac ar ei ddwy ar hugain ei hun a rhedeg hyd y cae i sgorio'i gais a Cooney wedyn yn trosi.

Ychwanegodd Reidy drosgais wedi hynny ac roedd hi'n 19 i saith ar hanner amser.

Dechreuodd yr ail hanner yn dda i'r Scarlets gyda Ryan Cobeer yn sgorio yn y cornel.

Tra bod Matt Faddes, Ulster yn y gell gosb am dacl uchel fe groesodd Steff Evans y gwyngalch, ac roedd hi'n 19 i 17.

Wedi eilyddio pedwar chwaraewr roedd Ulster yn ymosod eto a daeth trosgais arall drwy Treadwell i'w gosod ddwy sgôr ar y blaen.

Daeth trosgais arall i'r Scarlets drwy Price bedwar munud o'r diwedd ond boddi yn ymyl y lan wnaeth y tîm o Lanelli. Y sgôr terfynol 26-24.

Pynciau Cysylltiedig

  • Scarlets
  • Undeb Rygbi Cymru