BBC Cymru Fyw

Y Bencampwriaeth: Abertawe 1-0 Rotherham United

Published
image copyrightHuw Evans picture agency

Sicrhaodd yr Elyrch eu trydedd buddugoliaeth gartref yn olynol wrth guro Rotherham United, diolch i gôl yn yr hanner cyntaf gan Matt Grimes.

Hawliodd Grimes ei gôl gyntaf y tymor hwn, wrth i'w ymdrech fynd heibio'r golwr Jamal Blackman, oedd wedi dioddef prynhawn caled.

Cafodd ymdrechion Jamal Lowe a Jake Bidwell eu harbed gan ymdrechion amddiffynnol y gwrthwynebwyr wrth iddynt geisio cynyddu'r fantais.

Fe gafodd cais hwyr gan Rotherham am drosedd gan Ryan Bennett, gyda'r ymwelwyr yn dadlau ei fod wedi llawio'r bêl, ei wrthod.

Mae Abertawe yn codi i'r pedwerydd safle yn y Bencampwriaeth, dau bwynt oddi ar y brig, tra bod Rotherham yn safle rhif 19.

Pynciau Cysylltiedig

  • Clwb Pêl-droed Abertawe
  • Pêl-droed