BBC Cymru Fyw

Pen-blwydd hapus i fathodyn oren y Gymraeg

Iola Wyn
Gohebydd BBC Cymru

Published
image copyrightComisiynydd y Gymraeg
image captionDywed Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, fod y cynllun cyn bwysiced nawr ag erioed

Mae'r swigen oren sy'n dynodi fod rhywun yn siarad Cymraeg yn bymtheg oed.

Ers ei lansio gan yr hen Fwrdd Yr Iaith Gymraeg, mae cyfartaledd o dros 50,000 o fathodynnau, cortyn gwddf a phosteri yn cael eu dosbarthu yn flynyddol.

Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, mae'n gynllun ymarferol sy'n rhoi arwydd clir fod gwasanaeth Cymraeg ar gael.

Yn siop Leekes Cross Hands y cafodd y swigen oren ei lansio a hynny'n rhan o'r cynllun Iaith Gwaith i annog busnesau i ddefnyddio mwy o'r Gymraeg.

image captionAnna-Jayne yn gwisgo'r bathodyn oren yn ei gwaith

"Mae'r cwsmeriaid yn gallu gweld bod y staff yn siarad Cymraeg achos bo' nhw'n gwisgo'r bathodyn," meddai Anna-Jayne, un o reolwyr y siop, ble mae'r staff yn parhau i arddangos y swigen.

"Mae'n golygu bo' nhw'n gallu dechre'r sgwrs yn Gymraeg, sy'n gwneud hi'n haws i ni esbonio am y cynnyrch.

"Ac mae'n golygu bo' ni'n siarad yr iaith y maen nhw fwyaf hapus ei siarad."

  • 'Y Gymraeg yn dioddef yn sgil y pandemig'

'Camgymeriad' cyflwyno mwy nag un logo

Meirion Prys Jones, cyn-Brif Weithredwr Bwrdd Yr Iaith Gymraeg, gynlluniodd y logo.

"Mae'r syniad yn un da," meddai. "Os chi'n gallu gweld bod rhywun yn siarad Cymraeg, chi'n mynd i ddefnyddio mwy o Gymraeg gyda nhw, a ma' hynny yn digwydd pan fo pobl yn deall beth mae'r logo a'r bathodyn yn ei feddwl.

"Yr anhawster ydy bod rhywfaint o ddryswch wedi bod ar hyd y blynyddoedd gyda'r Llywodraeth yn cyflwyno eu logo nhw ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg, a'r Comisiynydd â logo arall."

Camgymeriad sylfaenol oedd hynny, yn ôl Meirion Prys Jones.

image captionDywed Meirion Prys Jones fod ambell i logo arall yn y cyfamser wedi achosi "dryswch"

"Y Llywodraeth yn ceisio dangos ei rôl newydd ar ôl diwedd Bwrdd Yr Iaith oedd hynny mewn gwirionedd," meddai.

"Dyle rhyw fath o drafodaeth synhwyrol fod wedi digwydd rhwng y Llywodraeth a'r Comisiynydd ar y pryd ynglŷn â pha arwydd fydden nhw'n mabwysiadu.

"Erbyn hyn, ry'n ni mewn sefyllfa lle mae'n gliriach taw'r bathodyn oren sydd wedi goroesi."

Yr Alban yn dilyn esiampl

Yn ôl swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, mae'r swigen wedi ysbrydoli'r Alban i fabwysiadu cynllun tebyg.

Yn Hydref 2019 fe wnaeth Bòrd na Gàidhlig (Bwrdd yr Iaith Aeleg) lansio swigen las i annog siaradwyr Gaeleg i ddefnyddio'r iaith.

Ifan Evans oedd Cyfarwyddwr Sector Preifat Bwrdd yr Iaith pan lansiwyd y bathodyn yn 2005.

Mae bellach yn Gyfarwyddwr Technoleg Digidol a Thrawsnewid yn Adran Iechyd Llywodraeth Cymru.

"Fe wnaethon ni lot o waith gyda'r banciau, archfarchnadoedd, a'r sector preifat yn ogystal â'r sector iechyd a gwasanaethau cyhoeddus, i wneud yn siŵr eu bod nhw'n defnyddio'r swigen newydd o'r dechrau.

"Roedden ni eisiau sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o'n brand newydd ffres, lliwgar ni," meddai.

image copyrightBòrd na Gàidhlig
image captionMae'r swigen wedi ysbrydoli'r Alban i fabwysiadu cynllun tebyg

Mae Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg yn pwysleisio fod Iaith Gwaith wedi hen ennill ei blwyf yng Nghymru, ac yn adnodd defnyddiol i sefydliadau cyhoeddus, busnesau ac elusennau.

Ac mae'r ymgyrch cyn bwysiced nawr ag erioed iddo.

"Rydym yn sylweddoli fod amgylchiadau wedi newid yn ddiweddar, ac nad yw bathodyn a chortyn gwddf yr un mor berthnasol ar hyn o bryd gyda'r mwyafrif yn gweithio o adref neu yn gorfod gwisgo gorchudd dros eu dillad gwaith," meddai.

"Felly rydym yn hynod falch o fod wedi datblygu cefndir ar gyfer cyfarfodydd rhithiol sy'n cynnwys y bathodyn fel modd o adnabod siaradwyr Cymraeg dros sgrin."

Ac mae gan yr ymgyrch rôl ganolog yn nharged y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yn ôl Meirion Prys Jones.

"Be' sy'n ddatblygiad cadarnhaol yn y cyd-destun yna yw'r defnydd o'r bathodyn ar lanyards neu gortyn o amgylch y gwddf," meddai.

"I fynd nôl at bwrpas gwreiddiol y cynllun sef hyrwyddo'r Gymraeg yn y gweithle, dwi'n gweld hwnna fel cam adeiladol, a dwi'n credu y gwnaiff hynna wahaniaeth o safbwynt y niferoedd sy'n defnyddio'r iaith yn ddyddiol.

"Wrth gwrs, ail darged 2050 yw cynyddu'r nifer sy'n siarad Cymraeg yn ddyddiol, a ma' hwnnw i fi yn bwysicach na'r targed cyntaf o gynyddu'r niferoedd."

Pynciau Cysylltiedig

  • Iaith
  • Yr iaith Gymraeg

Straeon perthnasol

  • Covid-19 yn effeithio ar y Gymraeg, medd y Comisiynydd