BBC Cymru Fyw

Rhybudd cyffuriau wedi marwolaeth yng Nghaerdydd

Published
image copyrightSPL
image captionDywed yr heddlu fod cysylltiad rhwng y cyffuriau sy'n destun yr ymchwiliad â Ketamine

Mae Heddlu De Cymru'n cynnal ymchwiliad i gyflenwadau cyffuriau yn ardal Caerdydd wedi marwolaeth dyn 25 oed.

Mae menyw 18 oed hefyd mewn cyflwr difrifol iawn yn yr ysbyty.

"Rydym yn cyhoeddi rhybudd ar ôl dechrau ymchwiliad i gyflenwadau cyffuriau peryglus, y credir sy'n gysylltiedig â Ketamine, yn ardal Caerdydd," medd y llu mewn datganiad.

"Mae'r cyffuriau hyn yn anghyfreithlon ac mae'r bosib iawn eu bod yn cynnwys cyfuniad o gynhwysion gwenwynig.

"Gofynnir i unrhyw un ag unrhyw wybodaeth ynghylch defnyddio neu werthu cyffuriau gysylltu â ni drwy ffonio 101, neges breifat neu Taclo'r Tacle yn anhysbys ar 0800 555111."

Pynciau Cysylltiedig

  • Heddlu De Cymru
  • Caerdydd

Straeon perthnasol

  • Canfod gwerth £6m o gyffuriau mewn cyrchoedd heddlu