Cymru dan-21 3-0 Moldofa dan-21

Published
image copyrightGetty Images
image captionMae Terry Taylor yn chwarae i Grimsby Town, ar fenthyg o Wolves

Mae tîm pêl-droed dan-21 Cymru wedi codi o waelod eu grŵp rhagbrofol ar gyfer pencampwriaeth Euro 2021 ar ôl trechu Moldofa yn Wrecsam nos Wener.

Yn dilyn hanner cyntaf rhwystredig, aeth Cymru ar y blaen wedi awr o chwarae, gyda Terry Taylor yn rhwydo wedi i Moldofa fethu â chlirio'r bêl o gic gornel.

Dyblwyd mantais y Cymry ifanc gyda chwarter awr yn weddill, wrth i Nathan Broadhead sgorio o'r smotyn yn dilyn trosedd arno yn y cwrt cosbi.

Ychwanegwyd trydedd gôl yn yr eiliadau olaf, wrth i Mo Touray rwydo funudau'n unig wedi iddo ddod i'r maes.

Bydd Cymru'n herio'r Almaen yn eu gêm olaf yn y grŵp rhagbrofol nos Fawrth, ond roedd gobeithion Cymru dan-21 o gyrraedd Euro 2021 eisoes ar ben cyn y gêm nos Wener.

Er hynny, mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru'n codi i'r pedwerydd safle yn y grŵp, yn gyfartal ar bwyntiau gyda Bosnia Herzegovina yn y trydydd safle.