Kylie Minogue a dylanwad ei Nain Gymreig
- Published
Gyda'i halbym newydd, Disco, wedi mynd â hi i frig siartiau'r DU am y pumed degawd yn olynol, y ddynes gyntaf i gyflawni hynny, mae'n amlwg fod Kylie Minogue yn fytholwyrdd - yn union fel ei Nain Gymreig sy'n troi'n 100 oed fis Rhagfyr.
Mae'n dal i siarad mewn acen Gymreig gref, meddai'r gantores mewn sgwrs am ei gwreiddiau Cymreig ar BBC Radio Wales, ac mae wrth ei bodd pan mae'n cael y cyfle prin i siarad Cymraeg.
Fe ymfudodd Millicent Jones (Riddiford cyn priodi) a'i gŵr Dennis o Faesteg yn ne Cymru i Awstralia yn 1955 pan oedd Carol, mam Kylie Minogue, yn ferch fach.
"Fe aethon nhw i Awstralia pan oedd hi'n 10 oed," meddai Kylie Minogue ar raglen Carol Vorderman.
"Felly atgofion cynharaf fy Mam ydy ohonyn nhw yng Nghymru wrth gwrs, a dwi wedi gweld lluniau ohonyn nhw yno.
"Ond dwi'n gwaredu i feddwl am fy Nain druan, yn sâl môr yr holl amser.
"Roedd ganddi bedwar o blant bryd hynny, mi gafodd hi chwech i gyd, ac mi aethon nhw o gymoedd Cymru i ogledd Queensland; Queensland drofannol efo mangos yn syrthio o'r coed a neidr yn y blwch llythyrau.
"Sut wnaethon nhw addasu, dwn i ddim."
Mae Millicent wedi bod ar sawl ymweliad i weld teulu yng Nghymru dros y blynyddoedd ac ar un o'r rheiny yn 1994 fe gafodd ei chyfweld ar gyfer rhaglen Heno.
Hi @kylieminogue and @DanniiMinogue! 🇦🇺🏴 Here's an interview with your Nain - Millie Jones on Welsh TV back in 1994! 🤩
— Heno 🏴 (@HenoS4C) August 28, 2020
We should be so lucky 😉
📺 Heno Aur
📆 Nos Fercher | Wednesday
🕗 20.00 @S4C pic.twitter.com/6P8sbh05xm
Mae'n amlwg fod y nain hefyd yn dotio ar ei hwyresau enwog ond yr un mor gartrefol adref gyda'i theulu yng Nghymru.
"Mae pob un ohonyn nhw'n fy ngalw i'n Nain," meddai wrth y cyflwynydd Huw Eurig Jones.
Kylie yw un o dri phlentyn Carol a Ron Minogue, mae ei chwaer iau Dannii hefyd yn actores a chantores ac yn enwog fel beirniad ar raglen X Factor ac mae ganddyn nhw frawd o'r enw Brendan.
Dylanwad 'Nain'
"Hi ydi matriarch y teulu erioed," meddai Kylie gan ddweud ei bod yn dal i gracio jôcs er ei bod mewn gwth o oedran.
"Dwi'n hoffi meddwl fod y rhan ohona' i sy'n rhy siaradus fel arfer, bob amser â rhywbeth i'w ddweud, neu'n trio gwneud ryw sylw ffraeth, dwi'n credu bod hynna'n dod gan fy Nain.
"Mi wnaeth hi fy nysgu sut i wnïo a thorri patrymau pan o'n i'n 14 a nysgu i am altro dillad i'n ffitio i a sut i weu.
"Mae hi'n gymeriad cryf yn fy mywyd.
"Roedd y teulu o Faesteg ac roedd lot o'r teulu ym Mhort Talbot a Phen-y-bont... dyna'r oll dwi'n ei wybod," meddai.
"Dwi'n hanner Cymraes!"
Mae wedi siarad o'r blaen am ei mam a'i nain o Faesteg, gan ddweud wrth Eleri Siôn yn 2018 ei bod wedi ei magu gyda chacennau cri, llwyau caru, doliau Cymreig ac ymadroddion fel 'diolch yn fawr' a 'nos da'.
Mae Dannii Minogue wedi sôn am rai o'r geiriau Cymraeg a ddysgodd gan ei nain hefyd pan gafodd her Ddydd Gŵyl Dewi gan BBC Cymru.
Cymro o Gaerffili
Wedi sawl perthynas yn llygad y cyhoedd, Cymro yw cariad diweddaraf Kylie.
Paul Solomons o Gaerffili yw Cyfarwyddwr Creadigol cylchgrawn GQ. Dywedodd y gantores ei fod wedi gwneud ymdrech arbennig i ymarfer ychydig frawddegau o Gymraeg pan wnaeth gyfarfod Millicent am y tro cyntaf, er nad yw'n siarad yr iaith.
Fe wnaeth ei "hwyneb hi oleuo wrth i rywun siarad yn Gymraeg efo hi," meddai Kylie Minogue.
Blaenau Ffestiniog a'r clocsiwr
Ond, os mai o Faesteg mae'r teulu, pam fod Kylie Minogue yn galw "matriarch y teulu" wrth y term gogleddol Nain ac nid Mam-gu?
Daw'r ateb i hynny efallai gan yr awdur a'r cerddor Dewi Prysor, sy'n falch o hawlio ei fod o'n perthyn i Kylie hefyd drwy gysylltiad gyda Blaenau Ffestiniog, ble ganwyd mam Millicent.
Mewn pennod o raglen radio Rhys Mwyn oedd yn trafod pwy oedd yn perthyn i sêr cerddorol enwog, dywedodd Dewi ei fod wedi canfod coeden deulu Kylie ynghanol cangen o deulu ei dad.
Roedd hen hen nain Dewi, Harriet Hughes, yn chwaer i Moses Hughes "y clocsiwr", hen hen daid i Carol Jones, mam Kylie a Dannii Minogue.
Fe gafon nhw eu magu ar fferm ger Capel Celyn ond aeth cangen o'r teulu i Flaenau Ffestiniog.
"Aeth mab Moses Hughes y clocsiwr, Elias, i 'Stiniog i weithio yn y chwareli a priodi Margaret Ellis ac o'r briodas honno ddaeth cangen deuluol 'Stiniog Kylie Minogue.
"A changen o'r teulu hwnnw wedyn ffeindiodd ei ffordd i Faesteg lle ganwyd mam Kylie, Carol."
Gyda dawnsio yn rhan annatod o fod yn sêr pop fel Kylie a Dannii, a'u mam Carol yn ddawnsiwr bale cyn iddi setlo i fagu teulu, tybed a wnaethon nhw etifeddu'r ddawn gan eu cyn-daid, y clocsiwr Moses Hughes?
Dawns y glocsen - syniad i fideo nesaf Kylie efallai...
Hefyd o ddiddordeb: