Anni Llŷn: Nôl i fro fy mebyd

Published
image copyrightS4C

Nos Lun, 9 Tachwedd, bydd yr awdur a chyflwynydd Anni Llŷn yn ymddangos ar y rhaglen Adre ar S4C, yn sgwrsio am ei chartref a'i bywyd ym Mhen Llŷn.

Mae'n byw gyda'i gŵr, yr actor a chyflwynydd Tudur Phillips a'u merched bach, Martha ac Eigra ym mhentref Garnfadryn. Yma mae'n sôn am symud yn ôl at ei gwreiddiau a mwynhau llonyddwch y clo mawr.

"Rydan ni'n teimlo'n ofnadwy o lwcus ein bod ni 'di gallu symud yn ôl i fan yma," meddai Anni am y profiad o ddychwelyd i'r lle cafodd ei magu ym Mhen Llŷn a symud i'w chartref flwyddyn yn ôl.

"Wnaeth o gymryd amser i ni gyrraedd y pwynt lle o'n ni'n gallu prynu rhywle [yn yr ardal yma] a dwi'n ymwybodol iawn bod 'na lot o'n cyfoedion ni yn ei chael hi'n anodd iawn cael gafael ar eiddo ym Mhen Llŷn, ac eisiau symud adra.

"Oedd y ddau ohonan ni'n gwybod mai'r math yma o fywyd oeddan ni isho," meddai Anni, a oedd yn byw yn y brifddinas am ddeuddeg mlynedd yn cyflwyno ar S4C ac yn actio yn Ysbyty/Hospital ar Stwnsh.

Cymuned fechan a bywyd arafach oedd yr atyniad meddai, ac i fod yn nes at ei theulu.

image copyrightAnni Llyn

"Roedd Martha yn flwydd oed ac o'n ni'n gwybod ein bod ni eisiau mwy o blant. Roedd yn gam naturiol i ni fod eisiau rhoi yr un fagwraeth ag oeddan ni 'di gael - byw yng nghefn gwlad, ymwneud efo'r Aelwyd, Capel, Ffermwyr Ifanc a bod yn agos at fy mrawd sydd efo plant, a Nain a Taid [rhieni Anni].

"Oedd o ddim yn deimlad mod i wedi cael llond bol â bywyd dinesig, ond oedd o'n eitha' naturiol.

"Ers i ni ddod i Garnfadryn, dwi 'di teimlo rhyw ryddhad - fel taswn i ddim wedi sylweddoli bod y bywyd yma yn fy siwtio i cymaint, do'n i ddim yn sylweddoli mod i eisio fo gymaint."

Mae Anni a Tudur wedi adnewyddu hen fwthyn gwyliau yn gartref clyd iddyn nhw a'u dwy ferch, prosiect a gymerodd flwyddyn cyn symud i mewn.

"Mae'r tŷ yn hynod o glyd, 'da ni wedi gwirioni. Mae'r lleoliad yn berffaith ond roeddan ni'n gorfod datblygu. Bwthyn bach ydy o, tŷ gwyliau i deulu o ffwrdd oedd efo un stafell wely.

"Roeddan ni'n symud i mewn efo babi, gyda babi arall ar y ffordd, felly wnaethon ni greu stafell fach i Martha. Er mor berffaith ydy o ar hyn o bryd gobeithio gawn ni ganiatâd i ddatblygu eto.

"Wnaethon ni benderfynu ar leoliad, yn hytrach na'r tŷ perffaith. Oeddan ni'n gwybod lle oeddan ni am fod, ac oedd rhaid gweithio pethau eraill allan ar ôl byw yma."

Chwe mis ar ôl setlo i'r bwthyn, ac yn fuan ar ôl geni Eigra, daeth y cyhoeddiad am y clo mawr ym mis Mawrth. Roedd Anni yn teimlo'n lwcus iawn i fod wedi setlo erbyn hynny.

image copyrightAnni Llyn

"O'n ni'n diolch bob dydd ein bod ni yma, yn gallu mynd allan am dro.

"Oedd Martha yn ddwy oed ym mis Mawrth ac oedd gallu mynd allan yn ein cadw ni'n gall ac o'n i'n gallu ymlacio a mwynhau.

"Mae'n reit anghysbell yma, felly oeddan ni'n gallu anghofio am bethau. Roedd y gwanwyn mor fendigedig ac mi roddodd gyfle i ni sylwi ar y gwanwyn go iawn a pan dwi'n edrych yn ôl, roedd o fel dyddiau euraidd - bod adra bob dydd trwy'r dydd, a dod i nabod yr ardal a'r cymdogion a gallu stopio a rhoi amser i bobl."

Er bod Anni yn gwybod eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad iawn i fynd yn ôl at ei gwreiddiau, a hithau wedi bod yn meddwl am y peth ers rhai blynyddoedd, mi oedd hefyd elfen o hiraeth am Gaerdydd, a chlywed am brofiadau gwahanol ei ffrindiau yn y brifddinas yn ystod y cyfnod clo.

"Es i Gaerdydd i'r brifysgol, a fues i yno am 12 mlynedd. Dwi'n cofio ar ôl deg mlynedd cysidro o ddifri sut o'n i am fynd nôl adra.

"Dwi'n caru Caerdydd, a dwi'n meddwl y bydd o'n rhan o'n bywyd ni am byth.

"Mae pawb wedi ymdopi'n wahanol efo'r locdown yn dibynnu ar eu sefyllfa. Os wyt ti yng Nghaerdydd a dy deulu di yn y gogledd, rwyt ti'n magu dy ffrindiau fel teulu.

"Wnaethon ni'n llythrennol ddim mynd o fan hyn, heblaw i'r siop leol. Yng Nghaerdydd, pan ti'n mynd am dro ti'n gallu gweld ffrindiau eraill yn y parc, neu basio stondin sy'n gwerthu coffi neis neu gael têc-awê. Oedd o'n rhyfeddu fi, mi oedd locdown yn wahanol dan yr amgylchiadau yna.

image copyrightAnni Llyn
image captionTudur ac Eigra wedi concro'r Garn. Efallai nad oes têc-awê yng Ngarnfadryn ond mae'r golygfeydd yn anhygoel

"Oeddan ni'n mynd am dro am bum milltir a ddim yn dod ar draws neb nag unman oedd yn gwerthu paned. Ond o'n i'n teimlo'n lwcus ein bod ni fan hyn, ddim yn gorfod mynd i ganol pobl, ond ambell dro yn meddwl bechod 'sa ni ddim yn byw yn nes i'r ddinas i allu gael têc-awê!"

Fel i nifer fawr o bobl eleni, yn arbennig y rhai sy'n gweithio'n hunan-gyflogedig, mi gafodd y clo mawr effaith ar waith Anni a Tudur. Roedd Tudur wedi gorfod gohirio teithiau o gwmpas ysgolion Cymru lle mae fel rheol yn cynnal gweithdai a sioeau, a chafodd y clo effaith ar waith Anni hefyd, sy'n gweithio'n llawrydd.

"Oedd Eigra yn saith wythnos oed [pan gyhoeddwyd y clo mawr] ac o'n i fod ar gyfnod mamolaeth, ond gan bod ni'n hunan-gyflogedig ac fe gollodd Tudur ei waith i gyd, 100%, wnes i wedyn weithio yn fwy nag o'n i wedi cynllunio, roedd gen i waith ysgrifennu ac ati.

"Wnes i ddim cael cyfnod mamolaeth y tro cyntaf chwaith, mewn ffordd ti'n rhyw fath o gario mlaen i weithio os yw cyfleoedd yn codi.

"Rydan ni wedi arfer efo cyfnodau o ddiffyg gwaith - dydy o ddim yn deimlad dieithr. Ond mi oedd hwn yn teimlo'n wahanol, doedd dim modd cynllunio mlaen i ddim byd.

"Dwi'n meddwl mai rŵan 'dan ni wedi cyrraedd y pwynt lle rydan ni'n gweld y gallwn ni wneud gweithgareddau ar Teams mewn ysgolion.

"Mae'n rhaid i ni fod yn ddyfeisgar a dal i gredu a dal i frwydro i wneud yn siŵr ein bod yn gallu rhoi cyfleoedd ac adloniant i blant."

image copyrightS4C

Mae llawer o sôn wedi bod yn y cyfryngau am ddiffyg tai fforddiadwy mewn rhannau o Gymru, gan gynnwys Pen Llŷn, ac mae Anni ei hun wedi gweld effaith hynny arni hi a nifer o'i ffrindiau.

"Dan ni yn lwcus, mae 'na griw ifanc yma ym Mhen Llŷn, sydd naill ai wedi dod yn ôl neu heb adael, ac sydd wedi llwyddo [i gael tŷ]. Ond mae bob un ohonan ni wedi cymryd blynyddoedd i gyrraedd y pwynt yma, a wedi gorfod byw gyda rhieni [fel wnaethon ni] neu rentu, neu byw mewn carafan dros dro.

"Oeddan ni'n gwybod ers talwm mai dyna oeddan ni am wneud, ac oeddan ni 'di cyrraedd y pwynt lle o'n ni wedi penderfynu ar fynd i'r gogledd. Mi 'nath fan hyn ddod ar y farchnad, a wnaethon ni drio pob dim oeddan ni'n gallu, achos mae'r lleoliad yn berffaith.

"Ond wnaethon ni orfod brwydro i gael fan hyn."

Felly wrth i'r gaeaf agosáu, sut fydd hi yng Ngarnfadryn eleni?

"'Sgynnon ni ddim gwres canolog - stof goed a gwres trydan yn yr ystafell wely sydd yma. Mi oedd angen dod yn gyfarwydd â hynny gaeaf diwethaf, ond mae lot fwy cysurus nad oedden ni'n disgwyl iddo fod.

image copyrightAnni Llyn
image captionMwynhau'r pyllau mwdlyd. Diolch byth am y welingtons!

"Wnaethon ni joio gaeaf llynedd, roedd hi'n glyd iawn yma.

"Dwi 'di prynu ail pâr o welingtons oherwydd dim ond i ti gamu allan o'r tŷ ti'n baeddu. Mae fy holl sgidiau neis wedi eu cadw, dwi byth yn eu defnyddio!"

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig