BBC Cymru Fyw

Coronafeirws: 11 marwolaeth a 1,737 achos newydd

Published
Pynciau Cysylltiedig
  • Haint coronafeirws
image copyrightGetty Images

Mae 11 o bobl yn rhagor wedi marw gyda coronafeirws yng Nghymru yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae hyn yn golygu fod cyfanswm o 1,859 o bobl wedi marw yng Nghymru ers dechrau'r haint.

Cafodd 1,737 achos newydd eu cofnodi ddydd Gwener ac mae nifer yr achosion positif drwy'r wlad bellach yn 49,571.

  • Rheolau cenedlaethol symlach ar ddiwedd y clo byr
  • 67 achos coronafeirws ymhlith staff ffatri Peter's

Roedd y nifer uchaf o achosion newydd yn ardal cyngor Rhondda Cynon Taf lle'r oedd 278 o bobl yn bositif.

Caerdydd oedd yn ail, gyda 252 o brofion positif, ac yna Abertawe gyda 200 o achosion.

Yr ardal gyda'r gyfradd uchaf o coronafeirws yw Merthyr Tudful, lle'r oedd 608.1 o achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth yn ystod y saith niwrnod diwethaf.

Ceredigion sydd â'r gyfradd isaf o achosion o unrhyw ardal yng Nghymru - gyda 35.8 achos ymhob 100,000 o'r boblogaeth.

Fe gafodd 12,665 o brofion eu cynnal ddydd Iau.

O'r cyfanswm o 734,891 o bobl sydd wedi derbyn prawf, mae 685,320 wedi profi'n negyddol - ac mae dros filiwn o brofion wedi'u cynnal i gyd.

Yng Nghymru mae cyfran y profion sy'n dod yn ôl yn bositif, gan edrych ar y saith niwrnod diwethaf, bellach yn 17.8%.

Ond mewn naw o'r 22 awdurdod lleol mae'r gyfran yn uwch na'r cyfartaledd hwn, gyda chyfraddau profion positif ym Merthyr Tudful, Caerdydd, Caerffili, Blaenau Gwent, Abertawe a Rhondda Cynon Taf yn uwch na 20%.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cofnodi marwolaethau newydd yn ddyddiol, ond mae'r rhain fel arfer wedi digwydd dros y dyddiau blaenorol, a weithiau sawl diwrnod yn ôl.

Nid yw'r ffigyrau'n cynnwys marwolaethau preswylwyr o Bowys mewn ysbytai yn Lloegr, er bod y rhain yn cael eu cynnwys yn ddiweddarach mewn data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sydd hefyd yn dangos marwolaethau mewn cartrefi gofal, hosbisau a chartrefi pobl.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol

  • Rheolau cenedlaethol symlach ar ddiwedd y cyfnod clo byr