BBC Cymru Fyw

Traddodiadau Calan Gaeaf y Cymry

Published

Eleni ar noson Calan Gaeaf, oherwydd cyfyngiadau'r pandemig, fydd plant bach Cymru yn methu crwydro'r strydoedd yn codi ofn a chnocio ar ddrysau yn gobeithio am losin.

Roedd arferion Calan Gaeaf y Cymry flynyddoedd yn ôl yn wahanol iawn i heddiw, ac yma mae'r chwedleuwraig a pherfformwraig Mair Tomos Ifans yn sôn am yr hen draddodiadau a ddigwyddai yr adeg hon o'r flwyddyn.

media captionGWYLIWCH: Mair Tomos Ifans yn sôn am hen draddodiadau Calan Gaeaf

Mae gennym ni'r Cymry arferion, traddodiadau ac ofergoelion digon gwallgo, os nad cwbl boncyrs. Ac mae sawl un yn perthyn i noson Calan Gaeaf.

Mae Calan Gaeaf yn un o dair Gŵyl Ysbrydnos gyda Chalan Mai a Gŵyl Ifan, a chredir, ar y nosweithiau yma, bod ysbrydion y meirw yn amlwg iawn achos bod y drysau rhwng y byd yma a'r byd arall ar agor ac felly mae'r ysbrydion yn gallu mynd a dod rhwng y ddau fyd yn ddigon rhwydd.

Adrodd straeon arswyd a thaflu cnau i'r tân

image copyrightCampwillowlake / Getty Images

Ers stalwm, ar noson Calan Gaeaf, byddai pobl yn hel at ei gilydd yn eu tai (cofio hynny?) i ddawnsio a chanu i gyfeiliant y delyn a'r crwth, adrodd straeon arswyd a bwyta afalau a chnau.

Er mwyn gweld sut fyddai'r flwyddyn nesa'n argoeli roedd gan y Cymry arfer o daflu'r cnau hynny i'r tân. Pe byddai'r gneuen yn rhoi andros o glec uchel ac yna'n llosgi'n ffyrnig roedd hynny'n argoeli y byddai'r flwyddyn i ddod yn un dda iawn.

Ond os rhyw fud-losgi'n ddi-ffrwt fyddai eich cneuen chi, wel, felly hefyd eich blwyddyn. Roedd rhai hyd yn oed yn credu mai arwydd o farwolaeth oedd diffyg clec y gneuen.

Tanio coelcerth

image copyrightSiede Preis / Getty Images

Yn yr hen ddyddiau roedd y tân ynghyn ddydd a nos; yn gwresogi'r tŷ, ac wrth gwrs yn cynnal golau ar y dyddiau tywyllaf. Unwaith fyddai'r tân yn diffodd, mi fyddai'r nos dywyll yn mynd yn lle andros o arswydus yn llawn bwci-bos a chreaduriaid annaearol!

Er mai gyda noson tân gwyllt yr ydym ni'n cysylltu coelcerth y dyddiau hyn, roedd tanio coelcerth ar noson Calan Gaeaf yn hen arfer Cymreig. Byddai'r goelcerth yn cael ei thanio ar ben mynydd, bryncyn neu graig go amlwg yn yr ardal a byddai pobl yn tyrru yno i gynnal pob math o gystadlaethau a champau.

Byddai'r glaslanciau yn rhedeg rownd a rownd y goelcerth yn mynd yn nes ac yn nes at y fflamau bob tro, weithiau yn mentro rhedeg ar y slecs a'r golosg hyd yn oed! Roeddent yn herio ei gilydd hefyd i neidio dros y goelcerth wrth i'r fflamau farw a'r goelcerth fygu.

Byddai pobl hefyd yn taflu carreg i mewn i'r goelcerth ar ddechrau'r noson ac yn dychwelyd y bore wedyn i chwilio am eu carreg yn y marwydos. Mae'n debyg fod dod o hyd i'r garreg yn arwydd o lwc dda am y flwyddyn, ond gwae chi os na fyddech chi'n ei ffeindio!

Yr Hwch Ddu Gota

image copyrightKristina Balhozer

Ar ôl i'r goelcerth orffen llosgi, roedd tywyllwch dudew yn syrthio dros y fro. Dyna pryd fyddai'r perygl o gael eich dal gan yr Hwch Ddu Gota yn codi. Byddai'n ymddangos o fwg trwchus y goelcerth ac yn erlid pawb oddi yno.

Yr adeg hynny byddai pobl yn dechrau gweiddi a llafarganu rhigymau fel hyn i ochelu rhag yr hwch ddu gota a rasio tua thre am nad oedd neb eisiau bod yr olaf i gyrraedd adra:

"Ladi Wen ar bob pren"

"Adref adref am y cynta,

Hwch Ddu gwta a gipo'r ola'"

"Nos G'lan gaua'

Ar ben pob gamfa,

Hwch ddu gwta

Gipio'r ola'"

Weithiau byddai'r hwch yn ymddangos ar ben camfa neu bostyn ffens. Gwae'r olaf i gyrraedd adref am mai nhw fyddai'n cael eu dal gan yr hwch… ffordd dda o gael plant i fynd adra 'toedd?

  • Traddodiad Celtaidd 'Diwrnod y Meirw'

Pobi bara i'w rannu i'r tlodion

Arfer arall ar ddydd Calan Gaeaf oedd pobi bara a'i rannu ymysg y tlodion. 'Da chi'n gweld, roedd yr hen bobl yn credu bod rhoi bwyd i'r bobl dlawd yn y byd hwn yn anrhydeddu eu perthnasau ymadawedig - aelodau'r teulu a oedd wedi marw.

Ni fyddai neb yn gwrthod bwyd i unrhyw un a ddeuai at eu drysau ar noson Calan Gaea'. Roedd maint y cardod yn fesur o ba mor annwyl oedd yr ymadawedig iddyn nhw. Dipyn yn wahanol i'r tric o' trît sy'n boblogaidd heddiw.

Roedd arferiad hefyd i roi brechdan tu allan i ffenest bob tŷ ac wrth wneud, dweud:

"Gwen y gwnei a dy holl deulu, Hyn a gei di gennyf 'leni."

Hefyd o ddiddordeb: