BBC Cymru Fyw

Adolygiad o'r rheolau ar werthu nwyddau angenrheidiol

Published
Pynciau Cysylltiedig
  • Haint coronafeirws
image copyrightTWITTER/@NICHOLASMITH6
image captionMae Tesco wedi ymddiheuro am atal rhai siopwyr rhag prynu cynnyrch mislif mewn camgymeriad

Mae'r pwysau'n cynyddu ar Lywodraeth Cymru i wyrdroi'r penderfyniad sy'n atal archfarchnadoedd rhag gwerthu nwyddau fel dillad ac offer trydanol yn ystod y cyfnod clo.

Bellach mae dros 65,000 o bobl wedi arwyddo deiseb i'r Senedd yn gwrthwynebu'r gwaharddiad - y nifer uchaf erioed i lofnodi deiseb o'r fath.

Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y bydd cyfarwyddiadau diwygiedig i'r sector manwerthu yn cael eu cyhoeddi ddydd Mawrth.

Roedd y Prif Weinidog, Mark Drakeford wed dweud y byddai adolygiad i sut y mae'r rheolau'n cael eu gweithredu.

Ond pwysleisiodd fod y "penderfyniad sylfaenol" wrth wraidd y gwaharddiad yn gywir.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o "fethu delio gyda'r mater ac o roi negeseuon cymysg" ac mae eu harweinydd, Paul Davies AS wedi galw ar i'r Senedd ddychwelyd i drafod y mater.

Dywedodd llefarydd ar ran y Senedd y bydd y pwyllgor busnes yn cyfarfod er mwyn trafod cais Mr Davies.

Daw wrth i ddynes ddweud ar Twitter bod archfarchnad Tesco wedi ei hatal rhag prynu padiau mislif, gan achosi Tesco i honni - yn anghywir - fod Llywodraeth Cymru yn cyfrif y cynnyrch fel eitemau nad sy'n hanfodol.

Mae Tesco bellach wedi dileu'r ymateb gwreiddiol ac wedi ymddiheuro.

Dywedodd llefarydd: "Wrth gwrs bod cynnyrch mislif yn eitemau hanfodol ac maent ar gael i gwsmeriaid ym mhob un o'n siopau, gan gynnwys y rhai yng Nghymru. Anfonwyd yr ateb i'r cwsmer hwn trwy gamgymeriad ac mae'n ddrwg iawn gennym am unrhyw ddryswch a achoswyd."

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanolGweld mwy ar Twitter

Cyn y cyfnod clo byr cafodd archfarchnadoedd wybod eu bod ond yn cael gwerthu nwyddau sy'n "angenrheidiol" a bod rhaid cau y rhannau hynny o'r siop sy'n gwerthu nwyddau fel dillad, teganau a dillad gwely yn ystod y cyfnod o 17 diwrnod.

Dros y penwythnos dywedodd Llywodraeth Cymru ar Twitter bod modd i archfarchnadoedd werthu nwyddau y gellid dod o hyd iddynt mewn siopau eraill - pethau fel cardiau cyfarch.

"Pwrpas gwerthu nwyddau sy'n angenrheidiol yn unig yn ystod y cyfnod clo byr yw annog pobl i beidio treulio mwy o amser na sydd yn rhaid mewn siopau a sicrhau tegwch i fanwerthwyr eraill," medd y neges.

Mewn datganiad ychwanegodd Llywodraeth Cymru: "Bwriad y cyfnod clo byr yw lleihau cysylltiad corfforol rhwng cartrefi i'r lleiafswm posib er mwyn atal haint coronafeirws rhag lledu ac er mwyn arbed bywydau.

"Does dim dewisiadau hawdd ac mae gennym gyfnod byr ar hyn o bryd lle mae modd i ni weithredu.

"Fodd bynnag, ry'n ni'n cydnabod yr effaith ar fusnesau ac wedi sicrhau cyllid o £300m o gefnogaeth iddyn nhw yn ystod y cyfnod anodd hwn."  

image copyrightGetty Images
image captionDoes dim modd prynu teganau yn yr archfarchnad hon yng Nghaerdydd

Mewn cyfweliad â BBC Cymru ddydd Sul dywedodd Mr Drakeford fod y "sefyllfa y mae Cymru yn ei hwynebu yn gwbl ddifrifol ac am y pythefnos nesaf rydyn yn gofyn i bobl aros adref a pheidio â chymysgu ag eraill".

"Os nad yw'r rheolau yn rhesymol, mi wnawn ni newid hynny - ond dyw'r argyfwng iechyd cyhoeddus ddim wedi diflannu," meddai.

"Ein penderfyniad gwreiddiol yw'r un iawn. Os oes angen ailedrych ar sut mae'r rheolau yn cael eu gweithredu a'u dehongli - yna mi wnawn ni hynny.

"Does dim hawl gwerthu nwyddau dianghenraid yn ystod y pythefnos nesaf. Dyna pam mae cannoedd o siopau ar hyd ac ar draws Cymru ar gau. Nid siopa sydd wrth wraidd y penderfyniad ond achub bywydau."

Yn dilyn y drafodaeth dros y penwythnos fe gadarnhaodd y Prif Weinidog y bydd adolygiad i sut y mae'r rheolau'n cael eu gweithredu yn digwydd ddydd Llun.

image copyrightGetty Images

Yn ôl pennaeth Consortiwm Masnachu Cymru (WRC), Sara Jones mae masnachwyr mewn "sefyllfa anodd iawn" oherwydd bod dim rhestr benodol o eitemau y mae'n gyfreithlon i'w gwerthu yn ystod y cyfnod clo.

"Mae mor ddryslyd," meddai wrth raglen Breakfast BBC Radio Wales. "Rydym angen eglurder nawr felly mae i'w groesawu bod Llywodraeth Cymru'n edrych ar adolygu hyn ac wrth gwrs fe weithiwn ni gyda nhw i lywio'n ffordd drwyddi.

"Mae masnachwyr wedi gwneud ymdrech anferthol yn y dyddiau diwethaf i geisio gweithredu hyn mewn amser byr iawn.

"Rwy'n meddwl bod y polisi yma'n anghywir oherwydd yn hytrach na sicrhau tegwch mae'n creu enillwyr a chollwyr. Mae'n gwthio pobl ar-lein ac mewn gwirionedd yn ystumio'r gystadleuaeth."

Galw ar i'r Senedd ddychwelyd

Wrth alw ar i'r Senedd ddychwelyd i drafod y mater, dywed arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Paul Davies: "Mae pobl yn poeni eu bod yn cael eu rhwystro rhag prynu nwyddau fel llyfrau, biniau a dillad plant yn eu siopau lleol a bod hyn yn eu gorfodi i siopa ar-lein neu deithio i sawl siop i chwilio amdanynt."

Mae'n dweud y dylai fod modd i'r Senedd drafod y mater ar y we.

Mae'r Llywydd Elin Jones wedi cael cais i wneud sylw.

Beth mae'r cyfnod clo byr yn ei olygu?

Fel yn achos y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf ym mis Mawrth, mae'n rhaid i bobl aros adref er mwyn mynd i'r afael â'r cynnydd diweddar mewn achosion coronafeirws.

Bydd yn rhaid cael rheswm dilys i adael eich cartref, sef:

  • prynu bwyd;
  • casglu meddyginiaethau;
  • darparu gofal;
  • ymarfer corff;
  • mynd i weithio, os nad yw'n bosib gweithio o adref. Mae gweithwyr allweddol yn eithriad i hyn.

Bydd yn rhaid parhau i wisgo mygydau mewn mannau dan do cyhoeddus, sy'n parhau ar agor.

Bydd archfarchnadoedd, fferyllfeydd, banciau a swyddfeydd post yn parhau ar agor, ond bydd pob siop nad sy'n gwerthu nwyddau hanfodol yn cau o 18:00 ddydd Gwener.

Fel yn achos y cyfnod clo gwreiddiol, mae busnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden hefyd yn gorfod cau, ond bydd modd i fwytai gynnig gwasanaeth prydau parod.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol

  • 'Bydd gwaharddiad archfarchnadoedd yn aros'