BBC Cymru Fyw

Cyfnod clo byr a llym: Y farn yng Nghaernarfon

Elen Wyn
Gohebydd BBC Cymru

Published
Pynciau Cysylltiedig
  • Haint coronafeirws

Mae mwgwd Lloyd George ar y maes wedi datod erbyn hyn, ond mae rheolau Covid-19 yn amlwg o gwmpas y strydoedd, a phobl y dre'n barod am glo arall

Mae Erica Jones yn byw ar ei phen ei hun efo'i mab sy'n wyth oed, ac mae ganddo asthma.

"Da ni di bod i siopa ddoe i 'neud yn siŵr fod gennym ni ddigon o fwyd am fis, rhag ofn i hwn fynd ymlaen ymhellach," meddai.

"Mae gweithgareddau yn mynd i fod dipyn bach yn ddigalon am ein bod ni'n styc yn tŷ, ond eto ma'n well bod yn styc yn tŷ ac yn saff dydi."

image caption"Ma'n well bod yn styc yn tŷ ac yn saff," meddai Erica Jones

Ond mae John Parry wedi cael llond bol, ac yn deud na fydd o'n cadw at y rheolau.

"Dwi'm yn cymryd dim notice ohonyn nhw," meddai.

"Dwi ddim yn mynd i gadw at y rheolau, 'na i be dwi isio gwnaf.

"Pam bod rhaid i fi wrando arnyn nhw? Dydyn nhw ddim yn gwrando arna ni."

image caption"Dwi ddim yn mynd i gadw at y rheolau - 'na i be dwi isio," meddai John Parry

Tra fo John wedi 'laru, mae'r clo byr yn werth yr aberth meddai Wil Macintyre Huws sy'n ei 80au ac yn byw ar ei ben ei hun.

"Mae'n rhaid i bawb 'neud ei ran dwi'n meddwl, a bihafio, a ddim cymryd mantais o bob dim," meddai.

"Dwi ddim yn edrych 'mlaen i fod adra trwy'r dydd, ond be 'nawn ni 'mond trio ynde."

image captionDydy'r gefnogaeth i fusnesau ddim yn ddigonol yn ôl Gavin Owen

Mi fydd 'na £300m o gyllid Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau dros y cyfnod clo.

Er yr help, dydy hynny ddim yn ddigon yn ôl Gavin Owen, perchennog siop y Tŷ Siocled.

"Da ni'n gwybod bo ni'n cael £1,000 yn syth, fel y £10,000 gafon ni yn y lockdown cynta'," meddai.

"Ma' hynny yn mynd i fod yn help, yndi, ond dio'm yn agos at be ddylsan ni fod yn ei gael i edrych ar ôl y busnes."

image captionMae Manon Ellis yn ddigon hapus cau am gyfnod er mwyn ailagor erbyn masnach y Nadolig

O orfod cau ei siop am gyfnod, dyma'r dewis gorau meddai Manon Ellis, perchennog siop anrhegion ar Stryd y Plas.

"Da ni fel cymuned - pawb ar y stryd yn hapus i 'neud am gyfnod byr," meddai.

"Dydi hyn ddim yn amseru perffaith, ond os oes rhaid, mae'n well fod o'n digwydd rŵan fel bo gennym ni obaith i gael cyfnod eitha' da cyn y Nadolig."

Dim digwyddiadau Calan Gaeaf

Felly, am eleni, fydd yna ddim digwyddiadau Calan Gaeaf na thân gwyllt yma yng Nghaernarfon nac unrhyw le arall yng Nghymru.

Ond, mi geith ddigwyddiadau Sul y Cofio barhau dan drefniadau penodol.

Mae Prif Weinidog Cymru wedi deud bod y cyfrifoldeb ar bawb i barchu rheolau'r clo byr i wneud yn siŵr fod y mesurau'n llwyddo.

image caption"Da' ni'n neud o er mwyn lles pobl eraill," meddai Rhian Williams am y cyfnod clo

I Rhian Williams, sy'n nain i saith - mi fydd yna hiraeth unwaith eto am gwmni teulu. 

"Dyma Deian yr ŵyr yn gofyn i mi ddoe - 'dwi dal yn cael dod i chwarae pêl droed yn sied yndw Nain?'

"'Nagwyt fy ngwas i', medda fi. Ac wedyn ma'r ŵyr hynaf yn cael ei ben-blwydd yn 17 wythnos nesa.

"Oeddan ni wedi deud, 'reit fydd 'na ddim tân gwyllt yn dre, 'na i 'neud hotdogs a gawn ni hwyl yn yr ardd', ond gawn ni ddim rŵan.

"Ond, be dwi'n ddeud ydy - da' ni'n neud o er mwyn lles pobl eraill. I gadw y bobl a staff y gwasanaethau iechyd yn ddiogel." 

image captionMae Dewi Jones a Chris Summers wedi bod yn paratoi prydau i'r rheiny mewn angen fel rhan o gynllun Porthi Pawb

Yn ffreutur Ysgol Syr Hugh Owen mae cynllun gwirfoddol Porthi Pawb wedi paratoi dros 250 o brydau cartref i'w dosbarthu yr wythnos hon.

Mi ddechreuodd y cwbl 'nôl ym mis Mawrth yn ystod y cyfnod clo, a hynny ar gyfer yr henoed, ond mae'r angen wedi newid a chynyddu wrth i'r clo newydd ddechrau, yn ôl trefnydd y cynllun Chris Summers.

"Mae 'na lot o deuluoedd yn gweld eu hunan mewn lot o dlodi achos oeddan nhw methu mynd allan i weithio," meddai.

"Oedd y benefits oedd ar gael ddim mor hawdd iddyn nhw eu cael, achos y gwaith oedd ganddyn nhw cynt.

"Felly, oeddan ni yn sylweddoli bo' ni yn bwydo lot o deuluoedd oedd ddim fel arfer mewn angen am wasanaethau fel hyn."

'Trist fod yna gymaint o angen'

Yn ystod y clo gwreiddiol, mi gollodd Dewi Jones ei waith mewn cwmni arlwyo. Mae o rŵan yn gwirfoddoli â chynllun Porthi Pawb.

"Ma' pawb yn haeddu un pryd cynnes, braf, maethlon - ma' hynny i fi yn ddigon o reswm i wirfoddoli," meddai.

"Ma' hi'n drist fod yna gymaint o angen amdana fo, ond hefyd dwi'n falch bo' ni yma i allu neud o." 

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol

  • Cyfnod clo byr yn dod i rym yng Nghymru