BBC Cymru Fyw

Galwadau i ailagor Tŷ’r Cymry yng Nghaerdydd

Published
image captionMae'r adeilad wedi bod yn gartref i sefydliadau fel UCAC, yr Urdd, Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith

Mae galwadau ar berchnogion Tŷ'r Cymry yng Nghaerdydd i beidio â gwerthu'r adeilad wedi iddo gau ym mis Medi.

Mae'r adeilad wedi bod yn gartref i nifer o sefydliadau ers iddo gael ei sefydlu yn 1936 - gan gynnwys Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, yr Urdd, Plaid Cymru, Cymdeithas yr Iaith a Chylch Meithrin Tŷ'r Cymry.

Mae un o gyn-denantiaid yr adeilad - Cymdeithas yr Iaith - bellach yn galw ar yr ymddiriedolwyr i gadw'r tŷ ar agor er mwyn ei ddatblygu i fod yn "ofod cymdeithasol newydd ar gyfer yr iaith yng Nghaerdydd".

Yn ôl Bethan Ruth, cadeirydd cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith: "Mi fyddai cau'r lle yn gam yn ôl i'r Gymraeg yn y brifddinas."

Dywedodd ymddiriedolwyr Tŷ'r Cymry eu bod nhw'n "cydnabod pwysigrwydd yr adeilad i ddiwylliant cymuned Cymraeg Caerdydd", ond bod yr adeilad "wedi mynd yn adfail, ac nad oes cymorth ariannol digonol ar gael i barhau i redeg yr adeilad bellach".

image captionCafodd Tŷ'r Cymry ei sefydlu yn 1936 "i Gymry Caerdydd"

"Mae hanes pwysig i Dŷ'r Cymry yn adferiad yr iaith yng Nghaerdydd, a does dim rheswm i hynny ddod i ben," meddai Ms Ruth.

"Dydyn ni ddim yn galw am gadw pethau fel maen nhw wedi bod - mae pob math o bosibiliadau, ac mae'n amlwg bod angen datblygu'r ganolfan a buddsoddi ynddi.

"Yn hytrach, rydyn ni'n galw ar y perchnogion i basio'r cyfrifoldeb ymlaen i griw newydd fyddai'n gallu ailsefydlu'r lle fel canolfan Gymraeg gyfoes ar gyfer Caerdydd yr unfed ganrif ar hugain."

  • Cwblhau'r gwaith o adfer 'wal Tryweryn'
  • Canolfan Bedwyr yn 'ran bwysig o strwythur Bangor'

Cafodd Tŷ'r Cymry ei roi "i Gymry Caerdydd" yn 1936 gan y ffermwr Lewis Williams o Fro Morgannwg er mwyn hybu'r iaith Gymraeg yn y ddinas.

Un sy'n cofio mynd i'r adeilad yn yr 1940au cynnar yw Gwilym Roberts o Gaerdydd.

image captionMynychodd Gwilym Roberts Dŷ'r Cymry yn ei arddegau

"O'n i'n ddisgybl yn ysgol ramadeg y bechgyn Penarth ar y pryd," meddai.

"O'n i yn y chweched dosbarth, ac mi benderfynais fynd i ymuno a Thŷ'r Cymry, ac roedd Tŷ'r Cymry yn yr adeg yna yn llawn bywyd.

"Mi oedd yna ddau gyfarfod bob wythnos - un ar nos Sul ac un ar nos Fawrth - ac yn y cyfnod yna, Tŷ'r Cymry oedd yr unig le seciwlar yng Nghaerdydd ar gyfer y Cymry Cymraeg, ac roedd pobl ifanc yn dod o bob cwr o Gymru yno.

"Ddoth Tŷ'r Cymry mewn gwirionedd yn fiwro priodasau, achos mi wnaeth llawer iawn o aelodau Tŷ'r Cymry briodi.

"O'dd o'n lle llawn bwrlwm am flynyddoedd."

'Trist bod y cwbl ar ben'

Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i ni gofio cyfraniad Tŷ'r Cymry i ddatblygiad yr iaith yng Nghaerdydd.

"Mae'n drist i feddwl bod y cwbl wedi dod i ben rŵan.

"Ond ar y llaw arall mae bywyd wedi symud yn ei flaen ac mae cymaint o bethau rŵan sy' 'di cymryd lle Tŷ'r Cymry."

image captionBu Wyn James yn defnyddio'r adeilad fel man cyfarfod cyntaf gwasanaethau Eglwys Efengylaidd Caerdydd

Mae defnydd Tŷ'r Cymry wedi esblygu dros y blynyddoedd, o fod yn fan cyfarfod cymdeithasol i nifer o Gymry Caerdydd yn yr 1940au, i fod yn gartref i nifer o sefydliadau sydd wedi chwarae rhan amlwg yn niwylliant Cymraeg Caerdydd.

Roedd Wyn James yn arfer mynychu gwasanaethau Eglwys Efengylaidd Caerdydd yn Nhŷ'r Cymry yn yr 1980au.

Dywedodd Mr James bod y ganolfan wedi bod yn "lle pwysig iawn" o "safbwynt dysgwyr", "safbwynt y cylch meithrin", a hefyd "o safbwynt datblygu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, nid yn unig yng Nghaerdydd, ond trwy Gymru gyfan mewn gwirionedd, trwy Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru".

"Mae'r lle wedi bod yn allweddol o safbwynt dechreuadau addysg ffurfiol trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg," meddai.

"Beth fyddai rhywun yn gobeithio - hyd yn oed os yw'r tŷ presennol yn mynd am ba reswm bynnag - yw y bydde 'na falle ganolfan arall yn cael ei brynu gyda'r arian o'r tŷ mewn rhyw ran arall o Gaerdydd."

Pynciau Cysylltiedig

  • Diwylliant Cymru
  • Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
  • Yr iaith Gymraeg
  • Caerdydd

Straeon perthnasol

  • Cwblhau'r gwaith o adfer 'wal Tryweryn'